Mae golwg ein porth ar-lein wedi newid. Os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi presennol o hyd. Mae’r porth newydd hwn wedi’i wella i’w ddefnyddio’n hawdd ar ddyfeisiau symudol.
Fel aelod gweithredol, gallwch gyfrifo’ch buddion personol eich hun o’r data a gedwir ar eich cofnod pensiwn, fel y gallwch gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad. Gallwch wneud cynifer o gyfrifiadau ag y mynnwch, ac yn y dyfodol ni fydd rhaid i chi aros am eich datganiad blynyddol cyn gweld yr hyn y gallwch chi ddisgwyl ei gael pan fyddwch yn ymddeol. Gallwch weld a diweddaru’ch manylion personol, ac mae hynny’n cynnwys newid dymuniad eich grant marwolaeth.
Wrth fewngofnodi i Fy Mhensiwn Ar-lein, gallwch:
- fwrw golwg ar / newid eich manylion personol;
 - cyfrifo’ch buddion;
 - bwrw golwg ar eich manylion ariannol;
 - cyrchu’r holl ffurflenni perthnasol;
 - cyrchu Datganiadau Blynyddol o’ch Buddion;
 - cael mynediad at ohebiaeth arferol.
 
I gofrestru, ewch i www.swanseapensionfund.org.uk. Y cam cyntaf yw gofyn am gôd actifadu. Caiff hwn ei e-bostio atoch. Unwaith bydd gennych gôd actifadu, mewngofnodwch a chwblhewch eich cofrestriad.


