Os ydych yn marw ar ôl ymddeol, mae’n bosib y bydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy, gan ddibynnu ar faint o amser rydych wedi derbyn eich pensiwn ac a ydych yn iau na 75 oed ar ddyddiad eich marwolaeth. Mae’r swm sy’n daladwy’n dibynnu ar ddyddiad eich ymddeoliad.
- Ymddeol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny
Mae’r pensiwn ymddeol yn warantedig am 5 mlynedd. Mae hyn yn golygu y cyfrifir y grant marwolaeth sy’n daladwy ar sail pensiwn 5 mlynedd llai swm y pensiwn a dalwyd eisoes. Os oeddech wedi derbyn eich pensiwn am fwy na 5 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, ni fydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy.
- Ymddeol ar 1 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny
Mae’r pensiwn ymddeol yn warantedig am 10 mlynedd. Mae hyn yn golygu y cyfrifir y grant marwolaeth sy’n daladwy ar sail pensiwn 10 mlynedd llai swm y pensiwn a dalwyd eisoes. Os oeddech wedi derbyn eich pensiwn am fwy na 10 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, ni fydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy.
Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth
Mae’r LGPS yn caniatáu i chi ddweud i bwy yr hoffech i unrhyw grant marwolaeth gael ei dalu ar eich marwolaeth drwy lenwi Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth.
Mae’r Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth yn caniatáu i chi enwebu un person neu fwy, neu sefydliad, i dderbyn y grant marwolaeth.
Os byddwch yn marw, caiff Cronfa Bensiwn DASA ei harwain gan unrhyw enwebiad ond, mae’n cadw’r disgresiwn llwyr i benderfynu i bwy y dylid talu unrhyw gyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy yn ôl rheoliadau’r LGPS ac ym mha gyfrannau.
Os hoffech ddiweddaru’ch mynegiant o ddymuniad o ran grant marwolaeth, cliciwch yma i gael y ffurflen briodol. Dylech sicrhau eich bod yn cwblhau’r ffurflen gywir ar gyfer eich dyddiad gadael.