Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi ennill gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau yn ystod Gwobrau Buddsoddiadau Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALl) i nodi’r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at gyflawni portffolio buddsoddi sero net erbyn 2037. Mae ein tîm yn gofalu am bensiynau 48,000 o aelodau gyda chynllun sy’n werth £2.9 biliwn a chyrhaeddodd rhestr fer CPALl ar gyfer cronfa bensiwn y flwyddyn a’r strategaeth fuddsoddi orau.
