Caiff eich pensiwn ei dalu ar ddiwrnod bancio olaf pob mis, yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod eich pensiwn yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc ar y diwrnod mae’n ddyledus a bod yr arian ar gael ar unwaith.
Sylwer nad yw’r gronfa’n gallu talu’ch pensiwn yn uniongyrchol i gyfrif y Swyddfa Bost.
Rhestrir dyddiadau talu ar y wefan bob blwyddyn a chânt eu cynnwys yn y cylchlythyr blynyddol a anfonir at bensiynwyr. Ni fyddwch yn derbyn slip talu oni bai fod eich pensiwn net yn amrywio +/- £10 o’r mis blaenorol.
Os hoffech newid manylion eich cyfrif, ewch i’r dudalen newid cyfeiriad/manylion banc.
Treth Incwm
Telir eich cyfandaliad yn ddi-dreth, ond mae’ch pensiwn blynyddol yn drethadwy ac yn amodol ar y cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) – Treth Incwm. Rhaid i’r Gronfa Bensiwn gydymffurfio â’r côd a roddwyd gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Ar ôl ymddeol, bydd eich cyn-gyflogwr yn anfon hysbysiad o’ch côd treth presennol at y Gronfa Bensiwn. Bydd y gronfa wedyn yn rhoi gwybod i CThEM eich bod wedi ymddeol a’ch bod yn cael pensiwn a bydd yn defnyddio’r côd treth Mis Un nes i CThEM gadarnhau’r côd priodol.
Os nad yw’ch côd treth yn hysbys ar unwaith, caiff côd treth brys ei ddefnyddio nes i CThEM gadarnhau’r côd priodol.
Dylech ffonio’ch swyddfa dreth leol ar 0300 200 3300 os oes gennych ymholiad am eich côd treth.
Bydd yn ofynnol i chi roi’ch cyfenw a’ch Rhif Yswiriant Gwladol a dyfynnu rhif cyfeirnod 615/C509P