Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), rydych eisoes yn talu cyfraniadau o’ch cyflog i adeiladu pensiwn. Fodd bynnag, mae dwy ffordd y gallwch gynyddu’ch buddion pensiwn yn y CPLlL. Gelwir un yn Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) a’r llall yw Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY).
Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
Pot o arian yw’r CGY y gallwch chi gyfrannu ato a’i adeiladu i roi buddion ychwanegol i chi ochr yn ochr â’ch buddion CPLlL. Mae’r cyfraniadau’n cael ei didynnu o’ch tâl cyn i’r dreth cael ei gyfrifo. Felly, os ydych yn drethdalwr 20% ac yn dymuno rhoi £100 i mewn i’ch pot CGY bob mis, dim ond £80 y mae angen i chi ei dalu, gan fod y £20 sy’n weddill yn dod o’ch cymorth treth. Mae gennych gyfrif CGY eich hun a gallwch ddewis sut mae eich pot o arian yn cael ei fuddsoddi gyda’r darparwr CGY.
Mae’r CGY yn ffordd hyblyg o gynyddu’ch buddion pensiwn. Gallwch dalu hyd at 100% o’ch tâl pensiynadwy (namyn didyniadau statudol fel Yswiriant Gwladol a Chyfraniadau Pensiwn) i mewn i’ch cronfa CGY. Gallwch hefyd gynyddu neu leihau’r cyfraniadau rydych yn dymuno’u talu, ynghyd â newid sut mae’r arian yn eich cynllun CGY yn cael ei fuddsoddi.
Os byddwch yn marw mewn swydd, bydd eich cronfa CGY yn cael ei defnyddio fel grant marwolaeth ychwanegol ac yn cael ei dalu i’ch buddiolwr / buddiolwyr, yn unol â’ch Ffurflen Mynegi Dymuniad. Os nad ydych wedi llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad, bydd yr arian yn cael ei dalu i’ch Ystâd. Mae gan eich cyflogwr hefyd ddisgresiwn i dalu tuag at eich CGY. Gelwir hyn yn CGY Cost a Rennir. Bydd angen i chi wirio hyn gyda’ch Cyflogwr i weld beth yw ei bolisi ynghylch CGY.
Opsiynau pan fyddwch yn ymddeol o’r CPLlL
- Pan ychwanegir at Werth Cyfalaf eich buddion CPLlL, mae’n bosib i chi dynnu hyd at 100% o’ch cynllun CGY fel arian parod di-dreth os nad yw’r gwerth cyfunol yn fwy na 25% o derfyn Gwerth Cyfalaf CThEM. Os eir yn uwch na’r terfyn hwn, mae’n golygu na allwch gymryd 100% o’r CGY fel arian parod di-dreth. Bydd y swm sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio wedyn i brynu swm ychwanegol o bensiwn blynyddol yn y CPLlL neu yn rhywle arall.
- Gallwch ddefnyddio’ch cynllun CGY i brynu pensiwn blynyddol ychwanegol yn y CPLlL.
- Mae’n bosib y gallwch ddefnyddio’ch cynllun CGY i brynu blwydd-dal gan y darparwr mewnol (os yw’r opsiwn hwn ar gael) neu unrhyw ddarparwr o’ch dewis chi (swm sefydlog o arian yw blwydd-dal sy’n cael ei dalu bob blwyddyn tan ddigwyddiad penodol, fel marwolaeth).
Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
Mae CPY yn gontract i brynu swm ychwanegol o bensiwn blynyddol o’r Gronfa Bensiwn. Ar 1 Ebrill 2014, rhoddwyd cap o £6,500 y flwyddyn ar waith i gyfyngu ar y swm o bensiwn blynyddol y gallwch ei brynu yn y CPLlL. Mae’r cap hwn wedi cynyddu gyda’r gyfradd chwyddiant bob blwyddyn ers hynny. Dangosir y cap cyfredol ar y dudalen cyfrifo CPY ar-lein:
https://www.lgpsmember.org/more/apc/extra.php
Gallwch ddewis prynu’r pensiwn ychwanegol trwy dalu cyfandaliad untro neu drwy wasgaru’r gost dros nifer penodol o flynyddoedd cyflawn (isafswm o flwyddyn). Gall y cyfraniadau hyn gael eu tynnu o’ch cyflog yn yr un modd â’ch cyfraniadau pensiwn. Fe’u cymerir hefyd cyn i’ch treth gael ei chyfrifo, felly os ydych yn talu treth byddwch yn derbyn cymorth treth ar eich cyfraniadau yn awtomatig.
Os ydych chi’n talu trwy wneud cyfandaliad untro, gallwch wneud hynny trwy ddidyniad o’ch cyflog neu trwy wneud taliad uniongyrchol i’r Gronfa Bensiwn. Os ydych yn talu’n uniongyrchol i’r Gronfa, bydd angen i chi siarad â CThEM i drefnu i’r cymorth treth perthnasol gael ei adennill, gan na fydd y Gronfa Bensiwn yn ei dalu’n ôl i chi.
Bydd unrhyw bensiwn ychwanegol a brynir yn cael ei ychwanegu at eich pensiwn blynyddol am weddill eich oes. Pan fyddwch yn marw, ni fydd unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol yn daladwy i’ch goroeswyr ar gyfer y pensiwn ychwanegol a brynwyd (gan fod y CPY yn prynu pensiwn ychwanegol i chi yn unig).
Os ydych chi’n hawlio’ch pensiwn cyn eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA), bydd gostyngiadau ymddeol yn gynnar yn cael eu cymhwyso i’ch pensiwn a’r pensiwn ychwanegol a brynwyd gennych trwy’ch CPY.
Mae cost yr CPY yn seiliedig ar eich oedran a’ch rhyw gan ddefnyddio ffactorau a ddarperir gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD). Efallai bydd eich cronfa bensiwn yn gofyn i chi gael archwiliad meddygol gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig y bydd yn rhaid i chi chi dalu amdano, er mwyn cael tystysgrif i gadarnhau bod eich ‘iechyd yn weddol dda’.
Gallwch ddefnyddio’r ddolen isod i gyfrifo cost CPY:
https://www.lgpsmember.org/more/apc/extra.php
Opsiynau Eraill
Mae trefniadau pensiwn eraill ar gael, sydd ar wahân i’ch pensiwn CPLlL. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrannu tuag at Gynllun CGY Annibynnol (CGYA) neu Gynllun Pensiwn Personol / Cynllun Pensiwn Rhanddeiliad
Sylwer, gyda C.C.C. dim ond 25% o’r gronfa CGY y gallwch chi ei gymryd fel arian parod di-dreth a’r gweddill fel blwydd-dâl, felly maen nhw’n gweithio’n wahanol i gynllun CGY y CPLlL. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr opsiynau eraill hyn mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gwmnïau yswiriant.
Lwfans Blynyddol
Os ydych chi’n ystyried cynyddu’ch pensiwn CPLlL drwy swm mawr neu, os ydych chi’n ystyried gwneud taliadau CGY sylweddol bob blwyddyn dreth, gallai olygu y gallech chi fynd y tu hwnt i’r terfyn Lwfans Blynyddol.
Y Lwfans Blynyddol yw’r swm y mae gwerth eich buddion pensiwn yn gallu cynyddu mewn blwyddyn heb i chi orfod talu tâl treth. Os yw gwerth eich buddion pensiwn mewn blwyddyn (gan gynnwys cynilion pensiwn y tu allan i’r CPLlL) yn fwy na therfyn y lwfans blynyddol, gall y gormodedd gael ei drethu fel incwm. Y terfyn lwfans blynyddol cyfredol yw £60,000.
Efallai yr hoffech ofyn am Gyngor Ariannol Annibynnol ynglŷn â hyn, gan nad yw’r Gronfa Bensiwn yn gallu rhoi unrhyw gyngor ar y mater hwn.