Mae’n rhaid i chi anfon pob newid i’ch manylion personol, yn ysgrifenedig, gan nodi’ch rhif talu pensiwn, i’r cyfeiriad canlynol:
Gwasanaethau Gweithwyr
Cyflogres Pensiynau
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth,
Abertawe
SA1 3SN
Os byddwch yn penderfynu symud dramor, bydd eich pensiwn yn parhau i gael ei dalu i’ch cyfrif banc/cymdeithas adeiladu presennol, oni bai eich bod yn rhoi manylion cyfrif dramor i ni. Sylwer y gellir codi tâl am drosglwyddo’r taliad i gyfrif tramor a’i newid i arian y wlad honno.
Mae ffurflenni newid cyfeiriad a/neu newid manylion banc wedi’u hatodi i chi eu defnyddio. Fodd bynnag, byddai rhaid i chi argraffu’r ffurflen i’w dychwelyd, gan fod angen llofnod arni. Os oes Pŵer Atwrnai Parhaus ar waith, dylid cynnwys dogfennau ategol gyda’r hysbysiad ysgrifenedig.
Sylwer bod rhaid derbyn unrhyw newid o ran eich banc/cymdeithas adeiladu erbyn canol y mis pan fyddwch am i ni ddefnyddio’r manylion newydd, neu mae’n bosib y caiff eich pensiwn ei dalu i’ch hen gyfrif.
Mae’n bwysig hefyd eich bod yn rhoi gwybod i ni os bydd eich cyfeiriad yn newid gan y caiff slip talu ei gyhoeddi os bydd eich pensiwn yn amrywio +/- £10 o’r mis blaenorol, neu mae’n bosib y bydd rhaid i ni ysgrifennu atoch ynglŷn â mater arall.