Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) yn gynllun pensiwn statudol a ariennir. Mae talu buddion ohono’n cael ei warantu yn ôl y gyfraith.
Mae’r LGPS ar gael i holl gynghorwyr Cyngor Sir yng Nghymru neu Gyngor Bwrdeistref Sirol sy’n cael cynnig aelodaeth y cynllun dan gynllun lwfansau’r cyngor ac sydd yn iau na 75 oed. Gelwir y rhai sy’n cael cynnig aelodaeth yn Gynghorwyr Cymwys.
Os ydych wedi cael cynnig aelodaeth y cynllun, eich penderfyniad chi yw os ydych yn ymuno â’r cynllun neu beidio. Os byddwch yn llwyddo mewn etholiad, byddwch yn dod yn aelod o’r LGPS o ddechrau’r cyfnod talu cyntaf ar ôl derbyn eich opsiwn.
Os hoffech ddod yn aelod o’r cynllun, mae’n bwysig eich bod yn cwblhau ac yn dychwelyd y Ffurflen Ddewis.
Ar ôl derbyn eich ffurflen, bydd eich cofnod yn cael ei greu a byddwch yn cael eich hysbysu am eich aelodaeth o’r cynllun, ynghyd ag Arweiniad i’r Cynllun a bydd dogfennau perthnasol eraill yn cael eu hanfon atoch. Dylech hefyd wirio eich taliadau lwfans i sicrhau bod cyfraniadau pensiwn yn cael ei didynnu.
Sylwer ei bod hi hefyd yn bwysig cwblhau Ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth ar ôl dechrau gyda’r LGPS, fel bo’r grant marwolaeth sy’n daladwy os byddech yn marw yn cael ei dalu i’r person rydych wedi’i ddewis.