Er mwyn cronni credyd pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS), mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, ceir achlysuron pan fyddwch yn absennol o’r gwaith ac yn cael llai o dâl neu ddim tâl o gwbl.
Salwch Ardystiedig
Os ydych yn derbyn llai o dâl neu ddim tâl o gwbl oherwydd salwch ardystiedig, byddwch yn parhau i dalu’ch cyfraniadau ar unrhyw dâl rydych yn ei dderbyn pan fyddwch yn sâl. Os ydych ar gyfnod o salwch di-dâl, ni fyddwch yn talu unrhyw gyfraniadau.
Cyfrifir eich pensiwn am y cyfnod hwn gan ddefnyddio’ch tâl pensiynadwy tybiedig yn hytrach na swm y tâl pensiynadwy rydych yn ei dderbyn mewn gwirionedd pan fyddwch yn absennol oherwydd salwch. Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i gronni pensiwn yn yr adran o’r LPGS rydych ynddi, yn union fel pe baech yn gweithio’n arferol ac yn derbyn tâl.
Os ydych yn yr adran 50/50 ac yn mynd ar gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl, cewch eich symud yn awtomatig i brif adran y cynllun o ddechrau’r cyfnod tâl nesaf os ydych yn dal i fod heb dâl ar y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn golygu o’r pwynt hwnnw ymlaen y byddwch yn cronni’r buddion pensiwn llawn yn y LGPS er nad ydych yn talu cyfraniadau pensiwn.
Caniatâd Absenoldeb Awdurdodedig
Os cewch ganiatâd absenoldeb di-dâl, gan gynnwys gwasanaeth rheithgor, ni fyddwch yn gallu cyfrif y cyfnod o absenoldeb di-dâl at ddibenion pensiwn oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i brynu swm y pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod absenoldeb hwnnw.
Absenoldeb Mamolaeth/Tadolaeth/Mabwysiadu
Yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu â thâl, byddwch yn parhau i dalu’ch cyfraniadau ar unrhyw dâl rydych yn ei dderbyn.
Cyfrifir eich pensiwn ar gyfer y cyfnod hwn gan ddefnyddio’ch tâl pensiynadwy tybiedig yn hytrach na swm y tâl pensiynadwy rydych yn ei dderbyn mewn gwirionedd pan fyddwch ar absenoldeb sy’n gysylltiedig â phlant. Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i gronni pensiwn yn adran yr LPGS rydych ynddi, fel pe baech yn gweithio’n arferol ac yn derbyn tâl.
Ni fyddwch yn gallu cyfrif unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl at ddibenion pensiwn oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i brynu swm y pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb di-dâl.
Anghydfod Diwydiannol
Os ydych yn absennol am ddiwrnod neu fwy oherwydd anghydfod diwyddiannol, ni fydd y cyfnod yn cyfrif at ddibenion pensiwn oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i brynu swm y pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod hwnnw o absenoldeb.
Prynu ‘pensiwn a gollwyd’ yn ôl
Ni fyddwch yn gallu cyfrif unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl neu anghydfod diwyddiannol at ddibenion pensiwn oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i brynu swm y pensiwn a gollwyd yn ystod y cynfod hwnnw o absenoldeb di-dâl/anghydfod diwyddiannol.
Cyfrifir swm y pensiwn a gollwyd yn 1/49 o’ch tâl pensiynadwy tybiedig ar gyfer cyfnod yr absenoldeb os oeddech ym mhrif adran y cynllun, neu 1/98 os oeddech yn yr adran 50/50.
Os ydych am brynu’r swm o bensiwn a gollwyd, ac yn cyflwyno’ch dewis o fewn 30 niwrnod o ddychwelyd i’r gwaith, yna rhennir cost y Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol rhyngoch chi a’ch cyflogwr. Byddwch chi’n talu traean o’r gost a bydd eich cyflogwr yn talu’r gweddill. Gelwir hyn yn Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol Cost wedi’i Rannu (SCAPC). Gallwch dalu’r cyfraniadau ychwanegol hyn fel un cyfandaliad neu drwy daliadau rheolaidd o’ch cyflog dros gyfnod cytunedig.
Y cyfnod absenoldeb hwyaf y gallwch ddewis prynu SCAPC yn ôl yw cyfnod o 3 blynedd.
Os oeddech yn aelod o’r LGPS cyn 1 Ebrill 2014 , os ydych yn dewis talu am y pensiwn coll yn y cynllun, bydd y swm rydych yn ei dalu’n cyfrif tuag at y dulliau diogelu sy’n gysylltiedig â’r aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014. Gweler Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014.
Gallwch ddefnyddio’r ddolen hon i brynu cyfrifiannell ar-lein a fydd yn dangos faint byddai’n ei gostio i brynu ‘pensiwn coll’ yn ôl.Os ydych yn penderfynu bwrw ymlaen â’r prynu, argraffwch y ffurflen gais a’i llofnodi a’i hanfon i’r Is-adran Bensiwn. Bydd angen tystysgrif feddygol fel prawf bod eich iechyd yn dda o ran eich oed, ac anfonir manylion atoch ar ôl i’r ffurflen gais gael ei derbyn.
Fel arall, gallwch gysylltu â’r Is-adran Bensiwn am fwy o wybodaeth am dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i brynu pensiwn coll yn ôl.
Sylwer, mae’n rhaid parhau i dalu unrhyw gontract cyfraniadau pensiwn ychwanegol sydd eisoes yn bod yn llawn yn ystod yr absenoldeb.
Absenoldeb Lluoedd Wrth Gefn
Os ydych ar gyfnod o absenoldeb o’r lluoedd wrth gefn ac yn dewis aros yn yr LGPS, cyfrifir eich pensiwn gan ddefnyddio’ch tâl pensiynadwy tybiedig fel pe baech yn gweithio yn hytrach nag ar gyfnod o seibiant o’r lluoedd wrth gefn. Ni ddidynnir unrhyw gyfraniadau pensiwn o unrhyw dâl a dderbynnir gan eich cyflogwr.
Bydd angen i’ch cyflogwr ddweud wrthych swm y cyfraniadau pensiwn y mae’n rhaid i chi a’r Weinyddiaeth Amddiffyn eu talu, swm y cyfraniadau ychwanegol rydych yn eu talu i’r LGPS a swm y tâl pensiynadwy tybiedig y mae’n rhaid casglu’r cyfraniadau arnynt. Bydd angen i chi drosglwyddo’r wybodaeth yma i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fel y gall ddidynu’ch cyfraniadau o’ch tâl a’u trosglwyddo i’r Gronfa Bensiwn ynghyd â’r cyfraniadau sy’n ddyledus gan y cyflogwr.
Seibiant Anawdurdodedig
Ni allwch dalu cyfraniadau pensiwn ychwanegol o ran unrhyw seibiant anawdurdodedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi barhau i dalu unrhyw gontract cyfraniad pensiwn ychwanegol yn llawn.