Cyflwyniad
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cyson o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol posib, yn enwedig mewn amgylchedd pensiynau sy’n newid yn barhaus.
Mae 5 grŵp gwahanol y mae angen i’r gronfa gyfathrebu â nhw.
- 1. Aelodau’r Cynllun
 - 2. Darpar Aelodau’r Cynllun
 - 3. Cyflogwyr y Cynllun
 - 4. Cyrff Eraill
 - 5. Staff y Gronfa
 
Nod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yw defnyddio’r dull cyfathrebu mwyaf priodol ar gyfer y cynulleidfaoedd sy’n derbyn yr wybodaeth. Gall hyn gynnwys defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu fel y bo’n briodol. Mae’r holl gyfathrebu ar ffurf print ac electronig wedi’i gynllunio i ystyried y rheini ag anghenion ychwanegol. Mae rhif ffôn cyswllt (01792 636655) ar gael i unrhyw un sy’n cael trafferth deall unrhyw un o ddogfennau’r Gronfa.
Paratowyd y ddogfen bolisi, yn ôl yr angen, gan Reoliad 106B o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 ac mae’n nodi’r mecanweithiau a ddefnyddir i ddiwallu’r anghenion cyfathrebu hynny ac mae’n destun adolygiad cyfnodol.
AELODAU’R CYNLLUN
Mae aelodau’r cynllun yn cynnwys cyfranwyr presennol, y rheini a chanddynt fudd gohiriedig a’r rheini sy’n derbyn pensiwn.
Nod y Gronfa yw cyfathrebu ag aelodau’n electronig lle darparwyd cyfeiriad e-bost neu drwy borth Fy Mhensiwn Ar-lein. Gall aelodau sy’n dymuno optio allan o gyfathrebiadau electronig wneud hynny’n ysgrifenedig ar unrhyw adeg a byddant yn derbyn gohebiaeth copi caled drwy’r post.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae copi o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gronfa ar gael i holl aelodau’r cynllun ar gais a gellir eu cyrchu ar ein gwefan.
Cylchlythyr
Er mwyn bodloni gofynion datgelu, bydd y Gronfa’n cyhoeddi cylchlythyr i aelodau Cynllun gweithredol a gohiriedig y gronfa ar sail ad hoc, a fydd yn ymdrin â phynciau pensiwn cyfredol o fewn y CPLlL a’r diwydiant pensiynau yn gyffredinol.
Anfonir cylchlythyr blynyddol at bob pensiynwr sy’n cynnwys gwybodaeth am y cynnydd mewn pensiynau blynyddol, dyddiadau talu’r pensiwn misol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a materion eraill o ddiddordeb.
Datganiadau Buddion Blynyddol
Bydd Datganiad Buddion Blynyddol, sy’n dangos gwerth cyfredol ac arfaethedig gyflog terfynol aelodau a buddion Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio (CARE) ar gael ar-lein drwy’r cyfleuster hunanwasanaeth aelodau. Os yw aelod wedi dewis ‘optio allan’ rhag derbyn hysbysiadau drwy e-gyfathrebiadau, anfonir copi caled o’r Datganiad Buddion Blynyddol yn uniongyrchol (bydd hyn i’r cyfeiriad a gedwir ar gyfer yr aelod ar yr adeg argraffu) at yr holl aelodau a oedd yn cyfrannu at y Gronfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol.
Ar gyfer aelodau a chanddynt fudd gohiriedig gyda’r Gronfa, bydd y datganiadau buddion blynyddol sy’n darparu’r gwerth buddion wedi’i uwchraddio ar gael i’w gweld ar-lein yn Fy Mhensiwn Ar-lein. Os yw’r aelod wedi dewis ‘optio allan’ rhag derbyn hysbysiadau drwy e-gyfathrebiadau, anfonir copi caled o’r datganiad buddion blynyddol yn uniongyrchol i’r cyfeiriad cartref os yw’r cyfeiriad cyfredol yn hysbys.
Datganiadau Cynilion Pensiwn
Maent yn darparu crynodeb o’u cynilion pensiwn i aelodau a rhaid eu darparu erbyn 6 Hydref bob blwyddyn i’r aelodau hynny sydd wedi torri’r terfyn lwfans blynyddol neu sy’n agos at ei dorri.
Llenyddiaeth y Cynllun
Cynhyrchir ystod eang o lenyddiaeth y Cynllun gan y Gronfa, gan gynnwys canllaw gweithiwr i’r CPLlL, sy’n cael ei gyfeirio i’r holl aelodau gweithredol wrth iddynt ymuno â’r cynllun ac i aelodau gweithredol eraill ar gais. Caiff y canllawiau eu diweddaru’n flynyddol i adlewyrchu unrhyw newidiadau i Reoliadau’r Cynllun ac maent ar gael ar ein gwefan.
Mae llenyddiaeth bellach ynghylch darpariaethau penodol o fewn y CPLlL ar gael ar-lein yn www.swanseapensionfund.org.uk/cy/, ar gais neu fel y bo’n briodol wrth gyfathrebu ag aelodau. Mae rhestr o ddeunydd cyfathrebu cyfredol yn Atodiad 1.
Gohebiaeth
Mae’r Gronfa’n defnyddio post drwy bost tir a môr, e-bost a Fy Mhensiwn Ar-lein i dderbyn ac anfon cyfathrebiadau. Mae gohebiaeth ar gael yn yr iaith sydd orau gan unigolyn.
Cyngor ynghylch Taliadau/P60
Bydd pensiynwyr ond yn derbyn slip cyngor ynghylch taliadau gan yr Is-adran Gyflogres Pensiynau os oes newid cyflog net o £10.00 o’r mis blaenorol. Mae hysbysiadau P60, sy’n darparu dadansoddiad o’r symiau blynyddol a dalwyd, ar gael yn flynyddol erbyn 31 Mai.
Cymhorthfeydd/Cyflwyniadau ar gyfer Gweithwyr
Ar gais, mae cymorthfeydd ar gael ar gyfer aelodau neu grwpiau unigol y Cynllun ynghyd â chyflwyniadau safonol neu wedi’u teilwra i’w cynnal mewn lleoliadau cyflogwyr. Bydd sioeau teithiol i aelodau sy’n cadarnhau newidiadau rheoleiddiol yn cael eu trefnu gan y Gronfa mewn cydweithrediad â chyflogwr yr aelod. Cynhelir sesiynau hyfforddi ar ddefnydd effeithiol o Fy Mhensiwn Ar-lein a deall Datganiadau Buddion Blynyddol o bryd i’w gilydd drwy Microsoft Teams.
Cyrsiau Cyn Ymddeol
Mae cyflogwr yr aelod yn trefnu cyrsiau cyn-ymddeol, fodd bynnag mae Swyddog Cyfathrebu’r Gronfa Bensiwn ar gael ar gais i fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau y gall fod aelodau sy’n agosáu at ymddeoliad eisiau eu gofyn ynghylch y gweithdrefnau a’r hawliadau.
Dilysu Bodolaeth – Ymarfer Tystysgrif Bywyd
Ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau, mae’r Gronfa’n cymryd rhan mewn ymarfer Menter Twyll Genedlaethol parhaus yn seiliedig ar asesiad risg i sefydlu bodolaeth barhaus pensiynwyr sy’n derbyn taliadau pensiwn misol.
Ar ôl dychwelyd taliad pensiwn BACS neu hysbysiad o farwolaeth pensiynwr sy’n aelod gan drydydd parti, anfonir tystysgrif bywyd i gyfeiriad hysbys diwethaf yr aelod.
Pensiynwyr Tramor
Mae’r Gronfa’n ymgysylltu â thrydydd parti sy’n arbenigo mewn goruchwylio trosglwyddiadau arian tramor i ymgymryd ag ymarfer cymhwysedd parhaus blynyddol i sicrhau bod taliadau pensiwn parhaus yn gymwys i bensiynwyr sy’n byw tramor.
Gwefan
Mae gwybodaeth helaeth am y CPLlL, ynghyd â llenyddiaeth, polisïau a ffurflenni’r Cynllun ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho o wefan Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (www.swanseapensionfund.org.uk/cy/) ar gyfer yr holl randdeiliaid. Mae’r wefan yn brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y cynllun pensiwn, gan gynnwys llenyddiaeth a pholisïau’r cynllun i sicrhau bod yr wybodaeth yn amserol, yn gyfoes ac yn hawdd ei chyrchu.
Mae’r ddolen Fy Mhensiwn Ar-lein ar gael ar y wefan ac anogir aelodau i gofrestru. Mae Datganiadau Buddion a gohebiaeth arall ar gael drwy’r porth ar-lein diogel hwn.
Cyfathrebu Cyffredinol
Mae rhif ffôn cyhoeddedig ynghyd â chyfeiriadau e-bost cyffredinol a chyfeiriad post llawn yn cael eu cynnwys ym mhob gohebiaeth a roddir.
Mae gwefan genedlaethol i aelodau sy’n cynnig gwybodaeth ychwanegol ar gael yn https://lgpsmember.org/
DARPAR AELODAU’R CYNLLUN
Taflen y Cynllun
Yn unol â’r Rheoliadau Datgelu, mae darpar aelodau’r Cynllun yn cael eu cyfeirio at Ganllaw Cryno i’r Cynllun. Mae’r wybodaeth a gynhwysir yn rhoi trosolwg o fuddion y CPLlL o ddiwrnod cyntaf yr aelodaeth.
Taflen Hyrwyddo
Mae gan y Gronfa daflen hyrwyddo ‘Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Cynilo ar gyfer Ymddeoliad’. Mae’r daflen wedi’i chynnwys mewn pecynnau i’r rheini sy’n ymuno â’r cynllun a gyhoeddir gan y cyflogwr pan fydd y gweithiwr yn dechrau yn y swydd. Mae’r daflen yn darparu gwybodaeth i bobl nad ydynt yn aelodau am fanteision bod yn aelod o’r cynllun.
Cyrsiau Sefydlu Corfforaethol
Mae Cyrsiau Sefydlu Corfforaethol ar gael i weithwyr gan eu cyflogwr; gellir cyflwyno unrhyw ymholiadau gan aelodau am y CPLlL naill ai drwy anfon e-bost at pensiynau@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 636655. Bydd ateb yn dilyn maes o law.
Undebau Llafur
Bydd y Gronfa’n gweithio gyda’r Undebau Llafur perthnasol i sicrhau bod pob parti sydd â diddordeb yn deall y Cynllun. Darperir diwrnodau hyfforddi ar gyfer swyddogion cangen ar gais, a gwneir ymdrechion i sicrhau bod yr holl faterion sy’n ymwneud â phensiynau’n cael eu cyfleu’n effeithiol gyda’r Undebau Llafur.
Gwefan
Bydd gwefan y Gronfa’n cynnwys adran benodol ar gyfer darpar aelodau neu’r rheini sydd wedi optio allan, gan dynnu sylw at fanteision cynllunio ar gyfer ymddeoliad a’r hyn y mae’r Cynllun yn ei ddarparu i ganiatáu i’r aelod wneud dewis gwybodus.
CYFLOGWYR Y CYNLLUN
Mae’r Gronfa’n cyfathrebu â chyflogwyr sy’n rhan ohoni mewn sawl ffordd i’w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr y Cynllun.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae cyfrifon archwiliedig Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n cael eu paratoi ar 31 Mawrth bob blwyddyn ac mae copi’n cael ei ddosbarthu i bob cyflogwr sy’n rhan ohoni.
Cyfarfodydd Cyflogwyr
Bydd y Gronfa’n cynnal cyfarfod ymgynghorol blynyddol i drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Gronfa. Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ddefnyddio i fynegi materion strategol mawr a newidiadau sylweddol i ddeddfwriaeth yn ogystal â materion prisio teirblwyddol.
Mae cyfarfodydd Prisio Actiwaraidd yn dilyn ymgymryd â’r prisiad teirblwyddol a chyhoeddi’r adroddiad er mwyn deall eu sefyllfa ariannu unigol.
Cynhelir cyfarfodydd cyfnodol i drafod materion penodol wrth iddynt godi.
Cynhelir cyfarfod gweinyddol blynyddol i gyflogwyr hefyd, fel arfer ym mis Chwefror.
Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
Cyhoeddwyd Strategaeth Gweinyddu Pensiynau, yn unol â Rheoliadau’r Cynllun, i ddiffinio cyfrifoldebau’r Gronfa a holl gyflogwyr y Cynllun wrth weinyddu’r Cynllun.
Mae’r Strategaeth yn nodi lefel y perfformiad a ddisgwylir gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a’r holl gyflogwyr, yn ogystal â chanlyniad peidio â bodloni terfynau amser statudol.
Canllaw Cyflogwyr
Mae Canllaw Cyflogwyr wedi’i gyhoeddi i gynorthwyo’r cyflogwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau gweinyddu pensiwn. Cefnogir hyn gan y Swyddog Hyfforddi a Chyfathrebu dynodedig, a fydd yn darparu cymorth ynghylch materion gweinyddol pryd bynnag y bo angen.
Diweddariadau
Rhoddir diweddariadau rheoleiddiol a gweinyddol rheolaidd i bob cyflogwr drwy e-bost a chânt eu dilyn gan gyfarfodydd Teams lle bo angen.
Hyfforddiant
Gellir darparu sesiynau pwrpasol ar gais gan y Swyddog Hyfforddiant a Chyfathrebu pwrpasol i ddatrys unrhyw faterion gweinyddol a nodwyd gan y cyflogwr. Bydd y gronfa’n darparu hyfforddiant gloywi ar bynciau yn ôl yr angen.
Gwefan
Mae gan wefan y Gronfa ardal gyflogwyr bwrpasol i ddarparu’r arweiniad sydd ei angen ar gyflogwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau gweinyddol yn effeithiol ac mae’n cynnwys diweddariadau yn ogystal â ffurflenni a nodiadau arweiniol y gellir eu lawrlwytho.
CYRFF ERAILL
Grŵp Swyddogion Pensiynau Cymru Gyfan
Mae swyddogion pensiynau o holl awdurdodau gweinyddu Cymru’n cyfarfod yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a sicrhau dehongliad unffurf o’r CPLlL a rheoliadau cyffredinol eraill.
Grŵp Partneriaeth Pensiwn Cymru
Mae’r Gronfa’n gweithio’n barhaus i gydweithio â Chronfeydd Pensiwn eraill Cymru i werthuso trefniadau partneriaeth penodol, yn enwedig o fewn Gweithgor Cyfathrebu Cronfeydd Pensiwn Cymru Gyfan.
Undebau Llafur
Mae Undebau Llafur yn Ne-orllewin Cymru’n llysgenhadon gwerthfawr ar gyfer y Cynllun Pensiwn. Maent yn sicrhau bod manylion argaeledd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael eu dwyn i sylw eu haelodau ac yn helpu i negodi dan drosglwyddiadau TUPE i sicrhau, pryd bynnag y bo’n bosib, fynediad parhaus at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Seminarau/Gweminarau
Mae Swyddogion y Gronfa’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn seminarau a chynadleddau a gynhelir gan gyrff sy’n gysylltiedig â’r CPLlL.
Fforwm Gwybodaeth Genedlaethol
Mae’r cyfarfodydd hyn, sy’n cael eu mynychu gan gynrychiolwyr o’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol, yn gyfle i drafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin a rhannu arfer gorau.
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
Hysbysir Pwyllgor y Gronfa Bensiwn am unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, arferion o fewn yr Adran a materion buddsoddi pan fyddant yn digwydd. Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter.
STAFF Y GRONFA
Mae cyfrifoldeb ar yr holl staff i sicrhau cyfathrebu effeithiol ar bob lefel ar draws y gwasanaeth.
Sefydlu
Mae pob aelod newydd o staff yn cymryd rhan mewn rhaglen sefydlu. Mae rhaglen arfarnu gyfnodol hefyd yn cael ei harfer i adolygu a monitro perfformiad a datblygiad gweithwyr.
Hyfforddiant a Chefnogaeth
Mae’r Gronfa’n ceisio gwella gallu staff i gyfathrebu’n effeithiol a deall pwysigrwydd cyfathrebu o ansawdd uchel yn barhaus.
Darperir hyfforddiant cyffredinol a hyfforddiant pensiynau penodol yn fewnol, gan y Swyddog Hyfforddi a Chyfathrebu dynodedig a chan arbenigwyr, lle bo hynny’n berthnasol, fel rhan o ymrwymiad y Gronfa i welliant parhaus yn ogystal ag annog staff i ennill y cymhwyster proffesiynol gweinyddu a rheoli pensiynau.
Cyfarfodydd y Gronfa
Cynhelir cyfarfodydd Adran a Thîm yn rheolaidd. Caiff eitemau sy’n codi o gyfarfodydd o’r fath eu huwchgyfeirio i Uwch-reolwyr a Phrif Swyddogion. Oherwydd y newid i weithio gartref, bydd cyfarfodydd staff yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Y Rhyngrwyd
Gall staff ddefnyddio’r rhwydwaith corfforaethol i gael mynediad at y rhyngrwyd ac e-byst ac i gyfathrebu â’i gilydd ac adrannau eraill drwy Microsoft Teams.
E-byst
Gellir cysylltu â staff drwy eu cyfeiriad e-bost Cyngor Abertawe personol neu drwy flwch post canolog y Gronfa pensiynau@abertawe.gov.uk
Y Pwyllgor Pensiwn Llywodraeth Leol
Gwefan Genedlaethol: www.lgps.org.uk
Er bod y wefan wedi’i chynllunio’n bennaf fel modd o gyfathrebu’n allanol, mae mynediad yn ddefnyddiol i staff.
Seminarau/Gweminarau
Mae Swyddogion y Gronfa’n mynychu seminarau a chynadleddau a gynhelir gan gyrff cysylltiedig yn rheolaidd i gael gwybodaeth reoleiddiol ac i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu’n ddiweddarach â’r holl staff fel bod y gwasanaeth yn cael ei wella.
Diogelu Data
Er mwyn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir ar gyfrifiadur, mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, fel a weinyddir gan Gyngor Abertawe (yr Awdurdod Gweinyddu), wedi glynu wrth yr egwyddorion diogelu data yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
Daeth y Ddeddf Diogelu Data i rym ar 25 Mai 2018 ac fe’i diwygiwyd ar 01 Ionawr 2021 gan reoliadau o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2018. Mae’r Ddeddf wedi’i diweddaru’n adlewyrchu statws y DU y tu allan i’r UE ac yn ategu GDPR y DU ac yn cael ei defnyddio ochr yn ochr ag ef. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch prosesu data personol aelodau, gyda’r nod allweddol o roi mwy o ddiogelwch a hawliau i unigolion. Cyfeiriwch at wefan Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe www.swanseapensionfund.org.uk/cy/ i weld yr Hysbysiad Preifatrwydd Cyllid. Mae’r hysbysiad wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas ag ef a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w ddiogelu.
Mae aelodau staff yn derbyn hyfforddiant ar-lein ynghylch Diogelu Data bob dwy flynedd.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n cydymffurfio â’r Ddeddf uchod a’r polisi dilynol a fabwysiadwyd gan Gyngor Abertawe ac yn darparu mynediad cyhoeddus at wybodaeth a gedwir gan y Gronfa.
Y Fenter Twyll Genedlaethol
Mae gan yr awdurdod hwn ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, ac i’r perwyl hwn gall ddefnyddio gwybodaeth i atal a chanfod twyll. Caiff hefyd rannu’r wybodaeth hon â chyrff eraill sy’n gweinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig.
Cyffredinol
Er bod y Datganiad Polisi hwn yn amlinellu’r dulliau cyfathrebu a fabwysiadwyd gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, mae rolau a chyfrifoldebau, sy’n berthnasol i aelodau’r Cynllun a Chyflogwyr sy’n rhan o’r Cynllun i sicrhau bod gwybodaeth sy’n angenrheidiol i gynnal sylfaen aelodaeth gywir yn cael ei darparu mewn modd amserol.
Adolygu Polisïau
Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiwygio os oes unrhyw newid sylweddol ym Mholisi Cyfathrebu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a bydd yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn.
Cronfa Ddata Yswiriant Gwladol y CPLlL
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n cymryd rhan yng Nghronfa Ddata Yswiriant Gwladol y CPLlL (‘y gronfa ddata’). Datblygwyd y gronfa ddata er mwyn i Awdurdodau Gweinyddu’r CPLlL allu rhannu data i atal taliadau grantiau marwolaeth dyblyg. Mae hyn yn dilyn newidiadau i Reoliadau’r Cynllun yn rhinwedd y bydd gan aelod ymadawedig gyda chyfnodau lluosog o aelodaeth CPLlL un grant marwolaeth sy’n daladwy yn y rhan fwyaf o achosion.
Cyhoeddiadau’r Gronfa – amlder cyhoeddi a chyfnodau adolygu
| Deunydd Cyfathrebu | Pan gaiff ei gyhoeddi | Pan gaiff ei adolygu | 
| Llyfryn y Cynllun | Ar gael bob amser | Bob blwyddyn | 
| Pecyn Dechreuwr Newydd | Ar gael bob amser | Yn ôl yr angen | 
| Taflenni ffeithiau (amrywiol) | Ar gael bob amser | Yn ôl yr angen | 
| Canllaw Ymddeol | Ar gael bob amser | Yn ôl yr angen | 
| Cylchlythyr | Yn ôl yr angen | Yn ôl yr angen | 
| Cylchlythyr Pensiwn | Bob blwyddyn | Bob blwyddyn | 
| Datganiad Buddion Blynyddol | Bob blwyddyn | Bob blwyddyn | 
| Canllaw Cyflogwyr | Ar gael bob amser | Bob blwyddyn | 
| Strategaeth Gweinyddu Pensiwn | Ar gael bob amser | Bob blwyddyn | 
| Siarter Cwsmeriaid | Ar gael bob amser | Bob blwyddyn | 
| Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon | Bob blwyddyn | Bob blwyddyn | 
| Adroddiad Prisio | Bob tair blynedd | Bob tair blynedd | 
| Datganiad am y Strategaeth Ariannu | Bob tair blynedd | Yn ôl yr angen | 
Risgiau allweddol
Mae’r risgiau allweddol ynghylch cyflwyno’r Strategaeth hon wedi’u hamlinellu isod. Bydd swyddogion y Gronfa’n gweithio gyda’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiynau i fonitro’r risgiau hyn a risgiau allweddol eraill ac yn ystyried sut i ymateb iddynt.
- Ffactorau allanol sylweddol, megis newid cenedlaethol, sy’n effeithio ar lwyth gwaith.
 - Diffyg neu ostyngiad mewn adnoddau medrus oherwydd anhawster cadw a recriwtio aelodau staff.
 - Perfformiad annigonol meddalwedd yn erbyn safonau gwasanaeth
 - Mae cynnydd yn nifer y cyrff cyflogi’n achosi straen ar gyflawni o ddydd i ddydd.
 - Cyfrifo buddion aelodau’n anghywir, gan arwain at gostau anghywir
 - Methiant y cyflogwr i ddarparu gwybodaeth gywir ac amserol gan arwain at gofnodion anghyflawn ac anghywir. Mae hyn yn arwain at ganlyniadau prisio anghywir a thaliad buddion anghywir.
 - Problemau wrth gynhyrchu datganiadau buddion blynyddol, e.e. cyfeiriad anghywir a gwallau argraffu oherwydd cyflenwr allanol
 - Methiant i weinyddu’r cynllun yn unol â rheoliadau. Gall hyn ymwneud ag oedi wrth wella meddalwedd neu ganllawiau rheoleiddio.
 - Methu â chadw cofnodion yn ddigonol gan arwain at ddata anghywir.
 - Methu â darparu gwasanaeth effeithlon i aelodau pensiwn oherwydd diffyg system neu fethiant.
 
Adborth
Mae’r gronfa’n croesawu sylwadau ac adborth gan aelodau’r cynllun, cyflogwyr y cynllun, darpar aelodau, a phartïon eraill â diddordeb.
Mae’r gronfa’n arolygu aelodau a chyflogwyr yn flynyddol ac yn cyhoeddi canlyniadau’r arolwg yn yr Adroddiad Blynyddol. Caiff sylwadau eu hystyried a gwneir newidiadau lle bo hynny’n ymarferol.
Ymgynghoriad
Mae’r gronfa’n ymgynghori â rhanddeiliaid lle mae angen polisïau neu newidiadau i bolisïau.
Adolygwyd – 16/05/2024

