- Eich Dewis Pensiynau
- Y Cynllun
- Pwy all ymuno?
- Sut ydw i’n sicrhau fy mod wedi dod yn aelod?
- Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?
- Beth mae’r cyngor yn ei dalu?
- A allaf dalu arian ychwanegol i gynyddu fy muddion?
- A allaf drosglwyddo hawliau pensiwn i’m Cronfa CPLlL bresennol o gynllun pensiwn blaenorol?
- Rwyf eisoes yn derbyn pensiwn CPLlL – os byddaf yn ymuno eto, a fydd hyn yn effeithio arnaf?
- Ymddeoliad
- Buddion
- Faint fydd fy mhensiwn?
- Faint fydd fy nghyfandaliad?
- Enghraifft o gyfrifo pensiwn a chyfandaliad
- Tâl Cyfartalog eich Gyrfa
- A fydd fy mhensiwn yn cael ei ailbrisio?
- A allaf ildio rhywfaint o’m pensiwn i gynyddu fy nghyfandaliad?
- Cymryd eich cronfa AVC fel arian parod
- Sut caiff fy mhensiwn ei dalu?
- Beth os byddaf yn cael fy ailgyflogi?
- Diogelwch ar gyfer eich teulu
- Peidio â bod yn Gynghorydd cyn ymddeoliad
- Help gyda Phroblemau Pensiwn
- Rhagor o wybodaeth a chyngor
Eich Dewis Pensiynau
Mae tynnu’ch pensiwn yn nod i edrych ymlaen ato. Fodd bynnag, os yw eich pensiwn yn mynd i fodloni’ch disgwyliadau, bydd angen i chi gynllunio yn awr ar gyfer eich incwm ar ôl ymddeol.
Bydd eich incwm a’ch buddion ymddeol, yn ychwanegol at Bensiwn y Wladwriaeth, yn cael eu darparu’n gyffredinol gan gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn rhanddeiliaid neu gan gynllun pensiwn galwedigaethol fel y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Y Cynllun
Dyma ddisgrifiad byr o’r amodau aelodaeth a buddion y prif gynllun sy’n berthnasol os ydych yn talu i mewn i’r CPLlL fel Cynghorydd Cymwys. Mae’r CPLlL yn gynllun pensiwn statudol a ariennir. O ganlyniad, mae’n ddiogel iawn oherwydd bod ei fuddion wedi’u diffinio a’u nodi yn y gyfraith.
Mae uchafbwyntiau’r CPLlL yn cynnwys:
- cyfandaliad di-dreth pan fyddwch yn ymddeol
- pensiwn blynyddol yn seiliedig ar dâl cyfartalog eich gyrfa
- y gallu i gynyddu’ch pensiwn drwy dalu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
- ymddeoliad gwirfoddol o 55 oed
- ymddeoliad o 50 i 54 oed gyda chaniatâd eich awdurdod
- pensiwn salwch o unrhyw oed
- cyfandaliad marwolaeth mewn swydd, cyfwerth â dwywaith tâl cyfartalog eich gyrfa
- pensiwn priod neu bartner sifil (yn ogystal ag unrhyw blant cymwys)
- mynegrifo buddion er mwyn sicrhau eu bod yn cynyddu gyda chwyddiant
Pwy all ymuno?
Mae’r CPLlL ar gael i holl Gynghorwyr cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Cymru sy’n cael cynnig aelodaeth o’r Cynllun dan gynllun lwfansau’r cyngor ac sydd o dan 75 oed. Mae’r rheini sy’n cael cynnig aelodaeth yn cael eu hystyried yn Gynghorwyr Cymwys. Os ydych wedi cael cynnig aelodaeth o’r Cynllun, eich lle chi fydd penderfynu a ydych am ddewis ymuno â’r Cynllun. Os byddwch yn dewis gwneud hynny byddwch yn dod yn aelod o’r CPLlL o ddechrau’r cyfnod cyflog cyntaf ar ôl derbyn eich dewis.
Sut ydw i’n sicrhau fy mod wedi dod yn aelod?
Er mwyn sicrhau eich hawl i fuddion y Cynllun, mae’n bwysig eich bod yn llenwi ac yn dychwelyd y ffurflen ymuno os ydych yn dymuno bod yn rhan o’r Cynllun. Ar ôl derbyn eich ffurflen, caiff cofnodion perthnasol eu sefydlu a bydd hysbysiad swyddogol o’ch aelodaeth i’r Cynllun yn cael ei anfon atoch. Yn ogystal, dylech wirio’ch taliadau lwfans i sicrhau bod cyfraniadau pensiwn yn cael eu didynnu.
Faint sy’n rhaid i mi ei dalu?
Ar hyn o bryd, eich cyfraniad yw 6% o’r tâl a gewch. Fel aelod o’r CPLlL, bydd eich cyfraniadau’n denu gostyngiad ar dreth ar yr adeg y cânt eu didynnu o’ch lwfansau. I gyflawni hyn, caiff eich cyfraniadau eu didynnu o’ch lwfansau cyn i chi dalu treth. Felly, er enghraifft, os ydych yn talu treth ar gyfradd o 20%, mae pob £1 a gyfrannwch i’r Cynllun ond yn costio 80c net i chi.
Mae cyfyngiadau ar swm y gostyngiad ar dreth sydd ar gael ar gyfraniadau pensiwn. Os bydd gwerth eich cynilion pensiwn yn cynyddu’n fwy na’r lwfans blynyddol o £40,000 mewn unrhyw flwyddyn, efallai bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth. Ni fydd y lwfans blynyddol yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl.
Beth mae’r cyngor yn ei dalu?
Mae’r cyngor yn talu gweddill y gost o ddarparu’ch buddion ar ôl ystyried enillion buddsoddi. Bob tair blynedd, mae actiwari annibynnol yn cyfrifo faint y dylai’r cyngor ei gyfrannu i’r Cynllun. Bydd y swm yn amrywio, ond y dybiaeth sylfaenol bresennol yw eich bod yn cyfrannu tua thraean o gostau’r Cynllun ac mae’r cyngor yn cyfrannu’r gweddill.
A allaf dalu arian ychwanegol i gynyddu fy muddion?
Gall Aelodau gynyddu eu buddion drwy wneud taliadau i drefniant Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) y cynllun. Yn ogystal, gallwch dalu cyfraniadau i gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn rhanddeiliaid. I gael rhagor o wybodaeth am AVC, cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau.
A allaf drosglwyddo hawliau pensiwn i’m Cronfa CPLlL bresennol o gynllun pensiwn blaenorol?
NID yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu i chi drosglwyddo hawliau pensiwn i’r CPLlL o gynllun pensiwn arall nac, yn wir, o Gronfa Bensiwn Awdurdod Lleol arall.
Os oes gennych fudd gohiriedig o gyfnod blaenorol o aelodaeth cynghorwr yn yr un Gronfa CPLlL, gallwch ddewis cyfuno aelodaeth gynharach cynghorwr â’r cyfnod presennol o aelodaeth gynghorwr, ond dim ond os byddwch yn dewis gwneud hynny o fewn 12 mis i ailymuno â’r Cynllun neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan eich cyngor. Disgresiwn y cyngor yw hwn; gallwch ofyn i’ch cyngor beth yw ei bolisi ar y mater hwn.
Rwyf eisoes yn derbyn pensiwn CPLlL – os byddaf yn ymuno eto, a fydd hyn yn effeithio arnaf?
Os byddwch yn dod yn gynghorydd lle mae eich cyngor yn cynnig aelodaeth o’r CPLlL i chi, rhaid i chi ddweud wrth y gronfa CPLlL sy’n talu’ch pensiwn am eich swydd newydd, p’un a ydych yn ymuno â’r cynllun yn eich swydd newydd ai peidio. Yna byddant yn gwirio i weld a ddylid lleihau’r pensiwn y maent yn ei dalu.
Ymddeoliad
Pryd gallaf ymddeol?
Gallwch ymddeol a derbyn eich buddion CPLlL yn llawn unwaith y byddwch wedi cyrraedd 65 oed. Mae’r Cynllun hefyd yn gwneud darpariaethau ar gyfer talu’ch buddion CPLlL yn gynnar.
Beth yw fy muddion ymddeol?
Pan fyddwch yn ymddeol, byddwch yn derbyn pensiwn a chyfandaliad di-dreth gan y CPLlL. Ar Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch hefyd yn derbyn pensiwn ymddeol y wladwriaeth os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich bywyd gwaith. I gael rhagor o wybodaeth am eich Pensiwn y Wladwriaeth, ewch i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh): www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions
A allaf ymddeol yn gynnar?
Os oes gennych o leiaf dri mis o aelodaeth gyfan gallwch ymddeol o’ch swydd a derbyn taliad o’ch buddion ar unrhyw adeg o 55 oed ymlaen. Os ydych rhwng 50 a 55 oed efallai y gallwch ymddeol o’ch swydd a derbyn taliad o’ch buddion ar unwaith, ond dim ond gyda chaniatâd eich cyngor y gellir talu buddion cyn 55 oed. Disgresiwn y cyngor yw hwn a dan y CPLlL mae’n rhaid i bolisi’ch cyngor ynglŷn â hyn gael ei gynnwys yn ei Ddatganiad Polisi. Sylwer, os bydd eich cyngor yn rhoi ei ganiatâd i dalu’ch buddion cyn 55 oed, gallai hyn arwain at dâl treth ar eich buddion.
A fydd fy mhensiwn a’m cyfandaliad yn cael eu lleihau os byddaf yn ymddeol yn gynnar?
Os byddwch yn ymddeol cyn 65 oed, bydd eich buddion CPLlL, a gyfrifwyd i ddechrau fel y nodir yn yr adran ‘Y Buddion’, yn cael eu lleihau i ystyried eu taliad cynnar a’r ffaith y bydd eich pensiwn yn daladwy am fwy o amser. Caiff y gostyngiad ei gyfrifo’n unol â’r arweiniad a roddir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD). Mae’r gostyngiad yn seiliedig ar faint o amser (mewn blynyddoedd a diwrnodau) yr ydych yn ymddeol yn gynnar h.y. y cyfnod rhwng y dyddiad y telir eich buddion hyd at 65 oed. Po cynharaf y byddwch yn ymddeol, mwyaf yw’r gostyngiad.
Os oeddech yn cyfrannu at y cynllun ar 30 Medi 2006, gellid diogelu rhai neu’r cyfan o’ch buddion a dalwyd yn gynnar rhag y gostyngiad os ydych yn aelod a ddiogelir dan y rheol 85 mlynedd. I gael rhagor o wybodaeth am y rheol 85 mlynedd, cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau.
Sylwer y gall eich cyngor gytuno i beidio â gwneud unrhyw ostyngiad ar sail dosturiol. Disgresiwn y cyngor yw hwn; gallwch ofyn i’ch cyngor beth yw ei bolisi ar y mater hwn.
Os byddwch yn ymddeol yn wirfoddol cyn eich bod yn 65 oed, nid oes rhaid i chi dderbyn taliad o’ch buddion yn syth, a gallwch eu gohirio o fewn y CPLlL i’w talu’n ddiweddarach fel y nodir ar dudalen 13.
Beth sy’n digwydd os bydd yn rhaid i mi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch?
Os oes gennych o leiaf dri mis o aelodaeth lwyr a bod ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol a gymeradwywyd gan awdurdod gweinyddu’n ardystio nad ydych wedi gallu cyflawni dyletswyddau eich swyddfa’n effeithlon (tan eich pen-blwydd yn 65 oed) oherwydd salwch neu lesgedd meddwl neu gorff, byddwch yn derbyn eich pensiwn a’ch cyfandaliad ar unwaith. Rhaid i’r ymarferydd meddygol fod â chymhwyster mewn meddygaeth iechyd galwedigaethol ac ni ddylai fod wedi ymwneud â’ch achos o’r blaen.
Cyfrifir pensiynau a chyfandaliadau afiechyd yn yr un modd ag y nodir yn yr adran ‘Y Buddion’, heblaw y bydd cyfanswm yr aelodaeth a ddefnyddir yn y cyfrifiad yn cynyddu os yw cyfanswm eich aelodaeth yn bum mlynedd neu fwy.
Mae’r tabl isod yn dangos faint o gynnydd fydd.
Cyfanswm yr Aelodaeth a Ddyfarnwyd | Cyfanswm yr Aelodaeth ar ôl y Cynnydd |
---|---|
Llai na 5 mlynedd | Cyfanswm yr aeoldaeth wirioneddol yn unig |
Rhwng 5 a 10 mlynedd | Cyfanswm yr aelodaeth wedi’i ddyblu |
Rhwng 10 a 13 1/3 o flynyddoedd | Cyfanswm yr aeolodaeth wedi’i gynyddu i 20 mlynedd |
Dros 13 1/3 blynedd | Cyfanswm yr aeolodaeth wedi’i gynyddu 6 2/3 blynedd |
Fodd bynnag, ni ddylai eich aelodaeth gynyddol fod yn fwy na chyfanswm yr aelodaeth y byddech wedi’i chronni pe baech wedi parhau yn y gwasanaeth tan 65 oed. Ni fydd eich buddion pensiwn yn cynyddu os dyfarnwyd pensiwn afiechyd i chi yn flaenorol dan y Cynllun.
Os yw’r awdurdod gweinyddu, ar ddyddiad ymddeol, yn fodlon bod disgwyliad oes o lai na blwyddyn, gellir cymudo’r pensiwn i gyfandaliad o bum gwaith swm y pensiwn a ildir.
Beth os byddaf yn parhau i weithio ar ôl 65 oed?
Os ydych yn parhau yn eich swydd ar ôl cyrraedd 65 oed, byddwch yn parhau i dalu i’r cynllun ac yn cronni rhagor o fuddion CPLlL. Gallwch dderbyn eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol, neu pan fyddwch yn cyrraedd noswyl eich pen-blwydd yn 75 oed, p’un bynnag sy’n digwydd gyntaf. Os byddwch yn tynnu’ch pensiwn ar ôl 65 oed bydd y pensiwn rydych wedi’i gronni hyd at 65 oed yn cael ei gynyddu i adlewyrchu’r ffaith y caiff ei dalu am gyfnod byrrach. Rhaid i’ch pensiwn gael ei dalu cyn eich pen-blwydd yn 75 oed.
Buddion
Faint fydd fy mhensiwn?
Mae eich pensiwn yn seiliedig ar gyfanswm eich aelodaeth a thâl cyfartalog eich gyrfa. Mae’r enghraifft isod yn dangos sut y cyfrifir eich pensiwn drwy rannu tâl cyfartalog eich gyrfa’n 80fedau a lluosi’r ffigur hwn â chyfanswm eich aelodaeth i roi eich pensiwn blynyddol i chi.
Faint fydd fy nghyfandaliad?
Mae’r cyfandaliad a delir yn awtomatig ar ôl ymddeol deirgwaith eich pensiwn blynyddol ac mae’n ddi-dreth. Fel eich pensiwn, mae’n seiliedig ar dâl cyfartalog eich gyrfa a chyfanswm eich aelodaeth. Y cyfrifiad ar gyfer y cyfandaliad yw 3/80fed o dâl cyfartalog eich gyrfa am bob blwyddyn o gyfanswm yr aelodaeth. Pan fyddwch yn tynnu’ch buddion, byddwch yn gallu cyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn i dderbyn cyfandaliad di-dreth mwy.
Enghraifft o gyfrifo pensiwn a chyfandaliad
Ar ôl ymddeol yn 65 oed, mae gan aelod o’r Cynllun gyfanswm aelodaeth o 10 mlynedd a 204 diwrnod ac mae tâl cyfartalog ei yrfa’n £16,200.
Y pensiwn blynyddol felly yw: 1/80 x £16,200 x 10 mlynedd 204/365 diwrnod = £2,138.18
Felly, y cyfandaliad di-dreth a delir yn awtomatig yw: 3/80 x £16,200 x 10 mlynedd 204/365 diwrnod = £6,414.53
Tâl Cyfartalog eich Gyrfa
Dyma’r tâl am bob blwyddyn neu ran o flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth a addaswyd (ac eithrio tâl y blynyddoedd olaf) gan y newid yn y mynegai costau byw priodol rhwng diwedd y flwyddyn berthnasol a diwrnod olaf y mis y daw eich aelodaeth weithredol o’r Cynllun i ben. Yna caiff cyfanswm pob blwyddyn o dâl a ailbrisir ei rannu â chyfanswm nifer y blynyddoedd a’r blynyddoedd rhannol i gyrraedd tâl cyfartalog eich gyrfa. Yna defnyddir hwn i gyfrifo’ch buddion pensiwn.
A fydd fy mhensiwn yn cael ei ailbrisio?
Ar ôl 55 oed, bydd taliadau pensiynau aelodau’n cael eu hailbrisio bob blwyddyn yn unol â’r mynegai costau byw priodol. Os byddwch yn ymddeol cyn 55 oed, bydd effaith gronnol chwyddiant ers i chi ymddeol yn cael ei hychwanegu at eich pensiwn pan fyddwch yn cyrraedd 55 oed. Caiff pensiynau afiechyd eu hailbrisio bob blwyddyn gyda’r mynegai costau byw priodol waeth beth yw’r hoedran.
A allaf ildio rhywfaint o’m pensiwn i gynyddu fy nghyfandaliad?
Byddwch yn gallu cyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am gyfandaliad di-dreth mwy. Byddwch yn gallu cymryd hyd at uchafswm o 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn fel cyfandaliad di-dreth (ar yr amod nad yw’r cyfandaliad yn fwy na £269,725 (ffigur o fis Ebrill 2021) namyn gwerth unrhyw hawliau pensiwn sydd gennych mewn taliadau).
Byddai unrhyw swm a gymerwch fel cyfandaliad uwchlaw’r cyfandaliad awtomatig yn cael ei gyflawni drwy gyfnewid rhan o’ch pensiwn blynyddol am daliad arian parod di-dreth untro – ar gyfer pob £1 o bensiwn blynyddol a ildir, byddwch yn derbyn cyfandaliad o £12.
Rhaid gwneud opsiwn i gymryd cyfandaliad ychwanegol yn ysgrifenedig cyn i’ch buddion gael eu talu. Er mwyn i chi gael digon o amser i benderfynu a cheisio cyngor ariannol os dymunwch, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r Is-adran Bensiynau ymhell cyn eich dyddiad ymddeol arfaethedig fel y gallant roi mwy o fanylion i chi.
Bydd eich pensiwn yn cael ei leihau’n unol ag unrhyw ddewis a wnewch i dderbyn cyfandaliad ychwanegol. Nid effeithir ar unrhyw bensiynau hirdymor priod, partner sifil a phlant dilynol os byddwch yn penderfynu cyfnewid rhan o’ch pensiwn am gyfandaliad ychwanegol.
Cymryd eich cronfa AVC fel arian parod
Os ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol drwy’r CPLlL, gallwch ddewis cymryd hyd at 100% o’r gronfa gronnol yn eich cyfrif AVC fel cyfandaliad di-dreth os byddwch yn ei dynnu ar yr un pryd â’ch buddion pensiwn CPLlL, ar yr amod, o’i ychwanegu at gyfandaliad CPLlL, nad yw’n fwy na 25% o werth cyffredinol eich buddion CPLlL (gan gynnwys eich cronfa AVC). I gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau, cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau.
Sut caiff fy mhensiwn ei dalu?
Telir taliadau pensiwn misol yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Gellir gwneud trefniadau tebyg hefyd i dalu’ch pensiwn i’ch cyfrif os byddwch yn symud dramor. Darperir rhagor o wybodaeth am dalu pensiynau pan fyddwch yn ymddeol.
Beth os byddaf yn cael fy ailgyflogi?
Os byddwch, ar ôl ymddeol, yn dychwelyd i gyflogaeth neu swydd o fewn Llywodraeth Leol neu gyflogaeth gyda sefydliad arall sy’n cymryd rhan yn y CPLlL, gall eich pensiwn gael ei leihau neu ei atal yn unol â’r polisi a fabwysiadwyd gan eich awdurdod gweinyddu. O dan y CPLlL, disgresiwn awdurdod gweinyddu yw hwn ac mae’n rhaid bod ei bolisi wedi’i gyhoeddi. Darperir rhagor o fanylion ar gais.
Diogelwch ar gyfer eich teulu
Pa fuddion gaiff eu talu os byddaf yn marw mewn swydd?
Os byddwch yn marw yn eich swydd fel aelod o’r CPLlL, yn amodol ar yr amodau cymhwyso a fanylir, mae’r buddion a ddangosir isod yn daladwy.
- Mae cyfandaliad grant marwolaeth o ddwy waith tâl cyfartalog eich gyrfa’n daladwy waeth pa mor hir y buoch yn aelod o’r CPLlL, ar yr amod eich bod dan 75 oed ar ddyddiad eich marwolaeth.
- Pensiwn tymor byr priod neu bartner sifil sy’n daladwy am dri mis ar ôl eich marwolaeth (neu chwe mis os yw un neu fwy o blant dibynnol cymwys yng ngofal y priod neu’r partner sifil) ar gyfradd flynyddol sy’n hafal i gyflog cyfartalog eich gyrfa. Os byddwch yn marw yn eich swydd ar ôl cronni cyfanswm aelodaeth o dri mis, bydd eich priod neu bartner sifil hefyd yn derbyn pensiwn hirdymor, sy’n dechrau pan ddaw’r pensiwn tymor byr i ben. Yn gyffredinol, y pensiwn hirdymor yw hanner y pensiwn y byddech wedi’i gael pe baech wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch ar ddyddiad y farwolaeth.
- Pensiynau i blant cymwys. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau.
Pa fuddion fydd yn cael eu talu os byddaf yn marw ar ôl ymddeol ar bensiwn?
Os byddwch yn marw ar ôl ymddeol ar bensiwn, efallai bydd y buddion a ddangosir isod yn daladwy. Rhaid i’ch priod, eich partner sifil, eich perthynas agosaf neu berson sy’n delio â’ch Ystâd hysbysu’r Is-adran Bensiynau’n syth o’ch dyddiad marwolaeth oherwydd fel arall, gallai gordaliad ddigwydd.
- Bydd cyfandaliad grant marwolaeth yn daladwy os bydd y farwolaeth yn digwydd yn y pum mlynedd gyntaf ar bensiwn a’ch bod dan 75 oed ar ddyddiad y farwolaeth. Y swm sy’n daladwy fydd pum gwaith eich pensiwn blynyddol wedi’i leihau gan y pensiwn a dalwyd eisoes i chi hyd at ddyddiad y farwolaeth.
- Bydd pensiwn tymor byr priod neu bartner sifil yn daladwy am y tri mis ar ôl eich marwolaeth, (neu chwe mis os yw un neu fwy o blant dibynnol cymwys yng ngofal y priod neu’r partner sifil). Bydd hyn yn hafal i’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn neu y byddech wedi’i gael onibai am ostyngiad oherwydd ymddeoliad cynnar neu pe na bai wedi’i dalu fel cyfandaliad oherwydd salwch eithriadol.
Ar ôl hynny, bydd y priod neu’r partner sifil yn cael pensiwn hirdymor sy’n hafal yn gyffredinol i hanner y pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn neu y byddech wedi’i gael onibai am ostyngiad o ganlyniad i ymddeoliad cynnar neu o ganlyniad i gyfnewid pensiwn am gyfandaliad uwch, neu pe na bai wedi’i dalu fel cyfandaliad oherwydd salwch eithriadol.
Os gwnaethoch briodi ar ôl ymddeol a’ch bod wedi ymddeol ar sail salwch parhaol, bydd pensiwn y priod yn seiliedig ar hanner eich pensiwn sylfaenol yn unig h.y. gan eithrio unrhyw ychwanegiad i’ch pensiwn ar sail ymddeoliad oherwydd salwch. Os dechreuoch chi bartneriaeth sifil ar ôl i chi ymddeol, pensiwn y partner sifil fydd hanner eich pensiwn.
- Pensiynau i blant cymwys. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Is-adran Bensiynau.
Peidio â bod yn Gynghorydd cyn ymddeoliad
A allaf ddewis peidio â bod yn y CPLlL?
Gallwch adael y CPLlL ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’ch cyngor. Daw dewis i beidio â bod yn rhan o’r cynllun yn effeithiol o ddiwedd y cyfnod talu pan roesoch hysbysiad oni bai fod eich hysbysiad yn pennu dyddiad diweddarach. Argymhellir eich bod yn cael cyngor dewis peidio ag ymuno.
Ad-dalu Cyfraniadau
Os byddwch yn gadael gyda chyfanswm aelodaeth o lai na thri mis, gallwch gymryd ad-daliad o’ch cyfraniadau namyn didyniad ar gyfer treth a’r gost, os o gwbl, o’ch prynu’n ôl i Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth (S2P). Neu, mae gennych yr opsiwn i ohirio gwneud penderfyniad nes i chi naill ai ailymuno â’r un gronfa CPLlL fel aelod sy’n Gynghorydd (yng Nghymru), neu ymuno â chynllun pensiwn newydd, neu os ydych am gymryd ad-daliad o gyfraniadau.
Sylwer na ellir talu ad-daliad o gyfraniadau os oes gennych fudd gohiriedig eisoes yn y CPLlL yng Nghymru neu Loegr.
Buddion gohiriedig
Os oes gennych o leiaf dri mis o aelodaeth lwyr, bydd gennych hawl i adael eich buddion cronedig yn y CPLlL. Bydd eich pensiwn a’ch cyfandaliad yn cael eu cyfrifo fel y disgrifir yn yr adran Y Buddion gan ddefnyddio hyd cyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad y gadawsoch y Cynllun. Mae hyn yn golygu bod gennych fuddion gohiriedig.
Daw buddion gohiriedig yn daladwy yn 65 oed (oni bai eich bod yn dewis gohirio’r taliad y tu hwnt i’r oedran hwnnw), ond gellir eu talu ar unrhyw oedran yn gynharach na 65 oed os bydd salwch, heb ostyngiad.
Gallwch, os dymunwch, ddewis derbyn eich buddion yn gynnar, ar neu ar ôl 50 oed a chyn 55 oed gyda chaniatâd eich cyngor, neu yn 55 oed neu ar ôl hynny, heb ganiatâd eich cyngor. all y buddion sy’n cael eu talu cyn 65 oed (oni bai eu bod yn cael eu talu ar sail salwch parhaol) gael eu lleihau er mwyn ystyried taliad cynnar a’r ffaith y telir eich pensiwn am fwy o amser.
Beth os byddaf yn marw cyn cael fy muddion gohiriedig?
Os byddwch yn marw wrth i’ch buddion gael eu gohirio, telir eich cyfandaliad ymddeol fel grant marwolaeth. Bydd pensiwn hirdymor priod (naill ai o briodas o’r un rhyw neu’r rhyw arall) neu bensiwn hirdymor partner sifil hefyd yn daladwy. Mae pensiwn y priod neu’r partner sifil yn daladwy ar gyfradd hanner eich pensiwn gohiriedig. Bydd pensiynau hirdymor plant yn daladwy cyhyd ag y bydd plant yn parhau i fod yn gymwys yn dilyn eich marwolaeth.
A allaf ailymuno â’r CPLlL yn ddiweddarach?
Os byddwch yn dewis peidio â bod yn rhan o’r cynllun unwaith, gallwch ailymuno â’r CPLlL ar unrhyw adeg tra byddwch yn parhau i fod yn gynghorydd cymwys. Os byddwch yn dewis peidio â bod yn rhan o’r CPLlL fwy nag unwaith, oni bai eich bod yn dewis ailymuno â’r Cynllun o fewn tri mis i ddechrau fel cynghorydd cymwys gyda chyngor newydd yng Nghymru, caniateir i chi ailymuno yn ôl disgresiwn eich cyngor yn unig. Gallwch ofyn i’ch cyngor beth yw ei bolisi ar y mater hwn.
Transferring my benefits
Os byddwch yn gadael y cynllun fwy na blwyddyn cyn 65 oed, gallwch drosglwyddo gwerth cyfwerth ag arian parod eich buddion pensiwn i gynllun pensiwn galwedigaethol arall, ar yr amod eu bod yn barod i’w dderbyn ac yn gallu gwneud hynny, i gynllun pensiwn personol, i bolisi yswiriant ‘prynu allan’ neu i gynllun pensiwn rhanddeiliaid (ond nid y CPLlL yng Nghymru neu Loegr oni bai eich bod yn cymryd rhan eto yn yr un gronfa CPLlL ag Aelod sy’n Gynghorydd).
Mae’r dull o gyfrifo gwerth cyfwerth ag arian parod eich hawliau pensiwn yn cydymffurfio â gofynion Deddf Cynlluniau Pensiynau 1993 ac mae unrhyw werth a ddyfynnir wedi’i warantu am dri mis.
Os ydych yn ystyried a ddylid trosglwyddo buddion, gwnewch yn siŵr bod gennych wybodaeth lawn am y ddau drefniant pensiwn, er mwyn cymharu’r cynlluniau h.y. manylion gwerth eich buddion yn y CPLlL a manylion gwerth eich buddion yn y cynllun pensiwn newydd, os cânt eu trosglwyddo. Pan fyddwch yn cymharu’ch opsiynau, peidiwch ag anghofio bod eich buddion CPLlL yn gynnydd costau byw gwarantedig. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo’ch hawliau pensiwn bob amser yn benderfyniad hawdd i’w wneud ac felly efallai y byddwch am ofyn am gymorth cynghorydd ariannol annibynnol cyn i chi benderfynu trosglwyddo’ch buddion gohiriedig i gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn rhanddeiliaid, polisi yswiriant prynu allan neu i gynllun prynu arian cyflogwr, gan y byddwch yn ysgwyddo’r holl risg buddsoddi a allai effeithio’n sylweddol ar eich buddion pensiwn yn y dyfodol.
Sylwer bod yn rhaid i chi gymryd cyngor ariannol annibynnol priodol cyn trosglwyddo o’r CPLlL (lle caiff buddion eu diffinio’n ‘fuddion a ddiogelir’) i drefniant a elwir yn cynnig ‘buddion hyblyg’ (h.y. y manteision hynny sy’n rhan o gynllun cyfraniadau diffiniedig sy’n hyblyg). Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol os yw gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod eich holl fuddion yn y CPLlL (ac eithrio unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol) yn fwy na £30,000.
Help gyda Phroblemau Pensiwn
Pwy all fy helpu os oes gennyf ymholiad neu gŵyn?
Os oes gennych unrhyw amheuaeth am eich hawliau budd-dal neu os oes gennych broblem neu gwestiwn am eich aelodaeth neu fuddion CPLlL, cysylltwch ag Is-adran Bensiynau eich awdurdod gweinyddu. Byddant yn ceisio egluro neu gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu anghywirdebau cyn gynted ac mor effeithlon â phosib.
Os ydych yn dal yn anfodlon ar unrhyw benderfyniad a wneir mewn perthynas â’r Cynllun, mae gennych hawl i gael adolygiad o’ch cwyn dan y Weithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol. Mae sawl corff rheoleiddio arall hefyd a allai eich cynorthwyo. Dyma’r gwahanol ffyrdd y gallwch ofyn am help gyda phroblem sy’n ymwneud â phensiwn:
Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (GDAM)
Yn y lle cyntaf, dylech ysgrifennu at y person a enwebwyd gan y cyngor a wnaeth y penderfyniad yr hoffech apelio yn ei gylch. Rhaid i chi wneud hyn o fewn chwe mis i ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r weithred neu’r hepgoriad rydych yn cwyno amdano (neu gyfnod hwy y mae’r person enwebedig o’r farn ei fod yn rhesymol).
Bydd y person enwebedig yn ystyried eich cwyn ac yn rhoi gwybod i chi am ei benderfyniad. Os ydych yn dal yn anfodlon ar benderfyniad y person hwnnw (neu ei fethiant i wneud penderfyniad), gallwch, o fewn chwe mis i ddyddiad y penderfyniad, wneud cais i’r awdurdod gweinyddu i ailystyried y penderfyniad.
Er mwyn osgoi unrhyw ymdrech ddiangen ar eich rhan, byddem yn croesawu’r cyfle i geisio datrys y mater rydych yn anfodlon ag ef gyda chi cyn i chi droi at gŵyn ffurfiol.
Y Gwasanaeth Ymgynghori ar Bensiynau (TPAS)
Os oes gennych geisiadau cyffredinol am wybodaeth neu ganllawiau ynghylch eich trefniadau pensiwn, cysylltwch â:
Cyfeiriad: Money and Pensions Service, 120 Holborn, London, EC1N 2TD
Ffôn: 0800 011 3797
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Yr Ombwdsmon Pensiynau (TPO)
Mae gennych hawl i gyfeirio’ch cwyn at yr Ombwdsmon Pensiynau yn rhad ac am ddim. Mae’r Ombwdsmon Pensiynau yn ymdrin â chwynion ac anghydfodau sy’n ymwneud â gweinyddu a/neu reoli cynlluniau pensiwn galwedigaethol a phersonol.
Mae angen cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau ynghylch cwyn o fewn tair blynedd i’r adeg y digwyddodd y digwyddiad(au) rydych yn cwyno amdano(ynt) – neu, os yn ddiweddarach, o fewn tair blynedd i’r adeg yr oeddech yn gwybod amdano gyntaf (neu y dylech fod wedi gwybod amdano). Mae disgresiwn o ran ymestyn y terfynau amser.
Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon Pensiynau yn:
Cyfeiriad: 10 South Colonnade, Canary Wharf, London, E14 4PU
Ffôn: 0800 917 4487
Ebost: enquiries@pensions-ombudsman.org.uk
Gwefan: www.pensions-ombudsman.org.uk
Y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR)
Dyma’r rheoleiddiwr cynlluniau pensiwn sy’n seiliedig ar waith. Mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau bwerau i amddiffyn aelodau cynlluniau pensiwn sy’n seiliedig ar waith ac ystod eang o bwerau i helpu i gywiro pethau, lle bo angen. Mewn achosion eithafol, gall y rheoleiddiwr ddirwyo ymddiriedolwyr neu gyflogwyr, a thynnu ymddiriedolwyr o gynllun.
Gallwch gysylltu â’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn:
Cyfeiriad: Napier House, Trafalgar Place, Brighton, BN1 4DW
Ffôn: 0345 600 0707
Gwefan: www.thepensionsregulator.gov.uk
Sut gallaf olrhain fy hawliau pensiwn?
Mae’r Gwasanaeth Olrhain Pensiynau yn cadw manylion cynlluniau pensiwn, gan gynnwys y CPLlL, ynghyd â chyfeiriadau cyswllt perthnasol.
Mae’n darparu gwasanaeth olrhain ar gyfer cyn-aelodau o gynlluniau sydd â hawliau pensiwn (a’u goroeswyr), sydd wedi colli cysylltiad â chynlluniau blaenorol. Rhaid i bob cynllun pensiwn galwedigaethol a phersonol gofrestru os oes gan y cynllun pensiwn aelodau cyfredol sy’n cyfrannu at y cynllun neu bobl sy’n disgwyl buddion o’r cynllun.
Os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth olrhain hwn, ysgrifennwch at:
Cyfeiriad: The Pension Tracing Service, Tyneview Park, Whitley Road, Newcastle upon Tyne, NE98 1BA
Rhif ffôn: 0800 731 0193
Gwefan: www.gov.uk/find-pension-contact-details
Cofiwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch darparwyr pensiwn am unrhyw newid yn eich cyfeiriad cartref.
Rhagor o wybodaeth a chyngor
Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn seiliedig ar Reoliadau CPLlL 1997 a deddfwriaeth berthnasol arall. Mae’r llyfryn hwn ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru ac mae’n adlewyrchu darpariaethau’r CPLlL a’r ddeddfwriaeth bwysicaf adeg ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2021. Gall y Llywodraeth wneud newidiadau i’r brif ddeddfwriaeth ac, ar ôl ymgynghori â phartïon â diddordeb, gallant wneud newidiadau i’r CPLlL yn y dyfodol.
Ni all y canllaw byr hwn gwmpasu pob amgylchiad personol ac nid yw’n cynnwys hawliau sy’n berthnasol i nifer cyfyngedig o gyflogeion e.e. y rhai y mae cyfanswm eu buddion pensiwn yn fwy na’r Lwfans Gydol Oes (£1,078,900 o fis Ebrill 2021) neu y mae eu buddion pensiwn yn cynyddu mwy na’r Lwfans Blynyddol (£40,000 o fis Ebrill 2014), neu’r rheini sy’n destun tâl treth lwfans blynyddol arbennig, y rheini y mae hawliau gwarchodedig yn gymwys iddynt, neu’r rheini y mae eu hawliau yn destun Gorchymyn Rhannu Pensiwn ar ôl ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil.
Sylwer, os yw eich buddion pensiwn yn destun Gorchymyn Rhannu Pensiwn a gyhoeddir gan y Llys yn dilyn ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil, bydd eich buddion yn cael eu lleihau yn unol â’r Gorchymyn Llys neu gytundeb.
Os bydd unrhyw anghydfod dros fuddion pensiwn, bydd y ddeddfwriaeth briodol yn parhau i fod mewn grym. Nid yw’r canllaw byr hwn yn rhoddi unrhyw hawliau cytundebol na statudol ac fe’i darperir at ddibenion gwybodaeth yn unig.
Cyngor Abertawe yw’r awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio’n unol â deddfwriaeth diogelu data er mwyn eich darparu gyda gwasanaeth gweinyddu pensiynau. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym yn defnyddio’ch data, gyda phwy rydym yn ei rannu a pha hawliau sydd gennych o ran eich gwybodaeth: www.swanseapensionfund.org.uk/cy
Fel arall, gallwch hefyd e-bostio’r Gronfa: pensions@swansea.gov.uk