HYSBYSIAD PREIFATRWYDD
ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Mae’r hysbysiad hwn ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (y “gronfa”). Cafodd ei lunio gan Gyngor Abertawe (yr “Awdurdod Gweinyddu”, neu “ni”) yn ei rôl fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall neu bolisi prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan rydym yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio’ch data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disodli unrhyw hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallem fod wedi’i gyhoeddi’n flaenorol, ac yn ategu unrhyw hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill a gyhoeddir gennym sy’n benodol i weithgareddau casglu/prosesu data penodol.
I weld hysbysiad preifatrwydd Cyngor Abertawe, ewch i’r ddolen ganlynol:
www.abertawe.gov.uk/Preifatrwyddacwcis
Pam rydym yn rhoi’r hysbysiad hwn i chi
Fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa, rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, y gallwn eich adnabod drwy’r wybodaeth hynny, (“data personol”) ac rydym yn ei defnyddio i weinyddu’r gronfa ac i dalu buddion ohoni. Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae’n ofynnol i ni roi gwybodaeth benodol i chi am y data personol sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas ag ef a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w ddiogelu. Mae’r hysbysiad hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth honno i chi.
Beth yw’r sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol?
Mae’r Awdurdod Gweinyddu yn cadw data personol amdanoch chi yn ei rôl fel rheolwr ar gyfer ymdrin yn briodol â phob mater sy’n ymwneud â’r gronfa, gan gynnwys sut y caiff ei gweinyddu a’i rheoli. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu’ch data i gysylltu â chi, i gyfrifo, i ddiogelu ac i dalu eich buddion. Er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion aelodau a buddiolwyr a sut dylid buddsoddi’r arian hwnnw, ac i reoli rhwymedigaethau a gweinyddu’r gronfa’n gyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data personol isod.
Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol fel arfer fydd bod angen i ni brosesu’ch data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa. Fodd bynnag, os nad yw’r sail gyfreithiol honno’n berthnasol, y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol fydd un neu fwy o’r canlynol:
- mae angen i ni brosesu’ch data personol i ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol yn ein rôl fel corff cyhoeddus; ac
- mae angen i ni brosesu’ch data personol am resymau cyfreithlon gweinyddu a rheoli’r gronfa a’r rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â hi, cyfrifo, sicrhau a thalu buddion a chyflawni ein rhwymedigaethau ac arfer unrhyw hawliau, dyletswyddau a disgresiynau sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu mewn perthynas â’r gronfa; ac
- oherwydd bod angen i ni brosesu’ch data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â’r gronfa (er enghraifft, dan gytundeb y byddwch yn talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i’r gronfa), neu i gymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno?
Gall y mathau o ddata personol rydym yn ei gadw a’i brosesu amdanoch gynnwys:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
- Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau gweithiwr ac aelodaeth.
- Gwybodaeth a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu cymhwysedd ar gyfer buddion, er enghraifft, hyd gwasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am gyflog.
- Gwybodaeth ariannol sy’n berthnasol i’r broses o gyfrifo neu dalu buddion, er enghraifft, manylion cyfrif banc a threth.
- Gwybodaeth am eich teulu, eich dibynyddion neu eich amgylchiadau personol, er enghraifft, statws priodasol a gwybodaeth sy’n berthnasol er mwyn dosbarthu a chlustnodi buddion sy’n daladwy ar farwolaeth.
- Gwybodaeth am eich iechyd, er enghraifft, i asesu cymhwysedd ar gyfer buddion sy’n daladwy ar sail afiechyd, neu pan fydd iechyd yn berthnasol i hawliad am fuddion yn dilyn marwolaeth aelod o’r gronfa.
- Gwybodaeth am gollfarn droseddol os mai canlyniad hyn yw bod arnoch chi arian i’ch cyflogwr neu’r gronfa, a gall y cyflogwr neu’r gronfa gael eu had-dalu o’ch buddion.
Rydym yn cael peth o’r data personol hwn yn uniongyrchol gennych chi. Gallwn hefyd gael gafael ar ddata (er enghraifft, gwybodaeth am gyflog) gan eich cyflogwr/wyr cyfredol neu flaenorol neu gwmnïau a’u holynodd hwy mewn busnes, gan aelod o’r gronfa (lle rydych neu gallech fod yn fuddiolwr o’r gronfa o ganlyniad i aelodaeth y person hwnnw ohoni) ac o amrywiaeth o ffynonellau eraill, gan gynnwys cronfeydd data cyhoeddus (megis y Gofrestr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau), ein hymgynghorwyr a chyrff llywodraeth neu reoliadol, gan gynnwys y rheini yn y rhestr isod o sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw.
Pan fyddwn yn cael gafael ar wybodaeth sy’n ymwneud â “chategorïau arbennig” o ddata arbennig o sensitif, megis gwybodaeth am iechyd, mae dulliau diogelu ychwanegol yn berthnasol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Byddwn yn prosesu’ch data personol sy’n berthnasol i un o’r categorïau arbennig gyda’ch caniatâd chi yn unig, oni bai y gallwn brosesu’r data hwn yn gyfreithlon am reswm arall a ganiateir gan y ddeddfwriaeth honno. Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd i’r prosesu yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Gweinyddu. Fodd bynnag, os nad ydych yn rhoi caniatâd, neu os ydych yn ei dynnu’n ôl maes o law, mae’n bosib na fydd yr Awdurdod Gweinyddu yn gallu prosesu’r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau’n seiliedig arni, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch talu eich buddion.
Lle rydych wedi darparu data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau teulu, dibynyddion neu fuddiolwyr posib yn unol â’r gronfa, sicrhewch fod yr unigolion hynny’n ymwybodol o’r wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.
Sut byddwn yn defnyddio’ch data personol?
Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ymdrin â phob mater sy’n ymwneud â’r gronfa, gan gynnwys sut caiff ei gweinyddu a’i rheoli. Gall hyn gynnwys prosesu’ch data personol at unrhyw un o’r dibenion canlynol, neu bob un ohonynt:
- Cysylltu â chi.
- Asesu eich cymhwysedd ar gyfer buddion, eu cyfrifo a’u darparu i chi (ac os ydych yn aelod o’r gronfa, eich buddiolwyr yn dilyn eich marwolaeth).
- Nodi eich opsiynau budd posib neu wirioneddol.
- Galluogi ffyrdd eraill o gyflwyno’ch buddion, er enghraifft drwy ddefnyddio nwyddau yswiriant a throsglwyddiadau i drefniadau pensiwn eraill neu gyfuniadau â hwy.
- At ddibenion modelu ystadegol ac ariannol a chyfeirnodi (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion aelodau a sut dylid buddsoddi’r arian hwnnw).
- I asesu ac, os yw’n briodol, gweithredu ar gais rydych yn ei wneud i drosglwyddo’ch buddion allan o’r gronfa.
- Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel awdurdod gweinyddu’r gronfa.
- Mynd i’r afael ag ymholiadau gan aelodau a buddiolwyr eraill ac ymateb i unrhyw anghydfodau gwirioneddol neu bosib o ran y gronfa.
- Rheoli rhwymedigaethau’r gronfa, gan gynnwys ymrwymo i drefniadau yswiriant a dewis buddsoddiadau’r gronfa.
- Mewn perthynas â gwerthiant, cyfuniad neu ad-drefniad neu drosglwyddiad corfforaethol busnes gan y cyflogwyr sy’n rhan o’r gronfa a chwmnïau eu grŵp.
Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw
O bryd i’w gilydd, byddwn yn rhannu eich data personol ag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallant ein helpu i ymgymryd â’n dyletswyddau a’n disgresiynau mewn perthynas â’r gronfa. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny’n syml yn prosesu’ch data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau; cyfeirir atynt fel prosesyddion. Bydd sefydliadau eraill yn gyfrifol i chi’n uniongyrchol am eu defnydd o ddata personol rydym yn ei rannu â nhw; cyfeirir atynt fel rheolwyr. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eu polisïau diogelu data nhw (a fydd yn berthnasol i’w defnydd o’ch data) ar eu gwefannau. Ceir disgrifiad cryno gan ein darparwr gwasanaethau actiwaraidd/buddion/llywodraethu, Aon Hewitt Limited, o ran sut maen nhw’n defnyddio’ch data personol er mwyn ein cefnogi i gynnal y cynllun yn Atodiad 1 yr hysbysiad hwn.
Pryd bynnag y bydd un o’n cynghorwyr neu ddarparwyr gwasanaethau yn gweithredu fel rheolwr ar y cyd â ni mewn perthynas â’ch data personol, oherwydd ein bod yn pennu’r dibenion a’r dulliau o’i brosesu ar y cyd, byddwn yn cytuno â hwy sut yr ydym i gyd yn mynd i gyflawni ein rhwymedigaethau priodol a chyfunol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae trefniant o’r fath yn gweithio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Gall y sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â hwy gynnwys y cynghorwyr a’r darparwyr gwasanaethau canlynol:
Prosesyddion Data
- Gweinyddwr – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
- Cyfrifwyr – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
- Canolfannau olrhain ar gyfer sgrinio marwolaethau a dod o hyd i aelodau – ATMOS Data Services/Cyngor Abertawe, Mortality Manifest Ltd
- Darparwr taliadau tramor i drosglwyddo taliadau i aelodau o’r cynllun sydd â chyfrifon y tu allan i’r DU – Western Union ar hyn o bryd
- Cwmnïau argraffu – Adare, MPS a DesignPrint ar hyn o bryd
- Darparwr meddalwedd pensiynau – Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd
- Darparwyr gwasanaethau TG, creu a dosbarthu dogfennau – Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd
- Darparwr Gwiriadau Bywyd ar gyfer pensiynwyr tramor – Crown Agents Bank
Rheolwyr Data
- Ymgynghorydd Actiwaraidd – AON Hewitt ar hyn o bryd
- Ymgynghorydd buddiannau’r cynllun – AON Hewitt ar hyn o bryd
- Ymgynghorydd Buddsoddi – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
- Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – Utmost Life, Prudential, AEGON ar hyn o bryd
- Ymgynghorydd Cyfreithiol – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
- Actiwari’r Gronfa – AON Hewitt ar hyn o bryd
- Archwiliwr Statudol – Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd
- Archwiliwr Allanol – Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd
- Archwiliwr Mewnol – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
- Cwmnïau yswiriant mewn cysylltiadau â buddiannau afiechyd – (Dd/B)
- Cronfa Ddata Yswiriant Gwladol CPLlL – (Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog)
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Adran Actiwari’r Llywodraeth
- Swyddfa’r Cabinet – at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
- CThEM
- Llysoedd Cymru a Lloegr – at ddibenion prosesu gorchmynion rhannu pensiwn yn dilyn ysgariad
Pan fyddwn yn buddsoddi ar ran y gronfa neu’n ceisio darparu buddion i aelodau a buddiolwyr y gronfa mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddefnyddio yswiriant, yna efallai y bydd angen i ni rannu data personol â darparwyr buddsoddiadau, yswirwyr a gweithredwyr cynlluniau pensiwn eraill.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn darparu peth o’ch data i’ch cyflogwr a’i is-gwmnïau perthnasol (a phrynwyr posib eu busnesau) ac ymgynghorwyr at ddibenion galluogi’r endidau hynny i ddeall rhwymedigaethau’r cyflogwr mewn perthynas â’r gronfa. Yn gyffredinol, eich cyflogwyr fyddai rheolwr y data personol a rennir ag ef yn yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, pan fydd eich cyflogaeth yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau yn amodol ar drefniad contractio allanol, gall yr Awdurdod Gweinyddu ddarparu gwybodaeth am eich buddion pensiwn i’ch cyflogwr ac i gynigwyr posib am y contract hwnnw pan gaiff ei adnewyddu neu pan ddaw i ben.
Pan wneir cais neu os ydym yn ystyried ei fod yn rhesymol ofynnol, gallwn hefyd ddarparu eich data i gyrff llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfod a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rheini a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Yna gallant ddefnyddio’r data i ymgymryd â’u swyddogaethau.
Gall y sefydliadau y cyfeiriwyd atynt yn y paragraffau uchod ddefnyddio’r data personol i ymgymryd â’u swyddogaethau mewn perthynas â’r gronfa ynghyd ag ar gyfer modelu ystadegol ac ariannol (megis cyfrifo costau buddion cyfartalog disgwyliedig a chyfraddau marwoldeb) ac at ddibenion cynllunio, gweinyddu busnes a rheoliadol. Gallant hefyd drosglwyddo’r data i drydydd partïon eraill (er enghraifft, gall yswirwyr drosglwyddo data personol i gwmnïau yswiriant eraill at ddibenion ailyswirio), i’r graddau maent yn ystyried bod gofyn rhesymol am yr wybodaeth at ddiben cyfreithlon.
Nid ydym yn defnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata ac ni fyddwn yn rhannu’r data hwn ag unrhyw un at ddibenion marchnata i chi nac unrhyw fuddiolwr.
Trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r DU
Mewn rhai achosion, gall y derbynyddion hyn fod y tu allan i’r DU. Mae hyn yn golygu y gall eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU i awdurdodaeth nad yw o bosib yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch â’r hyn sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid rhoi mesurau diogelu ychwanegol ar waith gyda’r bwriad o ddiogelu eich data personol yn unol â chyfreithiau perthnasol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd.
Am faint o amser fyddwn ni’n cadw’ch data personol?
Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bydd ei angen arnom er mwyn cyflawni’r diben(ion) y’i casglwyd ar ei gyfer/eu cyfer, ac wedi hynny am gyhyd ag y credwn y gall fod yn ofynnol i ni ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn eu derbyn am ein gwaith o weinyddu’r gronfa; oni bai ein bod yn dewis cadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd eich data personol yn cael ei gadw am:
- unrhyw gyfnod y mae gennych chi (neu unrhyw fuddiolwr sy’n derbyn buddion ar ôl eich marwolaeth) hawl i fuddion o’r gronfa ac am gyfnod o 100 mlynedd o ddyddiad geni aelod ar ôl i’r buddion hynny beidio â chael eu talu mwyach. Am yr un rheswm, mae’n bosib y bydd angen cadw’ch data personol pan fyddwch wedi derbyn trosglwyddiad neu ad-daliad gan y gronfa mewn perthynas â’ch hawl i fuddion. (Bydd angen i ni gadw data personol a gedwir at ddibenion y gronfa am gyfnodau estynedig oherwydd natur tymor hir y rhwymedigaethau pensiwn).
Eich hawliau
Mae gennych hawl i gael mynediad at y data personol sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu amdanoch a chael copi ohono, yn ogystal â’r hawl i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau ynddo neu os yw’n hen neu’n anghyflawn. Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, efallai y bydd gennych hawl hefyd i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gyfyngu ar brosesu eich data personol neu i drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau eithriadol o gyfyngedig, megis lle nad oes angen eich data personol mwyach at y diben y caiff ei brosesu ar ei gyfer) ddileu eich data personol. Dylech nodi nad oes rheidrwydd arnom i ddileu eich data personol os bydd angen i ni ei brosesu at ddibenion gweinyddu’r gronfa.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol; er enghraifft, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol sy’n seiliedig ar fudd y cyhoedd neu fuddiant dilys a nodir yn yr adran uchod o dan y pennawd “Y Rhan Dechnegol”, neu pan fydd y prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: www.ico.org.uk neu drwy ffonio’r llinell gymorth (0303 123 1113).
Os ydych chi am arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu mae gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa isod. Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu weithgareddau prosesu’r Awdurdod Gweinyddu, i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch wneud hyn drwy fynd i’r wefan uchod neu drwy ffonio’r llinell gymorth.
Defnyddir y data personol a gedwir gennym amdanoch i weinyddu eich buddion gan y gronfa ac mae’n bosib y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych at y diben hwn o dro i dro. Os nad ydych yn darparu gwybodaeth o’r fath, neu os ydych yn gofyn i’r data personol rydym eisoes yn ei gadw gael ei ddileu neu ei gyfyngu, gall hyn effeithio ar dalu buddion i chi (neu eich buddiolwyr) dan y gronfa. Mewn rhai achosion, gallai olygu na fydd yr Awdurdod Gweinyddu’n gallu talu eich pensiwn neu y bydd rhaid iddo roi terfyn arno (os yw eisoes yn cael ei dalu).
Y diweddaraf
Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn hysbysu aelodau a buddiolwyr o’r newidiadau a’r dyddiad y daw’r newidiadau i rym.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa, Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, am ragor o wybodaeth.
Rhif ffôn: 01792 636655
E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
Cyfeiriad post:
Is-adran Bensiynau
Cyngor Abertawe
Canolfan Ddinesig
Oystermouth Road
ABERTAWE
SA1 3SN
Swyddog Diogelu Data
Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth: diogelu.data@abertawe.gov.uk
Atodiad 1
HYSBYSIAD PREIFATRWYDD “CRYNO” Aon Hewitt Limited
Penodwyd Aon Hewitt Limited (“Aon”) i ddarparu gwasanaethau cynghori a chyfrifo ar gyfer pensiynau sy’n ymwneud â’ch aelodaeth o’r gronfa. Drwy wneud hynny, bydd Aon yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi, megis eich enw a’ch manylion cyswllt, gwybodaeth am eich cyfraniadau pensiwn, oed ymddeol ac, mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, wybodaeth am eich iechyd (lle mae hyn yn effeithio ar eich oed ymddeol) er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau hyn. Bydd y dibenion y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar eu cyfer yn cynnwys rheoli’r gronfa a’ch aelodaeth ohoni, cyllido (h.y. helpu i sicrhau bod digon o arian yn y gronfa ar gyfer yr aelodau sy’n rhan ohoni), rheoli atebolrwydd (h.y. rhoi cyngor ar y ffyrdd gwahanol y gellid pennu buddiannau a’u tynnu o’r gronfa), dyletswyddau actiwari’r gronfa (sy’n cynnwys asesu unigolion sy’n aelodau o’r cynllun pensiwn ac asesu sut gall cyfansoddiad yr aelodaeth effeithio ar y symiau sy’n daladwy a phryd byddant yn daladwy er mwyn rheoli’r gronfa’n briodol), cydymffurfiad rheoliadol, gwella prosesau a gwasanaethau, a meincnodi.
Gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon fel ymgynghorwyr ariannol a darparwyr buddiannau, yswirwyr, ein cysylltiadau a darparwyr gwasanaethau a chyrff rheoliadol penodol lle mae hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall hyn gynnwys trosglwyddo data o’r tu allan i’r DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd i wledydd sydd â chyfreithiau diogelu data llai cadarn. Gwneir unrhyw drosglwyddiad o’r fath gyda mesurau diogelu priodol ar waith.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnydd Aon o’ch gwybodaeth bersonol yn ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn. Rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r hysbysiad hwn sydd ar gael ar-lein yn http://www.aon.com/unitedkingdom/products-and-services/human-capital-consulting/aon-hewitt-actuarial-services-privacy-statement.jsp, neu gallwch wneud cais am gopi drwy gysylltu â ni (gan gyfeirio at enw’r gronfa) yn: Swyddog Diogelu Data, Aon Hewitt Limited (Ymddeol a Buddsoddi y DU), Blwch Post 730, Redhill, RH1 9FH
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2022