• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma:Hafan / Gweithwyr Presennol / Yn Ystod eich Aelodaeth / Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil

Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil

Os byddwch wedi ysgaru neu os yw’ch partneriaeth sifil wedi’i diddymu, fe all effeithio ar eich pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Gofynnir i chi ddatga- eich buddion ariannol, a fydd yn cynnwys eich pensiwn o dan y CPLlL. Yna bydd y Llys yn ystyried y pensiwn hwn wrth benderfynu ar unrhyw setliad i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil.

Felly bydd angen i chi a’ch cyn-briod/cyn-bartner sifil ddweud wrth y Llys am werth unrhyw bensiynau sydd gennych (ac eithrio Pensiwn y Wladwraieth). Yna fe allwch gytuno sut y dylid rhannu unrhyw bensiynau a bydd y Llys yn cyhoeddi naill ai Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi Pensiwn i gadarnhau’r setliad.

Beth yw Gorchymyn Rhannu Pensiwn?

Mae Gorchymyn Rhannu Pensiwn yn drefniant sy’n rhannu’ch pensiwn pan fyddwch wedi ysgaru neu pan fydd eich partneriaeth sifil wedi’i diddymu, fel bod eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael rhan o’ch pensiwn.

Beth yw Gorchymyn Clustnodi Pensiwn?

Mae Gorchymyn Clustnodi yn drefniant lle telir rhan o bensiwn un person i’r cyn- briod neu gyn-bartner sifil pan delir y pensiwn hwnnw. Gall hyn fod naill ar ffurf cyfandaliad neu’n rhan o’ch pensiwn blynyddol. Yna bydd y taliad hwn yn dod i ben pan fyddwch chi’n marw neu os bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn ailbriodi neu’n ymuno â phartneriaeth sifil newydd.

Beth os ydych chi eisoes yn derbyn pensiwn CPLlL?

Os ydych chi eisoes yn derbyn eich pensiwn CPLlL, dim ond cyfran o’ch pensiwn blynyddol y bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn ei dderbyn ac ni fydd ganddo’r opsiwn i dderbyn cyfandaliad arian parod di-dreth.

Beth yw’r broses?

Bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich buddion CPLlL fel rhan o’r achos ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys amcangyfrif o Werth sy’n Cyfateb i Arian Parod (CEV) eich pensiwn.

Mae’r siart a ganlyn yn dangos sut y bydd y broses yn gweithio.

Gofynnwch i’r Gronfa Bensiwn am Werth sy’n Cyfateb i Arian Parod (CEV)Bydd y Gronfa Beniswn yn darparu CEV i chi cyn pen 3 mis o ddydiad eich cais, neu’n gynt os am ddydiad Llys. Os ydych eisioes wedi derbyn CEV am ddim o fewn 12 mis i ddyddiad y cais, efallai y bydd cost. 
Mae’r Llys yn cyhoeddi Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi
Rydych chi neu’ch cyfreithiwr yn rhoi’r Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi i’r Gronfa BensiwnBydd y Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi yn nodi cyfran y pensiwn sydd i’w rannu neu ei glustnodi. Bydd Gorchymyn Rhannu Pensiwn hefyd yn dangos y dyddiad y mae’n effeithiol.
Mae’r Gronfa Bensiwn yn gweithredu Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu  Gorchymyn Clustnodi *Bydd angen i chi a’ch cyn-briod neu  cyn-bartner sifil dalu’r tâl am weithredu’r Gorchymyn cyn y gall y Gronfa Bensiwn wneud hynny.

* Gallwch ddarganfod rhagor o wybodaeth am y taliadau am gyflenwi gwybodaeth ar gyfer neu weithredu Gorchymyn Llys o’r Gronfa Bensiwn.

Beth sy’n digwydd i’ch pensiwn CPLlL ar ôl i’ch ysgariad neu’ch diddymiad gael ei gwblhau?

  • Ni fydd gan eich cyn-briod neu cyn-bartner sifil hawl i bensiwn goroeswr mwyach os byddwch chi’n marw o’u blaenau.
  • Ni fydd pensiwn goroeswr a delir i unrhyw blant cymwys pan fyddwch yn marw yn cael ei effeithio.
  • Bydd unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth sydd i’w dalu pan fyddwch chi’n marw yn cael ei dalu i bwy bynnag rydych chi wedi’i nodi ar eich ffurflen enwebiad Grant Marwolaeth. Os bydd angen i chi newid hyn ar ôl eich ysgariad neu’ch diddymiad gael ei gwblhau, dylech lenwi ffurflen enwebiad Grant Marwolaeth newydd (oni bai fod y llys wedi cyhoeddi Gorchymyn Clustnodi sy’n nodi y dylid talu’r cyfan, neu ran o’r cyfandaliad grant marwolaeth, i’ch cyn-bartner neu’ch cyn-bartner sifil os byddwch chi’n marw o’u blaenau).
  • Efallai y bydd eich cyn-briod neu’ch cyn-bartner sifil yn cael credyd pensiwn yn yr CPLlL, a fydd ar wahân i’ch pensiwn.

Beth os ydych chi’n ail-briodi neu’n ymuno â phartneriaeth sifil newydd?

Os gweithredir Gorchymyn Rhannu Pensiwn yn erbyn eich pensiwn CPLlL, bydd pensiwn unrhyw oroeswyr a delir i briod, partner sifil neu bartner cymwys sy’n cyd-fyw gyda chi hefyd yn cael ei leihau, pe byddech chi’n marw o’u blaenau. Efallai yr hoffech chi lenwi ffurflen enwebiad Grant Marwoleth newydd i newid unrhyw fuddiolwyr blaenorol ar y pwynt hwn. Gallwch fynd i wefan y Gronfa Bensiwn i lawrlwytho’r ffurflen hon yn: https://www.swanseapensionfund.org.uk/cy/ffurflenni-a-thaflenni/

Beth sy’n digwydd i gredyd pensiwn eich cyn-briod/cyn-bartner sifil?

Ar ôl gweithredu unrhyw Orchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi, bydd eich cyn-briod neu gyn-bartner sifil yn cael credyd pensiwn. Mae hwn yn bensiwn a ddyfarnwyd yn benodol iddynt yn y CPLlL, yn unol â’r debyd i’ch pensiwn. Sylwer ei fod wedyn ar wahân i’ch buddion.

Byddant yn gallu dewis:

  • Cymryd taliad o’u credyd pensiwn o 55 oed gyda gostyngiadau yn seiliedig ar reolau cyfredol CPLlL; neu
  • Cymryd taliad o’u credyd pensiwn yn eu hoedran pensiwn arferol (OPA), sydd o dan reolau cyfredol CPLlL, yr un fath â’u Hoedran Pensiwn y Wladwriaeth ond a allai newid yn y dyfodol.

Gellir talu’r credyd pensiwn yn gynharach hefyd ar sail afiechyd neu os yw’ch cyn briod neu gynbartner sifil yn dewis trosglwyddo eu credyd pensiwn i drefniant pensiwn arall.

Pryd allwch chi ddisgwyl derbyn CEV o’ch hawliau pensiwn?

Ar ôl i chi wneud y cais, dylech ddisgwyl derbyn y CEV cyn pen 3 mis. Efallai y bydd oedi gan fod angen gwybodaeth weithiau gan Gyllid a Thollau EM a’ch Cyflogwr. Dim ond ar ôl derbyn y wybodaeth hon y gall y Gronfa Bensiwn gyfrifo’r CEV.

Byddwch yn ymwybodol y gallai fod cost am ddarparu CEV i chi. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau gan y Gronfa Bensiwn.

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau
  • Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru
  • Statement from the Wales Pension Partnership and the LGPS in Wales

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2025 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg