Croeso i rifyn 2024 o gylchlythyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a gynhyrchwyd ar gyfer pob aelod sy’n derbyn pensiwn gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.
Rwy’n gobeithio ei fod yn addysgiadol, ond os oes gennych unrhyw sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â’r Is-adran Pensiynau drwy ddefnyddio’r cyfeiriad neu’r e-bost ar waelod y cylchlythyr hwn.
Cynnydd Pensiwn 2024
Y codiad pensiwn eleni fydd 6.7% a thelir y gyfradd hon o 8 Ebrill 2024. Adolygir eich pensiwn CPLlL bob mis Ebrill ac mae swm y codiad pensiwn yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr fel y’i nodir gan y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu y caiff eich pensiwn ei dalu yn ôl yr hen gyfradd am 7 niwrnod ym mis Ebrill ac am 23 diwrnod yn ôl y gyfradd newydd. Bydd y cyfanswm misol llawn newydd yn dechrau o fis Mai 2024.
Sylwer, os dechreuwyd talu eich pensiwn ar ôl 23 Ebrill 2023 byddwch fel arfer yn derbyn cynnydd rhannol yn unig ym mis Ebrill fel a ganlyn:
Cyfnod y dechreuwyd talu’r pensiwn | Swm y cynnydd % |
---|---|
24/04/2023 – 23/05/2023 | 6.16 |
24/05/2023 – 23/06/2023 | 5.60 |
24/06/2023 – 23/07/2023 | 5.04 |
24/07/2023 – 23/08/2023 | 4.48 |
24/08/2023 – 23/09/2023 | 3.92 |
24/09/2023 – 23/10/2023 | 3.36 |
24/10/2023 – 23/11/2023 | 2.80 |
24/11/2023 – 23/12/2023 | 2.24 |
24/12/2023 – 23/01/2024 | 1.68 |
24/01/2024 – 23/02/2024 | 1.12 |
24/02/2024 – 23/03/2024 | 0.56 |
*Sylwer: os yw’ch pensiwn yn cynnwys Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG) gall eich cynnydd canrannol fod yn wahanol i’r hyn sydd wedi’i restru oherwydd bod rhan o’ch cynnydd yn cael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a rhan o’ch cynnydd yn cael ei dalu gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.
Fy Mhensiwn Ar-lein
Ein porth ar-lein yw Fy Mhensiwn Ar-lein, sy’n caniatáu i chi weld a diwygio’ch manylion sylfaenol fel eich cyfeiriad post, enwebeion ar gyfer eich grant marwolaeth a gweld eich pensiwn blynyddol. Os hoffech gofrestru ar gyfer ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’, ewch i’r wefan: https://pensions.swansea.gov.uk/?locale=cy-GB
Yn anffodus, os ydych yn derbyn pensiwn CPLlL oherwydd ymddeoliad cynnar o’r Cynllun Athrawon, ni allwch ddefnyddio’r porth hwn.
Dyddiadau Taliadau Pensiwn 2024-25
Telir eich pensiwn ar ddiwrnod bancio olaf y mis calendr. Rhestrir y dyddiadau talu ar gyfer y flwyddyn nesaf isod:
- 30 Ebrill 2024
- 31 Mai 2024
- 28 Mehefin 2024
- 31 Gorffennaf 2024
- 30 Awst 2024
- 30 Medi 2024
- 31 Hydref 2024
- 29 Tachwedd 2024
- 31 Ragfyr 2024
- 31 Ionawr 2025
- 28 Chwefror 2025
- 31 Mawrth 2025
Rhymedi McCloud
Yn 2014, newidiodd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o gynllun cyflog terfynol i gynllun cyfartaledd gyrfa. Roedd aelodau hŷn a oedd yn agosach at ymddeoliad wedi’u hamddiffyn rhag y newidiadau hyn. Amddiffynnwyd aelodau os oeddent yn bodloni’r amodau hyn:
- wedi’u geni cyn 1 Ebrill 1957
- wedi ymuno â’r CPLlL (neu gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall) cyn 1 Ebrill 2012
- dan 65 oed ac yn aelod gweithredol rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022
- wedi cymryd eu pensiwn yn syth pan adawon nhw’r CPLlL.
Pan roedd aelod a amddiffynnwyd yn ymddeol, roedd ei gronfa bensiwn yn cymharu’r pensiwn cyfartaledd gyrfa a gronnwyd ganddo cyn 65 oed â’r pensiwn y byddai wedi’i gronni yn y cynllun cyflog terfynol. Os oedd y pensiwn cyflog terfynol yn uwch, ychwanegwyd y gwahaniaeth at ei bensiwn. Gelwir yr amddiffyniad hwn yn danategiad.
Roedd problemau gyda’r tanategiad. Nid oedd yr ‘hen’ reolau yn gwarantu bod yr holl aelodau a amddiffynnwyd yn cael pensiwn a oedd o leiaf cystal ag y byddent wedi’i gael dan y cynllun cyflog terfynol.
Newidiodd rheolau’r CPLlL o 1 Hydref 2023 oherwydd rhwymedi McCloud. Mae’r newidiadau wedi’u hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 pan ddechreuodd y cynllun cyfartaledd gyrfa. Os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad tanategol, cewch eich amddiffyn hyd yn oed os ydych eisoes wedi gadael y CPLlL neu wedi cymryd eich pensiwn.
Mae rhwymedi McCloud yn golygu dau brif newid ar gyfer aelodau’r CPLlL:
- mae aelodau iau sy’n gymwys bellach wedi’u hamddiffyn gan y tanategiad hefyd. Mae hyn yn dileu’r gwahaniaethu a ganfuwyd yn Nyfarniad McCloud.
- Mae’r rheolau tanategu newydd yn llawer mwy manwl. Mae hyn yn golygu bod y tanategiad yn gweithio’n deg ac yn gyson i bob aelod a amddiffynnir. Os oeddech wedi’ch amddiffyn gan yr ‘hen’ reolau tanategu pan gymeroch chi’ch pensiwn cyn 1 Hydref 2023, efallai bydd eich pensiwn yn cynyddu dan y rheolau ‘newydd’.
Mae’r rheolau tanategu newydd yn gymhleth iawn a byddant yn effeithio ar nifer mawr o aelodau. Fel eich cronfa bensiwn, mae’n rhaid i ni adolygu’r holl bensiynau rydym yn eu talu i weithio allan pa rai fydd yn cynyddu. Er y daeth y newidiadau hyn i rym o 1 Hydref 2023, bydd yn cymryd tipyn o amser i adolygu’r holl bensiynau rydym yn eu talu.
Hoffem eich sicrhau y byddwn yn cysylltu ag unrhyw un a fydd yn gweld cynnydd yn y pensiwn sy’n cael ei dalu iddo o ganlyniad i rwymedi McCloud. Byddwn yn ysgrifennu atoch dim ond os yw’r rheolau newydd yn golygu bod eich pensiwn yn cynyddu.
Os oeddech yn aelod gweithredol gyda Chronfa Bensiwn Abertawe o 1 Ebrill 2012 ac 1 Ebrill 2014, bydd yr aelodaeth hon yn rhoi amddiffyniad i chi. Os nad oeddech, gall eich amddiffyniad gynnwys aelodaeth mewn cynlluniau sector preifat eraill fel y GIG, y Gwasanaeth Sifil, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân neu Athrawon. Bydd angen i chi gadarnhau eich aelodaeth yn y cynlluniau hyn i ni gan eu bod yn cyfrif tuag at wasanaeth ar gyfer rhwymedi McCloud. Mae angen i chi gysylltu â ni dim ond os ydych wedi bod yn aelod o gynlluniau eraill yn y sector cyhoeddus.
Symud Tŷ
Rhowch wybod i’r Is-adran Bensiynau os ydych yn newid eich cyfeiriad, peidiwch â dibynnu ar yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu rhwng adrannau’r cyngor gan yr ystyrir bod hyn yn doriad o’ch data personol.Bydd unrhyw bost sy’n cael ei ddychwelyd yn arwain at eich taliadau pensiwn yn cael eu gohirio, tan bod y cyfeiriad wedi’i ddiweddaru. Gallwch newid eich manylion gan ddefnyddio’n porth ar-lein, drwy anfon e-bost atom neu drwy ysgrifennu atom. Ni allwn newid eich cyfeiriad dros y ffôn.
Ystyried symud i fyw dramor?
Os ydych chi’n bwriadu symud i fyw dramor gallwch dalu’ch pensiwn CPLlL i mewn i gyfrif banc tramor trwy Western Union. Byddwch yn derbyn cyfraddau cyfnewid ffafriol ac mae’r cyfleuster am ddim. Bydd angen i chi hefyd gwblhau gwiriad cymhwysedd parhaus blynyddol. Mae’r broses yn syml ac mae’n ein helpu i sicrhau nad yw’r statws aelod wedi newid ac i atal unrhyw dwyll posib.
Gordaliad o daliadau pensiynau
Pan fydd anwylyn yn marw, mae’n gyfnod gofidus, llawn straen ac weithiau mae pethau’n cael eu hanghofio. Ond, i osgoi gordaliadau o fuddion pensiwn mae’n bwysig iawn bod yr Is-adran Pensiynau’n cael ei hysbysu cyn gynted â phosib fel y gall y taliadau pensiwn gael eu hatal. Gall y person sy’n gyfrifol am ddelio â’ch materion ffonio’r Is-adran Pensiynau ar (01792) 636655 i roi gwybod am eich marwolaeth neu ddefnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith pan fydd y farwolaeth wedi’i chofrestru, trwy roi eich rhif Yswiriant Gwladol a nodi bod pensiwn CPLlL yn cael ei dalu.
Buddion Dibynnydd
Fel aelod sy’n bensiynwr, gall cyfandaliad grant marwolaeth a buddion pensiwn goroeswr fod yn daladwy yn dilyn eich marwolaeth. Mae hyn yn dibynnu ar y dyddiad y dechreuoch chi dderbyn eich buddion pensiwn ac am faint o amser rydych wedi bod yn derbyn y taliadau. Ewch i’n gwefan i gael cadarnhad o gymhwysedd goroeswyr.
Ni fydd grant marwolaeth yn daladwy os:
- byddwch wedi cyrraedd 75 oed ar adeg y farwolaeth.
- ydych chi wedi derbyn taliadau pensiwn am fwy na 5 mlynedd os oeddech wedi gadael y CPLlL ar 31/03/2008 neu cyn hynny.
- ydych chi wedi derbyn taliadau pensiwn am fwy na 10 mlynedd os oeddech wedi gadael y CPLlL ar 31/03/2008 neu cyn hynny.
- Rydych yn derbyn budd-dal pensiwn Goroeswr
- Roedd eich pensiwn gyda’r CPLlL oherwydd eich bod wedi ymddeol yn gynnar o’r Cynllun Athrawon.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud, dychwelwch ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth wedi’i llenwi i’r Is-adran Pensiynau. Gallwch hefyd ddarparu neu ddiwygio’ch enwebeion drwy ddefnyddio Fy Mhensiwn Ar-lein.
Ymladd yn Erbyn Twyll/Ailgyflogaeth
Mae’r Gronfa Bensiwn yn cymryd rhan mewn ymarfer paru data o’r enw’r Fenter Twyll Genedlaethol. Caiff cofnodion pensiwn a gedwir gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eu croesgyfeirio gyda’r rhai a gedwir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i atal gordaliadau a thaliadau twyllodrus posib.
Felly, os ydych wedi cael eich ailgyflogi neu os cewch eich ailgyflogi gan awdurdod lleol neu gyflogwr sy’n rhan o’r CPLlL, p’un a ydych yn penderfynu ailymuno ai peidio, mae’n rhaid i chi hysbysu’ch Is-adran Pensiynau bresennol a blaenorol fel y gallant asesu’r taliad pensiwn. Nid effeithir ar ailgyflogaeth â chyflogwr arall nad yw’n rhan o’r CPLlL.
Sgamiau Pensiwn – RHYBUDD
Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr sgâm pensiwn, ni waeth pa mor gall y maen nhw gydag arian. Mae’n bwysig y gall pawb sylwi ar yr arwyddion rhybuddio.
Mae sgamwyr yn aml yn broffesiynol ac yn ddiamau, gyda gwefannau credadwy, geirdaon a deunyddiau y mae’n anodd eu gwahaniaethu rhag y peth go iawn. Eu nod yw perswadio’r rheini sy’n arbed arian mewn pensiwn i naill ai drosglwyddo’u pensiwn cyfan, neu ryddhau arian o’u pensiwn. Yn aml caiff yr arian ei drosglwyddo i gynllun y mae’r sgamiwr yn ei reoli.
- Gwrthodwch gynigion annisgwyl
- Gwiriwch â phwy rydych chi’n delio
- Peidiwch â gadael i rywun eich rhuthro na rhoi pwysau arnoch
- Ceisiwch wybodaeth a chyngor diduedd
Cwestiynau Cyffredin am Gyflogres Pensiynau:
Rwyf am newid fy nghyfeiriad neu fy nghyfrif banc. Beth mae’n rhaid i mi ei wneud?
Rhaid anfon yr holl newidiadau i’ch manylion personol yn ysgrifenedig, gan nodi’ch rhif tâl pensiwn, i’r cyfeiriad canlynol:
E-bost: servicecentrehelpdesk@abertawe.gov.uk
Ysgrifennu: Canolfan Wasanaethu, Cyflogres Pensiynau, Canolfan Ddinesig
Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN
Porth ar-lein: Fy Mhensiwn Ar-lein (cyfeiriadau yn unig, nid manylion banc)
Y dyddiad cau ar gyfer y gyflogres fel arfer yw canol y mis, os bydd eich cais i newid eich manylion banc yn cyrraedd ar ôl dyddiad cau’r gyflogres, bydd eich newidiadau’n dod i rym y mis canlynol.
Os ydych wedi penodi un person neu fwy i’ch helpu i wneud penderfyniadau’n ymwneud ag iechyd, lles a materion ariannol a bod Atwrneiaeth Arhosol wedi’i chyhoeddi, dylid cynnwys y ddogfennaeth ategol hon gyda’r hysbysiad ysgrifenedig.
Mae gennyf ymholiad am fy nghôd treth; â phwy y dylwn gysylltu?
Mae angen cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch codau treth i Swyddfa Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi drwy:
Fynd ar-lein: www.gov.uk/tax-codes
Ffonio: 0300 200 3300
Ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:
Pay As You Earn and Self-Assessment
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
BX9 1AS
Mae gen i ymholiad am fy nhaliad pensiwn neu mae angen copi arnaf o fy P60 – â phwy y dylwn i gysylltu?
Gallwch ffonio Desg Gymorth y Ganolfan Gwasanaethau ar (01792) 636098. Gofynnwch am y Gyflogres Pensiynau a dyfynnwch eich rhif tâl pensiwn wrth gysylltu â’r rhif hwn neu
teipiwch Cyflogres Pensiynau yn y llinell destun wrth e-bostio:
servicecentrehelpdesk@abertawe.gov.uk
Cyfeiriad a manylion cyswllt
Is-adran Bensiynau
Canolfan Ddinesig
Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN
01792 636655