Mae cyfradd eich cyfraniadau’n dibynnu ar eich cyflog, ond bydd rhwng 5.5% a 12.5% o’ch tâl pensiynadwy. Bydd eich cyflogwr yn asesu cyfradd eich cyfraniadau ar gyfer pob swydd yn seiliedig ar eich tâl gwirioneddol.
Tâl pensiynadwy yw swm y tâl rydych yn talu cyfraniadau arni. O 1 Ebrill 2014, mae’n cynnwys gor-amser nad yw dan gontract (yn ogystal â gor-amser contract) ac unrhyw oriau ychwanegol a weithiwyd ar ben eich oriau contract.
O 1 Ebrill 2024, dyma fydd y bandiau tâl:
Eich Tâl Pensiynadwy Gwirioneddol | Cyfradd Cyfraniad ar gyfer y Brif Adran | Brif Adran | Adran 50/50 |
Hyd at | £ 17,600.00 | 5.50% | 2.75% |
£ 17,601.00 | £ 27,600.00 | 5.80% | 2.90% |
£ 27,601.00 | £ 44,900.00 | 6.50% | 3.25% |
£ 44,901.00 | £ 56,800.00 | 6.80% | 3.40% |
£ 56,801.00 | £ 79,700.00 | 8.50% | 4.25% |
£ 79,701.00 | £ 112,900.00 | 9.90% | 4.95% |
£ 112,901.00 | £ 133,00.00 | 10.50% | 5.25% |
£ 133,101.00 | £ 199,700.00 | 11.40% | 5.70% |
£ 199,701.00 | or more | 12.50% | 6.25% |
Bob mis Ebrill, bydd eich cyflogwr yn cyfateb y tâl pensiynadwy â’r band priodol yn y tabl cyfraniadau. Caiff cyfraddau cyfraniadau a/neu fandiau tâl eu hadolygu’n rheolaidd a gallent newid yn y dyfodol.
Os yw eich tâl yn newid yn ystod y flwyddyn, efallai bydd eich cyflogwr yn penderfynu adolygu cyfradd eich cyfraniadau.
Os ydych yn talu treth ac Yswiriant Gwladol, cewch ostyngiadau treth ar eich cyfraniadau a byddwch yn contractio allan o Gynllun Ail Bensiwn Gwladol y Wladwriaeth (S2P) ac felly byddwch yn talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is.
Bydd eich cyflogwr yn parhau i dalu balans y gost o ddarparu’ch buddion pensiwn ar ôl ystyried adenillion buddsoddiadau.
I gael gwybodaeth am yr Adran 50/50, cliciwch yma