• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma:Hafan / Gweithwyr Presennol / Yn Ystod eich Aelodaeth / Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)

Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)

Mae cyfraniadau pensiwn ychwanegol yn ffordd o ychwanegu at eich pensiwn yn uniongyrchol trwy Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe – rydych yn talu swm penodol, ac mae hynny’n ychwanegu swm penodol at eich pensiwn. Gallwch ddefnyddio CPY i brynu pensiwn ychwanegol oherwydd eich bod am wneud hynny, neu er mwyn dal i fyny yn dilyn seibiant lle nad ydych wedi talu cyfraniadau, trwy brynu pensiwn coll yn ôl. Mae uchafswm o ran faint gallwch ychwanegu at eich pensiwn ( £8,903 ar hyn o bryd ond bydd hyn yn newid pob blwyddyn yn unol â chost byw.)

Prynu Pensiwn Ychwanegol

Manteision 

  • Mae’r CPY yn eich galluogi i gronni pensiwn ychwanegol o fewn eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Gallwch ddefnyddio hyn er mwyn cael buddion ymddeoliad ychwanegol.
  • Mae’r cyfraniadau rydych yn eu gwneud yn daliadau treth effeithlon gan eich bod yn talu’r arian yn uniongyrchol o’ch cyflog cyn talu treth. Gallwch dalu am y pensiwn ychwanegol hwn yn rheolaidd dros nifer o flynyddoedd yn uniongyrchol o’ch tâl neu fesul cyfandaliad (naill ai o’ch tâl neu yn uniongyrchol i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe). Yr isafswm amser y gallwch ymestyn taliadau CPY yw dros 12 mis.
  • Gallwch ddewis stopio talu CPY ar unrhyw adeg trwy roi gwybod i ni’n ysgrifenedig. Byddwch yn cael eich credydu â’r pensiwn ychwanegol yr ydych wedi ei dalu ar adeg rhoi’r gorau i wneud y taliadau.

 Lefel gyfrannu 

Mae’r gost yn dibynnu ar nifer o bethau – eich oed, rhyw, cyfnod talu a faint o bensiwn ychwanegol yr ydych eisiau ei brynu. Gallwch dalu’n fisol neu fel cyfandaliad.

Er enghraifft, mae Christine yn 38 oed ac eisiau prynu £2,000 o bensiwn blynyddol ychwanegol. Byddai hyn yn costio:

  • £18,400.00 fel cyfandaliad
  • £801.40 y mis os yw hi’n talu dros 2 flynedd.

I gael gwybodaeth am faint bydd CPY yn eu costio, defnyddiwch y gyfrifiannell CPY

Cymryd eich arian

Os ydych chi’n dewis ymddeol yn gynnar (cyn eich Oedran Pensiwn Arferol) bydd y pensiwn ychwanegol yr ydych wedi ei brynu yn cael ei ostwng ar gyfer taliadau cynnar. Os ydych yn dewis cymryd eich pensiwn ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol bydd unrhyw bensiwn ychwanegol yr ydych yn ei brynu’n cynyddu oherwydd ei fod yn cael ei dalu’n hwyrach.

Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch ddewis cyfnewid peth o’r pensiwn ychwanegol yr ydych wedi ei brynu am gyfandaliad arian parod di-dreth yn yr un modd â’ch prif bensiwn CPLlL.

Os ydych yn marw wrth wasanaethu ni fydd unrhyw fuddion ychwanegol o’ch contract CPY yn daliadwy. Mae hyn oherwydd bod y pensiwn ychwanegol yr ydych yn ei brynu ar eich cyfer chi’n unig.

Os ydych yn penderfynu dechrau trefniant CPY ac yn dewis talu’r CPY yn fisol bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol ar eich traul eich hun a darparu tystysgrif iechyd gweddol dda cyn y gallwch brynu pensiwn ychwanegol.

Prynu Pensiwn Coll yn Ôl

Mae hyn yn ffordd dda o ddal i fyny â phensiwn coll yn dilyn seibiant, megis absenoldeb rhieni di-dal. Darllenwch yr Is-adran ar Absenoldeb o’r Gwaith am fwy o wybodaeth ynghylch pa absenoldebau sy’n gymwys.

Gweithredu streic a phensiwn

Gallwch brynu pensiwn “coll” yn ôl os, er enghraifft, ydych wedi bod ar streic, ond ni fyddai’ch rheolwr yn rhannu’r gost. Bydd yn rhaid i chi dalu’r holl gostau sy’n gysylltiedig â hyn.

Os ydych yn prynu pensiwn “coll” yn ôl trwy’r CPY nid oes angen tystysgrif iechyd gweddol dda arnoch.

Sut mae gwneud cais

I ganfod faint bydd CPY yn ei gostio, defnyddiwch y gyfrifiannell CPY

Unwaith yr ydych wedi mewnbynnu eich manylion i’r gyfrifiannell ac wedi derbyn pris, os ydych eisiau parhau, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar y dudalen gyfrifiannell a’i dychwelyd i’r cyfeiriad canlynol:

Is-adran Bensiynau
Neuadd y Ddinas
ABERTAWE
SA1 4PE

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau
  • Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
  • Statement from the Wales Pension Partnership and the LGPS in Wales

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2025 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg