• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma:Hafan / Newid eich trefniadau gwaith

Newid eich trefniadau gwaith

Os ydych yn newid eich trefniadau gwaith, gall gael effaith ar eich buddion pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Os ydych yn penderfynu gweithio llai o oriau neu’n derbyn swydd â chyflog is, efallai yr effeithir ar eich buddion pensiwn.

Sut yr effeithir ar eich pensiwn os ydych yn newid eich oriau?

Mae eich pensiwn blynyddol o dan y cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (CCGA) o 1 Ebrill 2014 yn seiliedig ar y cyflog pensiynadwy gwirioneddol rydych wedi derbyn yn ystod blwyddyn y Cynllun (o 1 Ebrill i 31 Mawrth) a’r gyfradd cronni o 1/49fed (neu 1/98ain os yn yr adran 50/50).  Po fwyaf eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol, mwyaf y bydd eich croniad pensiwn yn ystod blwyddyn y cynllun, ond os byddwch yn dewis gweithio llai o oriau, bydd eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol yn llai, sy’n golygu y bydd eich croniad pensiwn yn llai.

Os daethoch yn aelod ar neu cyn 31 Mawrth 2014, NI fydd unrhyw newid yn eich oriau gwaith o hyn ymlaen yn effeithio ar y buddion rydych wedi’u cronni hyd at 31 Mawrth 2014 h.y. eich buddion Cyflog Terfynol. Pan fyddwch yn ymddeol, bydd y buddion hyn yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy cyfwerth amser llawn (ac eithrio unrhyw oramser nad yw’n gytundebol). 

Enghraifft

Ar hyn o bryd mae Siân yn gweithio’n amser llawn ac yn cyfrannu dan Brif Adran (1/49fed) y cynllun. Mae’n ystyried lleihau ei horiau i 29.60 yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos). Ei chyflog amser llawn ar hyn o bryd yw £18,000, a fyddai wedyn yn gostwng i £14,400 pe bai’n lleihau ei horiau. Os bydd hyn yn digwydd, effeithir ar groniad pensiwn Siân fel a ganlyn.

Pensiwn CCGA wedi’i gredydu yn ystod blwyddyn y cynllun fel aelod amser llawn: 

1/49fed x £18,000 = £367.35 pensiwn blynyddol

Pensiwn CCGA wedi’i gredydu yn ystod blwyddyn y cynllun os yw’n gweithio 29.60 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos).  (29.60 / 37.00 x £18,000 = £14,400)

1/49fed x £14,400 = £293.88 pensiwn blynyddol

£367.35 – £293.88 = gwahaniaeth o £73.47 yn y croniad pensiwn blynyddol ar gyfer blwyddyn y cynllun dan y cynllun Pensiwn CCGA wedi’i gredydu yn ystod blwyddyn y cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (CCGA)

Beth fydd yn digwydd os caiff eich cyflog ei leihau neu ei gyfyngu?

Os daethoch yn aelod ar neu cyn 31 Mawrth 2014, bydd gennych yr opsiwn i seilio’ch buddion Cyflog Terfynol ar gyflog pensiynadwy unrhyw un o’r tair blynedd diwethaf (os yn uwch na’r flwyddyn ddiwethaf), neu gallwch ddewis cyfartaledd o gyflog unrhyw 3 blynedd olynol o fewn y 13 blynedd diwethaf o gyflogaeth (yn gorffen 31 Mawrth). Fodd bynnag, bydd y pensiwn rydych yn ei gronni o 1 Ebrill, 2014 dan y Cynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio, yn llai o ganlyniad i unrhyw ostyngiad / gyfyngiad yn eich tâl pensiynadwy.

Beth fydd yn digwydd os dewiswch gymryd swydd sy’n talu llai o gyflog?

Bydd y pensiwn rydych wedi’i gronni yn erbyn eich cyflogaeth flaenorol yn cael eu cyfuno’n awtomatig gyda’ch cyflogaeth weithredol, oni bai eich bod yn dewis cadw’r buddion ar wahân o fewn 12 mis.

Wrth symud i swydd gyda chyflog is, byddwch yn cronni llai o bensiwn o’r diwrnod rydych yn dechrau yn eich swydd newydd, gan y bydd eich croniad pensiwn ar ôl hynny’n cael ei seilio ar eich cyflog pensiynadwy newydd. Bydd hefyd yn cael effaith ar unrhyw ychwanegiad salwch posib a ddyfernir a’r grant marwolaeth sy’n daladwy os byddwch yn marw.

Pa fuddion eraill yr effeithir arnynt?

Os byddwch yn ymddeol oherwydd salwch parhaol, efallai y byddwch yn derbyn ychwanegiad, gan ddibynnu ar ddifrifwch eich salwch, sy’n seiliedig ar eich Cyflog Pensiynadwy Tybiedig (CPT)¹ ar eich dyddiad gadael.

Trwy leihau eich oriau gweithio’n wirfoddol, bydd unrhyw ychwanegiad salwch yn llai yn ôl cyfran o ganlyniad i hyn. Am ragor o wybodaeth am y broses salwch, cyfeiriwch at y ffeithlen Salwch.

Os byddwch yn marw fel aelod gweithredol o’r cynllun, bydd cyfandaliad grant marwolaeth o 3 gwaith eich CPT¹ yn cael ei dalu’n unol â’ch Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth, neu os nad oes mynegi ant o ddymuniad, eich Ystad. Os ydych yn gweithio rhan-amser, bydd eich CPT yn llai yn ôl cyfran, sy’n golygu y bydd eich grant marwolaeth yn llai hefyd. Os ydych yn dymuno cynyddu’ch Yswiriant Bywyd, cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn. 

¹cyfartaledd o’r tâl pensiynadwy rydych wedi’i dderbyn o fewn y 3 mis cyflawn (neu 12 wythnos os telir yn wythnosol) cyn eich dyddiad gadael / dyddiad marwolaeth: wedi’i uwchraddio a’i fynegi fel swm blynyddol

Ym mhle y gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Dim ond arweiniad cyffredinol a roddir gan y ffeithlen hon; os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe:

Ffôn: 01792 636655     

E-bost: pensions@abertawe.gov.uk

Ymwadiad

Nid yw’r Gronfa Bensiwn yn gallu darparu unrhyw gyngor ariannol. Ar ôl i chi ddarllen y ffeithlen hon, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor Ariannol Annibynnol er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus.

Efallai bydd y cyrff hyn yn gallu’ch helpu:

Diduedd: https://unbiased.co.uk/

MoneyHelper: https://www.moneyhelper.org.uk/en/pensions-and-retirement/taking-your-pension/find-a-retirement-adviser

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Bensiynau
  • Partneriaeth Pensiwn Cymru: Addas i’r Dyfodol – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau a Chyflogwyr y Cynllun Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2025 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg