- 1. Datganiad polisi
 - 2. Beth yw gordaliad?
 - 3. Amcanion y polisi
 - 4. Cwmpas y polisi
 - 5. Atebolrwydd a chyfrifoldebau
 - 6. Cyfradd ac amserlenni ar gyfer adennill gordaliadau
 - 7. Pa fath o ddidyniadau fydd yn cael eu gwneud?
 - 8. Camau adennill gordaliad
 - 9. Awdurdod i ddileu taliadau
 - 10. Tandaliadau
 - 11. Atal
 - 12. Monitro polisi
 - 13. Adrodd am doriadau i’r Rheoleiddiwr Pensiynau
 
1. Datganiad polisi
1.1 Mae’r polisi hwn yn rhoi arweiniad ar y camau gweithredu y bydd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (CCSPF), a reolir gan Gyngor Abertawe (yr awdurdod gweinyddu), yn eu hystyried fel arfer pan fydd gordaliad neu dandaliad o daliadau pensiwn. Rhaid i’r Gronfa adennill arian sydd wedi’i dalu’n anghywir, waeth beth fo’r rheswm.
Mae CCSPF yn cydnabod Adran 91 o Ddeddf Pensiynau 1995, sy’n gwahardd gordaliadau rhag cael eu hadennill yn awtomatig oddi wrth fuddiolwr os bydd aelod yn marw. Dyled yr aelod yw gordaliad, felly mae’n cael ei drosglwyddo i ystad yr aelod. Gellid adennill y gordaliad o fudd-dal sy’n ddyledus i fuddiolwr os yw buddiolwr yn cytuno ar hyn.
1.2 Gall gordaliadau pensiwn ddigwydd am amrywiaeth o resymau. Mae’n bwysig bod gan y Gronfa bolisi clir sy’n nodi sut y caiff gordaliadau pensiwn eu rheoli unwaith y cânt eu nodi.
1.3 Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn nodi’r angen am fabwysiadu ymagwedd ragweithiol at nodi gweithgarwch twyllodrus a gordaliadau posib.
1.4 Mae’n rhaid i awdurdodau gweinyddol gywiro unrhyw gamgymeriad sy’n cael ei ddarganfod o fewn amserlen resymol. Os nad ydynt yn gwneud hynny, byddai’r taliadau’n anawdurdodedig o dan Adran 14 o Reoliadau’r Cynllun Pensiwn Cofrestredig (Taliadau Awdurdodedig) 2009. Mae gan Gyllid a Thollau EF arweiniad clir o ran amseru; os yw cynllun yn darganfod bod gordaliad, mae’n dod yn anawdurdodedig ar unwaith ac yn destun tâl treth anawdurdodedig”.
1.5 Mae rheoliad 13 yn nodi bod taliad a wneir mewn camgymeriad yn daliad anawdurdodedig os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Bwriad y taliad oedd cynrychioli’r pensiwn sy’n daladwy i’r person;
 - Roedd yr awdurdod gweinyddu yn credu bod gan y derbynnydd hawl i’r taliad a;
 - Roedd yr awdurdod gweinyddu yn credu bod gan y derbynnydd hawl i swm y pensiwn a dalwyd mewn camgymeriad.
 
2. Beth yw gordaliad?
Isod ceir enghreifftiau o beth yw gordaliad ac esboniad o sut mae’r camgymeriad hwn wedi digwydd. Gwerthfawrogir efallai nad yw aelod yn ymwybodol o ordaliad mewn rhai amgylchiadau:
| Math o ordaliad | Sut mae gordaliad wedi digwydd | 
| Gwall gweinyddol wrth greu cofnod cyflogres | Cyfradd anghywir (gorddatganedig) o bensiwn wedi’i mewnbynnu i gofnod y gyflogres, ond bod yr aelod wedi cael gwybod yn ysgrifenedig o’r gyfradd gywir o bensiwn i’w thalu. | 
| Gwall gweinyddol wrth greu cofnod cyflogres Hawl i bensiwn yn dod i ben  | Peidio â hysbysu nad yw pensiwn plentyn bellach yn daladwy gan fod y plentyn wedi cyrraedd 18 oed neu’n hŷn, ac nad yw mewn addysg amser llawn neu hyfforddiant galwedigaethol mwyach. | 
| Hawl i gyfradd pensiwn gyfredol yn dod i ben | Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi yn cael ei dderbyn ar ôl y dyddiad gweithredu, sy’n golygu bod y pensiwn wedi’i ordalu ers y dyddiad gweithredu hwnnw. | 
| Methiant i newid cofnod y gyflogres/gostyngiad mewn pensiwn | Methiant i newid o’r pensiwn dibynyddion tymor byr uwch i’r gyfradd hirdymor is | 
| Methiant i newid cofnod y gyflogres/gostyngiad mewn pensiwn | Methiant i weithredu gostyngiad i bensiwn oherwydd Addasiad Yswiriant Gwladol (ar Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer yr aelodau hynny a adawodd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Ebrill 1998, ac yr oeddent yn aelodau cyn 1 Ebrill 1980) | 
| Gwall gweinyddol wrth gyfrifo a hysbysu am hawl i fudd-daliadau) (yn cynnwys pensiynau dibynyddion) | Cyfradd anghywir (gorddatganedig) o bensiwn wedi’i mewnbynnu ar gofnod y gyflogres, a bod yr aelod wedi cael gwybod yn ysgrifenedig am y gyfradd pensiwn anghywir sydd i’w thalu. | 
| Lefel anghywir o Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP) yn cael ei thalu  | Mae gwybodaeth newydd gan CThEF yn arwain at gyfradd ddiwygiedig o Isafswm Pensiwn Gwarantedig, ac oherwydd y ffordd wahanol y mae’r cynnydd mewn costau byw yn cael eu cymhwyso i’r ffigur Isafswm Pensiwn Gwarantedig, a thâl dros ben yr Isafswm Pensiwn Gwarantedig, mae’n golygu y dylid bod wedi talu lefel is o gynnydd mewn pensiynau yn gyffredinol. | 
| Cynnydd mewn pensiwn | Cynnydd mewn pensiynau’n cael eu cymhwyso’n anghywir i elfennau pensiwn mewn taliad | 
3. Amcanion y polisi
3.1 Nod yr amcanion polisi yw sicrhau bod y Gronfa’n cyflawni’r canlynol:
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith sydd wedi’u cefnogi gan gyngor, polisïau a strategaethau priodol er mwyn hwyluso gwneud penderfyniadau gwybodus wrth sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau statudol priodol.
 
- Sicrhau bod y Gronfa’n cael ei rheoli mewn modd teg a diduedd, gan roi sylw i’r hyn sydd er lles pennaf rhanddeiliaid y Gronfa, yn enwedig aelodau’r cynllun a chyflogwyr.
 
- Sicrhau bod yr incwm cywir yn cael ei gasglu a bod y buddion cywir yn cael eu talu i’r bobl gywir ar yr adeg gywir;
 
- bydd CCSPF yn ceisio adennill gordaliadau o fuddion pensiwn, ond cydnabyddir efallai na fydd hyn yn bosib mewn rhai achosion oherwydd rhesymau cyfreithiol neu amgylchiadau eraill;
 
- Nodi gwallau cyn gynted â phosib;
 
- Cywiro unrhyw achosion o ordalu buddion pensiwn gyda chydweithrediad yr aelod/unigolyn;
 
- Hyrwyddo pwysigrwydd gwirio slipiau tâl/taliadau am anghysondebau; ac
 
- Osgoi’r Weithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol lle bo hynny’n bosib drwy reoli’r broses yn effeithiol.
 
3.2. Os yw adrannau heblaw’r Gyflogres Pensiynau yn dod o hyd i wallau, mae’n hanfodol eu bod yn cysylltu â’r tîm Cyflogres Pensiynau ar unwaith.
3.3 Os ystyrir bod gordaliad yn dwyllodrus, yna ymchwilir iddo yn unol â’r gweithdrefnau gwrth-dwyll a llygredigaeth.
4. Cwmpas y polisi
4.1 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i’r canlynol:
- Holl aelodau a chyn-aelodau, gan gynnwys goroeswyr ac aelodau credyd pensiwn Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe sydd wedi derbyn un taliad neu fwy o’r Gronfa honno.
 
- Ysgutorion/cyfreithwyr penodedig ystad yr aelod ymadawedig;
 
- Buddiolwyr aelodau o Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe lle mae’r buddiolwyr hynny wedi derbyn un taliad neu fwy o’r Gronfa honno; a
 
- Gweinyddwyr y cynllun.
 
5. Atebolrwydd a chyfrifoldebau
5.1 Cyfrifoldeb yr aelodau yw gwirio eu slip tâl wrth ei dderbyn i sicrhau cywirdeb lle bo modd.Bydd y Gronfa’n ceisio sicrhau bod y data mor gywir â phosib er mwyn cynorthwyo pensiynwyr.
5.2 Disgwylir i aelodau ymddwyn yn onest ac yn ddidwyll, yn benodol o ran gordaliadau pensiwn neu gyfandaliadau, er mwyn atal achosion o ordalu.
5.3 Disgwylir y bydd yr aelod yn rhoi gwybod i’r Gyflogres Pensiynau yn brydlon am unrhyw daliad annisgwyl a dderbynnir, neu unrhyw daliad a dderbynnir nad oes gan yr unigolyn hawl iddo.
5.4 Bydd y Gyflogres Pensiynau yn ceisio adennill unrhyw ordaliadau’n brydlon ac yn llawn unwaith y cânt eu nodi, yn unol â chynllun ad-dalu.
5.5 Rhaid i’r Is-adran Bensiynau gyflawni ei chyfrifoldebau o ran cwblhau a chyflwyno ffurflenni pensiwn a ffurflenni terfynu pensiwn cyn gynted â phosib neu unrhyw ffurflenni eraill a allai arwain at wall o ran taliadau.
5.6 Os bydd y Gronfa’n cytuno i ddileu gordaliad, mae’n rhaid gwneud hyn yn unol â Rheoliadau Ariannol a chynllun dirprwyo’r Cyngor yn unig.
6. Cyfradd ac amserlenni ar gyfer adennill gordaliadau
6.1 Mae hawl gan y Gronfa i adennill unrhyw ordaliad pensiwn neu unrhyw daliad arall drwy ddidynnu arian o bensiwn sy’n cael ei dalu ar gyfradd resymol.
6.2 Gellir adennill unrhyw ordaliad pensiwn dros gyfnod rhesymol y cytunwyd arno gan y Gronfa a chi, ac fel arfer byddai’n cael ei adennill o fewn dim llai na’r cyfnod y cafodd y pensiwn ei ordalu ynddo. Yn amodol ar yr egwyddor gyffredinol hon, bydd unrhyw ordaliad fel arfer yn cael ei adennill dros nifer y misoedd y mae’r gordaliad yn berthnasol iddynt.
6.3 Ni ddylid gwneud unrhyw ddidyniadau a fyddai’n lleihau cyflog y pensiynwr i lai na 75% o’r hyn y byddai’r tâl wedi bod fel arall.
6.4 Os oes unrhyw un yn wynebu caledi, rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol a chyfrifoldeb y pensiynwr ac aelod o’r tîm Cyflogres Pensiynau fydd dod i gytundeb cyfaddawdol.
6.5 Gallwch gysylltu â’r tîm Cyflogres Pensiynau drwy ffonio’r Ddesg Gymorth i Weithwyr ar 01792 636098.
7. Pa fath o ddidyniadau fydd yn cael eu gwneud?
7.1 Gordaliadau pensiwn oherwydd marwolaeth aelod o’r cynllun
- Nid yw’r Gronfa’n cael ei hysbysu o farwolaeth aelod-bensiynwr ar unwaith, felly gan nad yw bob amser yn bosib atal talu’r pensiwn ar ôl pwynt yn ystod mis y gyflogres, gall gordaliad ddigwydd;
 
- Os oes gordaliad pensiwn o ganlyniad i farwolaeth aelod o’r cynllun, bydd y Gronfa yn gyffredinol yn ceisio adennill gordaliadau sy’n hafal i £100.00 (net) neu’n fwy na hynny, oni bai fod rhesymau cyfreithiol a/neu amgylchiadau eraill sy’n golygu na all y gordaliad gael ei adennill yn ymarferol (yn gyfan gwbl neu’n rhannol). Yn yr achos hwn, mae’r Gronfa’n ystyried nad yw’n economaidd adennill gordaliad sy’n werth llai na £100.00 (net). Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd y Gronfa’n dileu’r swm ac yn ei drin fel rhwymedigaeth yn erbyn cyn-gyflogwr aelod o’r cynllun;
 
- Ymdrinnir â phob gohebiaeth ynghylch gordaliad mewn modd sensitif yn ystod y camau cyntaf oherwydd yr amgylchiadau sy’n ymwneud â sut y digwyddodd y gordaliad;
 
- Bydd y Gronfa’n paratoi anfoneb i adennill unrhyw ordaliad pensiwn sy’n hafal i £100.00 (net) neu’n fwy na hynny yn dilyn marwolaeth aelod o’r cynllun. Gwneir yr hawliad yn erbyn ystad yr aelod-bensiynwr oni bai fod pensiwn goroeswr i wrthbwyso’r gordaliad yn ei erbyn;
 
- Yn gyffredinol, bydd y Gronfa’n ceisio adennill gordaliadau sydd wedi’u nodi o fewn chwe blynedd i ddyddiad y farwolaeth.
 
7.2 Gordaliadau o bensiynau plant nad ydynt yn dod i ben ar yr adeg briodol
- Mae gan blentyn cymwys, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013, yr hawl i gael pensiwn hyd nes y bydd ei amgylchiadau yn newid ac nid yw bellach yn gymwys i dderbyn pensiwn o’r Gronfa;
 
- Yn yr achosion hyn, yr unigolyn sy’n derbyn y pensiwn sy’n gyfrifol am hysbysu’r Gronfa o newid mewn amgylchiadau i sicrhau bod y pensiwn yn dod i ben ar yr adeg briodol. Os nad yw’n gwneud hyn, bydd yn arwain at ordaliad.
 
- Os yw pensiwn yn cael ei ordalu oherwydd hysbysiad hwyr o newid mewn amgylchiadau, bydd y Gronfa’n ceisio adennill gordaliadau yn gyffredinol, oni bai fod rhesymau cyfreithiol a/neu amgylchiadau eraill sy’n golygu na all y gordaliad gael ei adennill yn ymarferol (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);
 
- Yn gyffredinol, bydd y Gronfa’n ceisio adennill gordaliadau a nodwyd. Bydd y Gronfa’n rhoi anfoneb i dderbynnydd y taliad pensiwn neu’r unigolyn yr oedd pensiwn y plentyn yn cael ei dalu i’w gyfrif banc.
 
7.3 Gordaliadau pensiwn yn dilyn gwybodaeth anghywir a ddarparwyd gan y cyflogwr neu wallau gweinyddol eraill
- Os yw pensiwn yn cael ei ordalu o ganlyniad i gyflogwr aelod yn darparu’r wybodaeth anghywir wrth iddo ymddeol, bydd y Gronfa’n ceisio adennill gordaliadau yn gyffredinol, oni bai fod rhesymau cyfreithiol a/neu amgylchiadau eraill sy’n golygu na all y gordaliad gael ei adennill yn ymarferol (yn gyfan gwbl neu’n rhannol);
 
- Bydd gordaliadau’n cael eu hadennill drwy bensiwn parhaus yr aelod o’r cynllun, gan fod hyn yn caniatáu’r addasiad priodol ar gyfer treth. Caiff y pensiwn ei leihau i’r lefel gywir ar gyfer y taliad pensiwn misol nesaf ar ôl cyfnod rhybudd o 6 wythnos. Bydd aelod o’r cynllun yn cael ei hysbysu’n ysgrifenedig am y camgymeriad a’r camau sydd i’w cymryd;
 
- Os nad oes pensiwn parhaus y gellir didynnu’r gordaliad ohono, bydd y Gronfa’n trefnu anfoneb i adennill y gordaliad;
 
- Yn gyffredinol, bydd y Gronfa’n ceisio adennill gordaliadau a nodwyd.
 
Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr nac yn gyfyngedig
8. Camau adennill gordaliad
8.1 Os bydd aelod yn destun gordaliad, bydd yr Is-adran Cyflogres Pensiynau yn anfon llythyr at yr aelod yn nodi’r gordaliad a’r cyfnod adennill arfaethedig.
8.2 Os yw gordaliad pensiwn cyn-aelod wedi’i dalu i ddibynnydd, er enghraifft plentyn sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd rheoleiddiol i dderbyn pensiwn o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau, bydd CCSPF yn anfon llythyr at y plentyn sy’n nodi manylion y gordaliad. Bydd y llythyr yn egluro y bydd anfoneb yn cael ei hanfon ymhen pedair wythnos, oni bai fod yr unigolyn yn cysylltu â CCSPF mewn perthynas â’r gordaliad o fewn pythefnos i dderbyn y llythyr.
8.3 Os bydd unrhyw ordaliad pensiwn mewn perthynas ag aelod ymadawedig, bydd CCSPF yn ysgrifennu at yr ysgutorion/cyfreithiwr penodedig neu’r berthynas agosaf i’w hysbysu ynghylch hyn. Bydd y llythyr yn hysbysu’r unigolion y bydd y tîm Cyfrifon Derbyniadwy yn anfon anfoneb maes o law am y swm dan sylw.
9. Awdurdod i ddileu taliadau
Yn unol â’r Rheoliadau LGPS cyfredol, gall swyddogion dirprwyedig arfer disgresiwn os bydd rhesymau cyfreithiol a/neu amgylchiadau eithriadol ac i sicrhau nad oes unrhyw unigolyn yn cael ei drin yn annheg. Os bydd adennill gordaliad yn achosi trallod a/neu os oes rhesymau cyfreithiol pam na ellir adennill y gordaliad (yn gyfan gwbl neu’n rhannol), byddai hyn yn cael ei ystyried, yn ogystal â chost-effeithiolrwydd yr adennill. Bydd pob cais a wneir i ddileu gordaliad yn cael ei ymchwilio fesul achos a bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y swyddog priodol.
Mae gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (CCSPF) ddisgresiwn i ddileu unrhyw swm sy’n llai na £100 yn seiliedig ar ddadansoddi cost-effeithiolrwydd mynd ar drywydd yr hawliad a gynhaliwyd gan y gronfa.
10. Tandaliadau
10.1 Os ydych chi o’r farn nad ydych wedi derbyn digon o bensiwn, cysylltwch â’r tîm Cyflogres Pensiynau’n uniongyrchol.
10.2 Os nad ydych wedi derbyn digon o bensiwn, bydd unrhyw dandaliad o ran pensiwn yn cael ei unioni yn y cyfnod tâl nesaf ar ôl nodi’r tandaliad.
10.3 Os yw’r tandaliad o ran pensiwn o ganlyniad i farwolaeth aelod o’r cynllun, bydd y Gronfa’n ad-dalu tandaliadau sy’n werth mwy na £5.00 (net). Mae’r Gronfa’n ystyried nad yw’n economaidd ad-dalu tandaliad sy’n werth £5.00 neu lai yn achos marwolaeth aelod o’r cynllun.
10.4 Lle mae pensiwn i’w dalu, bydd unrhyw ôl-ddyledion pensiwn mewn perthynas â’r ymadawedig yn cael eu cynnwys yn nhaliad pensiwn y mis cyntaf.
11. Atal
Mae gan y Gronfa brosesau ar waith er mwyn lleihau’r risg o ordaliadau.
11.1 Mae CCSPF yn cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd. Fel rhan o’r fenter, mae data aelodau’r cynllun pensiwn yn cael ei gymharu â chronfa ddata’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer unigolion ymadawedig ac mae’n amlygu cydweddiadau er mwyn ymchwilio iddynt.
11.2 Mae’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith wedi’i fabwysiadu, sy’n golygu bod marwolaethau’n cael eu cadarnhau drwy system ganolog sydd ar gael gan yr awdurdod gweinyddu. Mae hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y cynllun yn derbyn hysbysiad am farwolaeth aelod o’r cynllun ac felly yn lleihau gordaliadau posib.
11.3 Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn cymryd rhan mewn gwiriadau bodolaeth dramor i sicrhau mai dim ond pensiynau cyfreithlon sy’n cael eu talu ac i leihau’r tebygolrwydd o weithgarwch twyllodrus.
11.4 Cynhelir adroddiad rheolaidd/blynyddol ar y system gweinyddu pensiynau i nodi unigolion sy’n derbyn pensiwn plentyn; yna bydd ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i blant y nodir eu bod nhw bron â chyrraedd 18 oed, a’r rhai rhwng 18 a 23 oed sydd mewn addysg amser llawn yn yr ysgol/coleg/brifysgol, i sicrhau eu bod yn gymwys i dderbyn pensiwn o hyd.
11.5 Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn cynnwys nodiadau atgoffa yn ei gohebiaeth sy’n datgan bod yn rhaid i’r Gronfa gael gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau neu farwolaeth aelod o’r cynllun. Mae’r Gronfa hefyd yn ymchwilio i unrhyw daliadau pensiwn a roddir gan fanciau a chymdeithasau adeiladu i sicrhau lles yr aelod o’r cynllun ac i ddiogelu arian y Gronfa. Mae’r Gronfa’n cyhoeddi tystysgrif bywyd i’w chwblhau gan yr aelod a’i llofnodi gan dyst.
11.6 Ynghyd â chronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr, mae CCSPF wedi ymrwymo i gytundeb rhannu data sy’n golygu bod data aelodau’n cael ei lanlwytho i gronfa ddata Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol bob mis. Mae hyn yn caniatáu i gronfeydd rannu data aelodaeth i wahardd talu ad-daliad lle mae aelodaeth gronedig flaenorol ag un o gronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn atal gordaliad o ran grant marwolaeth.
11.7 Mae gan swyddogion y Gronfa system gadarn ar waith ar gyfer nodi newidiadau i’r gyflogres y mae angen eu prosesu ar gyfer mis cyflogres penodol. Mae’r broses yn ymgorffori terfynau amser cyflogres ac yn sicrhau bod newidiadau’n cael eu gwneud yn gywir ac yn brydlon. Byddai hyn ar gyfer amgylchiadau fel newid o bensiwn dibynnydd tymor byr i bensiwn tymor hir.
11.8 Sgrinio marwolaethau drwy systemau Heywood Pension Technologies a LexisNexis yn fisol. Mae data aelodau yn cael ei wirio yn erbyn cofnodion marwolaethau.
11.9 Mae CCSPF yn gweithredu polisi atal yn unol â’i phwerau disgresiwn. Mae’n ofynnol i unrhyw aelod-bensiynwr sy’n cael ei ailgyflogi gan gyflogwr yng Nghymru a Lloegr lle mae ganddo fynediad at aelodaeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gysylltu â’r Gronfa y mae’n derbyn taliad pensiwn ganddi ar unwaith. Bydd unrhyw ordaliad pensiwn o ganlyniad i fethiant yr aelod-bensiynwr i hysbysu’r Gronfa o ailgyflogiad yn arwain at dderbyn llai o bensiwn o bosib, neu gall arwain at atal y pensiwn dros dro.
12. Monitro polisi
12.1 Bydd y Gronfa’n monitro gweithrediad y polisi hwn ac mae ganddi ddisgresiwn i’w adolygu ar unrhyw adeg drwy’r prosesau ymgynghori priodol.
12.2 Y Rheolwr Pensiynau sy’n gyfrifol am weithredu, monitro a datblygu’r polisi hwn. Cyfrifoldeb swyddogion enwebedig yw gweithredu’r polisi o ddydd i ddydd a sicrhau y caiff ei ddilyn.
13. Adrodd am doriadau i’r Rheoleiddiwr Pensiynau
Bydd y gronfa yn ystyried pob achos o ordaliad a thandaliad yn erbyn ei gofynion cyfreithiol i dalu’r pensiwn cywir, ac yn penderfynu sut i gofnodi unrhyw achosion o’r fath ar gofnod toriadau’r gronfa ac, os ystyrir ei fod yn fod yn ddigon perthnasol, cânt eu cyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
| Rhif fersiwn | Manylion y Newid | Dyddiad | 
| 1.0 | Tachwedd 2019 | |
| 2.0 | Para 1.1 – testun ychwanegol mewn perthynas ag adran 91 o Ddeddf Pensiynau 1995 Para 2.1 – cynnwys pwynt bwled sy’n nodi nad yw’n bosib adennill taliad dan rai amgylchiadau Para 6.2 – dileu pwynt bwled ynghylch adennill o fewn chwe blynedd Para 6.3 – dileu cyfyngiad adennill chwe blynedd Para 7.2 – rhoi sylw i’r broses adennill os yw gordaliad dibynnydd wedi’i dalu Para 7.3 ychwanegol Para 8.4 ychwanegol Para 9.5 ychwanegol Para 9.7 ychwanegol  | Hydref 2021 | 
| 3.0 | Para 6.1 – newid trothwy £50 i £100 | Hydref 2024 | 
| 4.0 | Teitl polisi diweddaredig i gynnwys ‘Tandaliad’ Para 1:4 – ychwanegol Para 1:5 – ycgwanegol Para 2 – ycgwanegol (rhifau paragraffau wedi’u diwygio o baragraff 3) Para 9.0 – ycgwanegol Para 11:2 – ycgwanegol Para 11:8 – ycgwanegol Para 13 – ycgwanegol  | Ebrill 2025 | 

