Telir eich cyfandaliad yn ddi-dreth, ond mae’ch pensiwn blynyddol yn drethadwy ac yn amodol ar y cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) – Treth Incwm. Rhaid i’r Gronfa Bensiwn gydymffurfio â’r côd a roddwyd gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Ar ôl ymddeol, bydd eich cyn-gyflogwr yn anfon hysbysiad o’ch côd treth presennol at y Gronfa Bensiwn. Bydd y gronfa wedyn yn rhoi gwybod i CThEM eich bod wedi ymddeol a’ch bod yn cael pensiwn a bydd yn defnyddio’r côd treth Mis Un nes i CThEM gadarnhau’r côd priodol.
Os nad yw’ch côd treth yn hysbys ar unwaith, caiff côd treth brys ei ddefnyddio nes i CThEM gadarnhau’r côd priodol.
Dylech ffonio’ch swyddfa dreth leol ar 0845 3000 627 os oes gennych ymholiad am eich côd treth.
Bydd yn ofynnol i chi roi’ch cyfenw a’ch Rhif Yswiriant Gwladol a dyfynnu rhif cyfeirnod 615 / C509P