15-19 Medi 2025
Gweminarau ar-lein
Bydd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n darparu gweminarau i aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS).
Cynhelir tair sesiwn wahanol yn ystod yr wythnos.
Trosolwg Cyffredinol o’r LGPS
Ar gyfer aelodau sy’n talu cyfraniadau i’r LGPS ar hyn o bryd a chyflogai sy’n ystyried ymuno. Trosolwg eang o’r cynllun pensiynau yw hwn a fydd yn eich helpu i ddeall y manteision, y costau a’r taliadau ychwanegol a sut i gynllunio’n well ar gyfer eich dyfodol ariannol.
Cynllunio Ymddeoliad LGPS
Gwybodaeth am sut y cyfrifir pensiwn, cyfartaledd gyrfa a buddion cyflog terfynol, opsiynau ar gyfer ymddeol, taliadau ychwanegol a threth.
- Dydd Mawrth 16 Medi 10:00 – 11:00
- Cofrestru
Gwybodaeth am Bensiynau
Sut i gofrestru ar gyfer Fy Mhensiwn Ar-lein a’i ddefnyddio
Sut i ddeall eich datganiad buddion blynyddol
- Dydd Mercher 17 Medi 10:00 – 11:00
- Cofrestru: https://www.abertawe.gov.uk/sesiynaupensiynau