Os oes gennych o leiaf 2 flynedd o wasanaeth cymwys yn yr LGPS, neu os ydych wedi trosglwyddo buddion pensiwn o gynllun arall, mae hawl gennych i dderbyn taliad buddion pensiwn ar unwaith os yw ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol wedi ardystio:
- nad ydych yn gallu ymgymryd â dyletswyddau’ch swydd yn barhaol, ac
- nad ydych yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig
Diffiniad gwaith cyflogedig yw ‘cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos am o leiaf 12 mis.’
Gellir talu buddion salwch ar unrhyw oed ac ni chânt eu gostwng ar gyfer taliad cynnar. Efallai y gellir cynyddu’ch buddion, gan ddibynnu ar raddau’ch analluogrwydd.
Haen 1
Os yw’n annhebygol y byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn oedran pensiwn arferol (h.y. yn gyfartal ag oedran pensiwn y wladwriaeth, neu o leiaf 65 oed), cyfrifir buddion salwch ar:
- unrhyw aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014, ynghyd â
- swm y pensiwn a gronnwyd o 1 Ebrill 2014 (neu ddyddiad cael eich derbyn i’r LGPS os yw’n hwyrach na hynny) tan ddyddiad terfynu’ch cyflogaeth, ynghyd â’r
- pensiwn a fyddai wedi’i gronni pe baech wedi bod ym mhrif adran y cynllun o ddyddiad terfynu’ch cyflogaeth tan yr oedran pensiwn arferol
Haen 2
Os yw’n annhebygol y byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd i adael y swydd, ond mae’n debygol y byddwch yn gallu gwneud hynny cyn cyrraedd yr oedran pensiwn arferol, cyfrifir buddion salwch ar:
- unrhyw aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014, ynghyd â
- swm y pensiwn a gronnwyd o 1 Ebrill 2014 (neu ddyddiad cael eich derbyn i’r LGPS os yw’n hwyrach na hynny) tan ddyddiad terfynu’ch cyflogaeth, ynghyd â
- 25% o’r pensiwn a fyddai wedi’i gronni pe baech wedi bod ym mhrif adran y cynllun o’r dyddiad terfynu cyflogaeth tan yr oedran pensiwn arferol
Haen 3
Os yw’n debygol y byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd i adael, bydd eich buddion ar gyfer:
- unrhyw aelodaeth a gronnwyd hyd at 31 Mawrth 2014, ynghyd â
- swm y pensiwn a gronnwyd o 1 Ebrill 2014 (neu’r dyddiad y cawsoch eich derbyn i’r LGPS, os yw’n hwyrach na hynny) tan ddyddiad terfynu’ch cyflogaeth yn cael eu rhyddhau heb ychwanegiadau a byddant yn daladwy nes i chi ddechrau gwaith cyflogedig neu am hyd at 3 blynedd.
Bydd eich cyn-gyflogwr yn adolygu’ch achos ar ôl 18 mis i asesu a yw’ch cyflwr wedi gwella neu waethygu. Bydd eich pensiwn yn dod i ben os bernir eich bod yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig neu, os yw’ch cyflwr wedi gwaethygu, gall benderfynu dyfarnu pensiwn haen 2.
Os ydych yn cael eich ailgyflogi o fewn y 3 blynedd, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyn-gyflogwr a rhoi manylion eich swydd newydd, fel y gall asesu a yw’r gyflogaeth yn bodloni meini prawf gwaith cyflogedig.
Sylwer, caiff UNRHYW ordaliad pensiwn ei adennill yn unol â hynny.
Os ydych yn cyrraedd yr oedran pensiwn arferol (h.y. yn gyfartal ag oedran pensiwn y wladwriaeth, neu o leiaf 65 oed) cyn diwedd y 3 blynedd, bydd eich buddion pensiwn yn parhau i gael eu talu.
Os oeddech yn aelod o’r LGPS ar 31 Mawrth 2008 ac yn 45 oed neu’n hŷn ar y dyddiad hwnnw, mae mesurau diogelu ar waith i sicrhau na fydd eich buddion ymddeoliad salwch yn llai nag y byddent wedi bod yn ôl rheolau’r cynllun fel yr oedd ar waith cyn 1 Ebrill 2008.