Fel aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) mae gennych sawl opsiwn o ran pryd y byddwch yn ymddeol:
- Ymddeoliad Arferol
- Ymddeoliad Cynnar
- Ymddeoliad Hwyr
- Ymddeoliad Salwch
- Ymddeoliad Colli Swydd/ Effeithlonrwydd
- Ymddeoliad Hyblyg
Byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol, sy’n daladwy am oes, cyfandaliad di-dreth awtomatig (os dechreuodd eich aelodaeth cyn 1 Ebrill 2008) a’r opsiwn i gyfnewid pensiwn am arian parod di-dreth.
I gael manylion am sut caiff eich pensiwn ei gyfrifo, a’r opsiwn cyfandaliad sydd ar gael i chi, ewch i’r dudalen Cyfrifo’ch Budd-daliadau a/neu’r dudalen Cymudiad.
Dylech drafod eich dyddiad ymddeol a’r math o ymddeoliad â’ch cyflogwr cyn gynted â phosib. Byddant hefyd yn cadarnhau faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi.
Gweithdrefn
Pan gytunir ar eich dyddiad ymddeol, bydd eich cyflogwr yn hysbysu’r Is-adran Bensiwn.
Cyn gynted ag y bydd Is-adran y Gyflogres wedi’u hysbysu am fanylion eich cyflog terfynol, byddant yn cyfrifo’ch Budd-daliadau Pensiwn. Caiff y rhain eu hanfon atoch ynghyd â manylion yr opsiwn i newid peth o’ch Pensiwn Blynyddol am gyfandaliad mwy.
Sylwer y bydd angen i dâl olaf eich cyflogaeth fel arfer gael ei gyfrifo cyn y gall Is-adran y Gyflogres roi’r manylion y mae gofyn amdanynt, a all fod ar ôl y dyddiad terfynu.
Ar yr un pryd â darparu’ch pensiwn a manylion eich Budd-daliadau Pensiwn, byddwch yn derbyn ffurflenni i gadarnhau eich statws priodasol a’ch manylion banc. Bydd angen i chi gyflwyno’ch tystysgrif geni ac unrhyw dystysgrifau eraill sy’n berthnasol pan fyddwch yn dychwelyd y ffurflenni.
Bydd angen i chi hefyd gwblhau ‘Ffurflen Ddatgan’ i ddarparu gwybodaeth am unrhyw hawliau pensiwn eraill y mae gennych hawl i’w derbyn (neu eisoes yn eu derbyn) fel y gellir gwirio bod eich budd-daliadau pensiwn yn cydymffurfio â rheolau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Tâl
Pan fyddwch wedi dychwelyd eich Opsiwn Cyfandaliad, y ffurflenni a’r tystysgrifau perthnasol, gwneir trefniadau i dalu eich Grant Ymddeol Cyfandaliad i’ch cyfrif banc. Ar yr un pryd, caiff manylion eich pensiwn eu hanfon at Is-adran Cyflogres Pensiwn Dinas a Sir Abertawe a fydd yn talu’ch pensiwn ar ddiwrnod bancio olaf bob mis.
Yn olaf, byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau cyfrifiad terfynol y budd-daliadau pensiwn sy’n daladwy pan fydd y broses gyfan wedi’i chwblhau.