Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu anghyfleustra a achosir gan ddibynadwyedd ar ddeunydd anghywir a gynhwysir ar y wefan hon.
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon at ddefnydd cyffredinol ac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiad personol. Mewn unrhyw anghydfod, y ddeddfwriaeth berthnasol fydd drechaf. Nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn mynegi unrhyw hawliau cytundebol neu statudol ac fe’i darperir at ddibenion gwybodaeth yn unig.
Dolenni i Wefannau Eraill
Drwy ein gwefan rydym wedi cynnwys dolenni i wefannau eraill yr ydym yn credu y byddant yn cefnogi ac yn gwella’ch dealltwriaeth o’r pynciau a drafodir. Nid yw’r gronfa’n gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am yr wybodaeth a ddarperir.
Darperir y dolenni hyn at ddibenion gwybodaeth yn unig ac ni fwriedir iddynt ddarparu cyngor y dylech ddibynnu arno na’i ddefnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch eich buddion.
Efallai nad yw rhai o’r dolenni ar gael yn Gymraeg. Os oes fersiwn Gymraeg ar gael, rydym wedi cynnwys y ddolen Gymraeg ar y tudalennau Cymraeg.
Hawlfraint
Mae’r holl hawliau o ran dyluniad, testun, graffeg a deunydd arall ar ein gwefan, a’i detholiad neu drefniant, yn hawlfraint Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe neu bartïon trydydd parti eraill.
Rhoddir caniatâd ar gyfer copïo’n electronig ac argraffu deunydd o’n gwefan at ddefnydd preifat neu addysgol, ar yr amod nad oes unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r deunydd a bod Cronfa Dinas a Sir Abertawe’n cael ei chydnabod fel y perchennog.
Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o’r deunyddiau ar ein gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
Os oes angen caniatâd arnoch, cysylltwch â ni.