Os oes gennych gontract cyflogaeth am o leiaf 3 mis ac rydych yn iau na 75 oed, byddwch yn dod yn aelod awtomatig o LGPS 2014 (gyda’r opsiwn i eithrio), oni bai:
- Rydych yn cael eich cyflogi gan gorff dynodedig, fel arfer cyngor tref neu gymuned, ac ni allwch ymaelodi oni bai bod eich cyflogwr yn eich enwebu am aelodaeth y cynllun, neu
- Rydych yn cael eich cyflogi gan gorff derbyniedig lle mae’n rhaid i chi ddewis ymaelodi
Os yw eich contract am lai na 3 mis, ni fyddwch yn aelod awtomatig o’r Cynllun Pensiynau ond gallwch ddewis ymaelodi os dymunwch.
Os yw eich contract am lai na 3 mis i ddechrau, ond mae’n cael ei estyn am gyfnod sy’n hwy na 3 mis, os ydych yn iau na 75 oed, cewch eich cofrestru gyda’r cynllun o ddyddiad estyn y contract (heb yr hawl i ymeithrio).
Os ydych wedi dewis ymeithrio o’r cynllun yn y gorffennol ac rydych am ailymuno, gallwch wneud hyn drwy lenwi Ffurflen Dewis Ailymuno.