Bwriad y weminar hon yw rhoi trosolwg i aelodau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o’r rhwymedi gwahaniaeth ar sail oed, a adwaenir yn gyffredinol fel rhwymedi McCloud.
Cyflwynir y gweminarau gan Affinity Connect, arbenigwr lles ariannol ac ymddeoliad yn y sector preifat, sy’n rhan o’r grŵp WEALTH at Work.
Ar gyfer
Aelodau gweithredol (sy’n talu i mewn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar hyn o bryd) ac aelodau gohiriedig (nad ydynt yn talu i mewn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mwyach), y mae’r dyfarniad gwahaniaethu ar sail oed yn effeithio arnynt.
Mae’n debygol eich bod yn cael eich amddiffyn gan y rhwymedi os:
- gwnaethoch ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall cyn 1 Ebrill 2012, ac
- roeddech mewn gwasanaeth pensiynadwy rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022 (y cyfnod rhwymedi), ac
- roeddech dan 65 oed ar gyfer rhan o’r cyfnod rhwymedi neu am y cyfnod cyfan, ac
- nid oes bwlch datgymhwyso wedi bod, sef bwlch o dros bum mlynedd a ddaeth i ben ar ôl 31 Mawrth 2012 lle nad oeddech yn talu i mewn i’r
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu unrhyw gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall.
Cadwch eich lle yma: Gweminarau McCloud: Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Dolen allanol yw hon ac nid yw ar gael yn Gymraeg.

