Mae’n bwysig hysbysu’r Adran Bensiynau am farwolaeth aelod cyn gynted â phosib i osgoi gordalu pensiwn.
Pan fyddwch yn cysylltu â’r adran, byddai’n ddefnyddiol os oes gennych yr wybodaeth ganlynol:
Neu defnyddiwch y Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
- Enw llawn a chyfeiriad yr ymadawedig
- Dyddiad y farwolaeth
- Cyfeirnod megis rhif yswiriant gwladol neu bensiwn
- Enw llawn a chyfeiriad y perthynas agosaf a rhif ffôn cyswllt
Yna bydd yr adran yn cyfrifo pa fudd-daliadau sy’n daladwy. Maent fel arfer yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol:
- Grant Marwolaeth
- Pensiwn Goroeswr ar gyfer y priod, partner sifil cofrestredig neu, os yw wedi ymddeol ar 1 Ebrill 2008 neu wedi hynny, bartner cyd-fyw enwebedig
- Pensiynau Plant