Os ydych wedi ymuno â’r LGPS yn ddiweddar ac mae gennych hawliau pensiwn blaenorol, gallwch drosglwyddo’r rhain i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar yr amod eich bod yn dewis gwneud hynny o fewn 12 mis i ymuno â’r cynllun.
Os trosglwyddwyd y fath hawliau blaenorol ac roedd hyd y gwasanaeth o ran buddion yn y cynllun hwnnw’n ddwy flynedd neu fwy, byddai hyn yn rhoi hawl i chi gael buddion pensiwn ar eich oedran ymddeol arferol hyd yn oed os oes gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Hefyd, gellir trosglwyddo hawliau pensiwn i’r LGPS o
- gynllun pensiwn cyflogwr blaenorol; (gan gynnwys cyflogwr arall sy’n rhan o’r LGPS neu gynllun pensiwn galwedigaethol tramor);
- cynllun pensiwn hunangyflogedig;
- polisi ‘prynu cyfran’;
- cynllun pensiwn personol;
- cynllun pensiwn rhanddeiliaid
- Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (AVC)* neu Gynllun Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol (FSAVC)
Mae’n rhaid dewis trosglwyddo o fewn 12 mis i ymaelodi â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Caiff cais i drosglwyddo y tu allan i’r terfyn 12 mis ei ganiatáu yn ôl disgresiwn eich cyflogwr a’r Gronfa Bensiwn yn unig.
Os ydych yn dymuno ymchwilio i drosglwyddo, llenwch a dychwelwch y Ffurflen Ymholi am Drosglwyddo.
* Os ydych wedi talu AVCs mewnol i unrhyw gyflogwr LGPS yng Nghymru neu Loegr o’r blaen, cewch drosglwyddo’r trefniad i’r trefniad AVC mewnol sy’n cael ei gynnig gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe; fodd bynnag, dylech gysylltu â’r Is-adran Bensiynau i gadarnhau goblygiadau gwneud hynny.