Os gwnaethoch dalu i mewn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar ôl 1997 yn unig, ni fydd gennych swm Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG). Fodd bynnag, os gwnaethoch drosglwyddo rhai o’ch hawliau pensiwn o gynllun arall y cawsoch eich contractio allan ohono, y gwnaethoch dalu i mewn iddo cyn 1997, efallai y bydd gennych IPG.
Os gwnaethoch dalu i mewn i’r CPLlL cyn 1997, ac rydych wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae’n debygol bod gennych IPG.
Diffiniad o IPG
O 6 Ebrill 1978 i 31 Mawrth 2016, roedd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys dwy ran:
- pensiwn sylfaenol a
- phensiwn ychwanegol, sef Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth, a adwaenir gynt fel Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion.
Gallai cynlluniau pensiwn galwedigaethol ‘gontractio allan’ o Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ac yn gyfnewid am hyn, mae aelodau’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is. Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ynghyd â holl gynlluniau pensiwn cyhoeddus, wedi contractio allan o Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’n rhaid i’r CPLlL sicrhau bod y pensiwn sy’n cael ei dalu i aelod gyfwerth â’r swm a fyddai wedi cael ei dalu iddynt dan Ail Gynllun Bensiwn y Wladwriaeth. Gelwir hyn yr Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Nid pensiwn ar wahân yw hwn; ond yr isafswm y mae’n rhaid i’ch CPLlL ei gyrraedd. Fel arfer mae eich CPLlL yn fwy na’ch IPG.
O Ebrill 1997, nid yw Isafswm Pensiwn Gwarantedig yn cael ei gronni mwyach.
Swm yr IPG.
Caiff eich IPG ei gyfrifo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a chewch eich hysbysu am hyn gyda’ch hawlogaeth Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i ni am y swm ac yn darparu diweddariad blynyddol. Caiff eich IPG ei dalu fel rhan o’ch pensiwn Llywodraeth Leol ac nid yn ychwanegol ato. Fel rhan o ohebiaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, efallai y byddant yn cyfeirio at yr IPG fel ‘didyniad contractio allan’.
IPG a chynnydd pensiwn
Os oes gennych swm IPG, caiff y cynnydd pensiwn llawn ei dalu o hyd ond, yn lle talu’r swm llawn gyda’ch pensiwn CPLlL, caiff ei dalu’n rhannol gyda’ch pensiwn CPLlL ac yn rhannol gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Newidiodd ddeddfwriaeth y Llywodraeth ym 1988 fel bod yr IPG yn cynnwys 2 elfen:
- symiau cyn 1988
- ac ar ôl 1988.
Mae’r tabl yn dangos pa gynnydd pensiwn sy’n cael ei dalu ar rannau gwahanol eich pensiwn a phwy sy’n gyfrifol am ei dalu.
Rhan o’r pensiwn | Faint o’r cynnydd pensiwn sy’n cael ei dalu | I ble y mae’n cael ei dalu | Pwy sy’n gyfrifol am ei dalu |
Pensiwn CPLlL sylfaenol, heb y symiau IPG cyn ac ar ôl 1988 | Cyfanswm y cynnydd % | Gyda phensiwn CPLlL | Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe |
Swm IPG cyn 1988 | Cyfanswm y cynnydd % | Gyda Phensiwn y Wladwriaeth | Adran Gwaith a Phensiynau |
Swm IGP ar ôl 1988 | 3% neu gyfanswm y cynnydd % os yw’n is na 3% Unrhyw % sy’n weddill dros 3% | Gyda phensiwn CPLlL Gyda Phensiwn y Wladwriaeth | Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe Adran Gwaith a Phensiynau |
Enghraifft o sut caiff cynnydd pensiwn ei gyfrifo a’i dalu os daloch i mewn i CPLlL cyn 1997 ac mae gennych IPG
Gwnaethoch ymddeol fis Ebrill diwethaf yn 66 oed a chawsoch CPLlL o £3,000 y flwyddyn
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthych fod gennych swm IGP o £1,000, yn cynnwys £400 fel swm cyn 1988 a £600 fel swm ar ôl 1988 Dyma’r isafswm pensiwn y mae’n rhaid i CPLlL ei dalu i chi. Mae eich CPLlL yn llawer mwy. Mae’r swm IPG wedi’i gynnwys fel rhan o bensiwn CPLlL
Cyfanswm eich pensiwn yw £3,000, sy’n cynnwys:
Pensiwn sylfaenol o £2,000
IPG cyn 1988 o £400
IPG ar ôl 1988 o £600
£3,000
Y cynnydd pensiwn a ddyfarnwyd oedd 3.5% Cyfrifwyd a thalwyd y cynnydd fel a ganlyn:
Rhan o’r pensiwn | Faint o’r cynnydd pensiwn sy’n cael ei dalu | I ble y mae’n cael ei dalu | Pwy sy’n gyfrifol am ei dalu |
Pensiwn CPLlL sylfaenol heb y swm cyn 1988 a’r swm ar ôl 1988 (£3,000 – £400 – £600) | 3.5% o £2,000 = £70 | Gyda Phensiwn CPLlL | Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe |
Swm IPG cyn 1988 (£400) | 3.5% o £400 = £14 | Gyda Phensiwn y Wladwriaeth | Adran Gwaith a Phensiynau |
Swm IGP ar ôl 1988) | 3% o £600 = £18 0.5% o £600 = £3 | Gyda phensiwn CPLlL Gyda Phensiwn y Wladwriaeth | Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe Adran Gwaith a Phensiynau |
Mae’r cynnydd pensiwn cyfan, sef cyfanswm o £105 yn cael ei dalu i chi Fodd bynnag, caiff £88 ei dalu gyda’ch pensiwn CPLlL ac £17 ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.