Rwy’n poeni am fy sefyllfa ariannol oherwydd y COVID-19 – beth alla i ei wneud?
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i ddelio â’r effeithiau ariannol y gallech fod yn eu dioddef oherwydd y pandemig Coronafeirws. Mae’n trafod pob agwedd ar eich sefyllfa ariannol, gan gynnwys problemau gyda thalu morgais a thaliadau rhent, dyled a hawlio budd-daliadau.
A allaf atal fy nghyfraniadau pensiwn?
Gallwch, ond efallai yr hoffech ystyried ymuno ag adran 50/50 y CPLlL yn lle peidio â chyfrannu. Drwy wneud hynny, byddwch chi’n talu hanner eich cyfradd cyfrannu arferol ac yn cronni hanner eich pensiwn arferol. Byddwch yn cadw yswiriant bywyd ac afiechyd llawn a gallwch symud yn ôl i’r brif adran pryd bynnag y byddwch yn barod.
Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell gyfraniadau i wirio pa wahaniaeth y byddai hyn yn ei wneud i’ch tâl.
Ar ôl ystyried opsiwn adran 50/50 y CPLlL, os hoffech barhau i atal eich cyfraniadau pensiwn gallwch gael ffurflen atal cyfraniadau drwy gysylltu â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Dylech gymryd cyngor ariannol annibynnol cyn penderfynu atal eich cyfraniadau.
Mae’r pandemig coronafirws yn effeithio ar farchnadoedd stoc, a fydd hyn yn effeithio ar werth fy mhensiwn CPLlL?
Na fydd, mae’r CPLlL yn gynllun pensiwn budd diffiniedig sy’n golygu bod eich pensiwn yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi wedi bod yn cyfrannu. Nid yw’ch pensiwn yn gysylltiedig â pherfformiad y farchnad stoc, felly nid effeithir ar eich cyfraniadau na’ch pensiwn, os mewn taliad neu beidio.
Yr unig eithriad i hyn yw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY). Os oes gennych CGY, mae’n bosib y gallai’r gwerth fod wedi gostwng – bydd hyn yn dibynnu ar y cronfeydd rydych wedi dewis buddsoddi ynddynt. Dylech gysylltu â’ch darparwr CGY i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Rwy’n derbyn pensiwn gan y CPLlL – a fydd fy mhensiwn yn dal i gael ei dalu i mi?
Bydd, mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe’n blaenoriaethu talu pensiynau yn ystod yr amseroedd ansicr hyn.
Os gostyngir fy nghyflog, pa effaith gaiff hyn ar fy mhensiwn?
Bydd hyn yn dibynnu ar y rheswm dros y gostyngiad:
–  Absenoldeb salwch
Os yw’ch cyflog yn cael ei ostwng neu os nad ydych chi’n derbyn unrhyw dâl oherwydd eich bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu anaf, bydd eich pensiwn yn cronni fel petaech yn y gwaith yn derbyn tâl arferol.
Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau ar unrhyw dâl y byddwch yn ei dderbyn yn ystod eich absenoldeb salwch.
–  Absenoldeb di-dâl awdurdodedig
Os yw’ch cyflogwr yn caniatáu i chi gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl neu’n gofyn i chi wneud hynny, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn am y cyfnod oni bai eich bod yn dewis talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu swm y pensiwn a gollwyd.
Os ydych yn penderfynu talu CPY i brynu swm y pensiwn a gollwyd, a’ch bod yn penderfynu ar hyn yn swyddogol o fewn 30 diwrnod ar ôl dychwelyd i’r gwaith, bydd y gost yn cael ei rhannu rhyngoch chi a’ch cyflogwr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, defnyddio cyfrifiannell ar-lein a lawrlwytho ffurflen gais o wefan aelod CPLlL.
– Absenoldeb cynllun cadw swyddi Coronafeirws
Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n disgwyl i sefydliadau’r sector cyhoeddus, megis cynghorau, ddefnyddio’r cynllun cadw swyddi coronafeirws, ac eithrio mewn rhai achosion cyfyngedig iawn. Dylai cyflogwyr y sector cyhoeddus barhau i dalu staff yn y ffordd arferol hyd yn oed os nad ydyn nhw yn y gwaith.
Os yw’ch cyflogwr yn gallu defnyddio’r cynllun cadw swyddi a’ch bod chi’ch dau’n cytuno, efallai bydd eich cyflogwr yn gallu’ch cadw ar y gyflogres os nad yw’n gallu gweithredu neu os nad oes ganddo waith i chi ei wneud oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gelwir hyn yn gyfnod ‘ar seibiant’.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallai eich cyflogwr dalu 80% o’ch cyflog hyd at derfyn misol o £ 2,500. Bydd y Llywodraeth yn ariannu’ch cyflogwr i wneud hyn. Gall cyflogwyr ddewis ychwanegu at eich cyflog hyd at 100%, ond os ydych chi’n derbyn llai o dâl yn ystod eich cyfnod ‘ar seibiant’, bydd swm y pensiwn rydych chi’n ei gronni yn ystod y cyfnod hwn hefyd yn cael ei leihau. Byddwch yn parhau i dalu cyfraniadau pensiwn ar y tâl rydych yn ei dderbyn.
Gallwch dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) i brynu pensiwn ychwanegol i wneud iawn am y pensiwn a gollwyd yn ystod y cyfnod hwn. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr dalu tuag at y gost, ond gall ddewis gwneud hynny.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu CPY, defnyddio cyfrifiannell ar-lein a lawrlwytho ffurflen gais ar wefan aelodau CPLlL.
Mae gwefan GOV.UK yn darparu rhagor o wybodaeth am y cynllun cadw swyddi ar gyfer gweithwyr.
– Absenoldeb Gwirfoddoli Brys (AGB)
Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cynllun gwirfoddoli newydd i ganiatáu i’r cyhoedd gyfrannu at ymateb coronafeirws. Mae’r cynllun yn caniatáu i weithwyr gymryd absenoldeb gwirfoddoli brys statudol di-dâl i wirfoddoli mewn awdurdodau iechyd a gofal cymdeithasol.
Os cymerwch gyfnod o AGB, bydd eich buddion pensiwn CPLlL yn cronni yn yr un ffordd a phetaech yn gweithio fel arfer.
Byddwch yn talu cyfraniadau am unrhyw dâl gwirioneddol y mae eich cyflogwr yn ei dalu i chi yn ystod y cyfnod yn unig.
– Rhesymau eraill
I gael gwybodaeth am yr effaith ar eich pensiwn os ydych i ffwrdd o’r gwaith am unrhyw reswm arall, fel absenoldeb sy’n gysylltiedig â phlant neu luoedd adfyddin, gweler gwefan aelodau CPLlL.
Sut y bydd coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar y gwasanaeth y mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn ei ddarparu?
Mae Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi addasu ei phatrymau gwaith i sicrhau y gall barhau i ddarparu gwasanaeth wrth fonitro cyngor diweddaraf y Llywodraeth i amddiffyn ei staff.
Bydd yn blaenoriaethu talu pensiynau a phrosesu budd-daliadau marwolaeth, felly gall gymryd mwy o amser nag arfer i ymdrin â gwaith arall, megis trosglwyddiadau, ceisiadau amcangyfrif ac ymholiadau cyffredinol.
Edrychwch ar wefan Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe i gofrestru i wasanaeth My Pension Online. Efallai y gallwch ddefnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth i ddiweddaru’ch manylion, gwneud cyfrifiadau a gweld eich datganiadau blynyddol blaenorol.
A allai twyllau pensiwn gynyddu yn ystod cyfnod Coronafeirws (COVID-19)?
Gallent, gwyliwch rhag twyllau sy’n gysylltiedig â coronafeirws (COVID-19). Mae’r twyllau hyn yn ymddangos ar sawl ffurf a gallent fod yn ymwneud â pholisïau yswiriant, trosglwyddiadau pensiynau neu gyfleoedd buddsoddi enillion uchel, gan gynnwys buddsoddiadau mewn asedau crypto.
Mae twyllwyr yn soffistigedig ac yn fanteisgar a byddant yn rhoi cynnig ar lawer o bethau. Maent hefyd yn debygol iawn o dargedu’r bregus. Gwyliwch rhag buddsoddiadau sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir.
Er mwyn helpu i amddiffyn eich hun dylech:
- wrthod cynigion annisgwyl
 - bod yn wyliadwrus o hysbysebion ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion y telir amdanynt / noddir ar-lein
 - defnyddio’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol a’r Rhestr Rybuddio i wirio a yw’n ddilys ai peidio
 - peidio â chlicio dolenni nac agor e-byst gan anfonwyr nad ydych chi’n eu hadnabod eisoes
 - osgoi cael eich rhuthro neu fod dan bwysau i wneud penderfyniad
 - os yw cwmni’n eich ffonio chi’n annisgwyl, defnyddiwch y manylion cyswllt ar y Gofrestr i wirio eich bod yn ymdrin â’r cwmni dilys
 - peidio â rhoi manylion personol (manylion banc, cyfeiriad, yswiriant / pensiynau / manylion buddsoddi presennol).
 
Os ydych chi’n amau twyll, ffoniwch Action Fraud ar unwaith ar 0300 123 2040.

