Cynyddir Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus megis y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol er mwyn ystyried cynnydd mewn Mynegai Pensiwn Defnyddwyr.
Mae’r symudiad yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn ystod y 12 mis ers y mis Medi blaenorol yn pennu’r Cynnydd Pensiwn a gymhwysir ym mis Ebrill i’r pensiynau mewn taliadau a budd-daliadau pensiwn gohiriedig, a’u cadw’n unol â chostau byw.
Y Mynegai Prisi Defnyddwyr i fis Medi 2023 oedd 6.7%; mae hyn yn golygu y caiff eich pensiwn ar gyfer mis Ebrill ei dalu yn ôl yr hen gyfradd am 7 niwrnod, ac yn ôl y gyfradd newydd am 23 diwrnod. Bydd y cyfanswm misol newydd yn dechrau o fis Mai 2024. Sylwer, os dechreuwyd talu eich pensiwn ar ôl 23 Ebrill 2023 byddwch fel arfer yn derbyn cynnydd rhannol yn unig.