Ymeithrio
Gallwch adael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) unrhyw bryd drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor. Bydd dewis ymeithrio yn dechrau o ddiwedd y cyfnod talu pan fyddwch yn ein hysbysu, oni bai bod eich hysbysiad yn nodi dyddiad diweddarach penodol. Argymhellir eich bod yn cael mwy o wybodaeth cyn ymeithrio o’r LGPS.
Os byddwch yn ymeithrio unwaith, gallwch ailymaelodi â’r LGPS unrhyw bryd tra byddwch yn parhau i fod yn Gynghorydd Cymwys. Os byddwch yn ymeithrio o’r LGPS fwy nag unwaith, oni bai eich bod yn ailymaelodi â’r cynllun o fewn 3 mis ar ôl cael eich ethol yn gynghorydd cymwys gyda chyngor newydd, ni fyddwch yn cael ailymaelodi ond ar ddisgresiwn eich cyngor.
Fodd bynnag, os byddwch yn gadael eich swydd, bydd gennych yr opsiynau canlynol, gan ddibynnu ar hyd eich aelodaeth o’r cynllun: