Dyma’ch hysbysiad ffurfiol sy’n dweud wrthych am y newidiadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), yr hyn y mae’n ei olygu i aelodau y mae’n effeithio arnynt a’r hyn y bydd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (“y Gronfa”) yn ei wneud.
Newidiodd CPLlL, ynghyd â chynlluniau pensiwn eraill y Gwasanaeth Cyhoeddus, eu rheolau pensiwn i ddileu gwahaniaethu yn erbyn aelodau iau a ganfuwyd yn Nyfarniad McCloud.
Beth yw McCloud?
Pan ddiwygiodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn 2014 a 2015, cyflwynwyd amddiffyniadau trosiannol ar gyfer aelodau hŷn. Ym mis Rhagfyr 2018, dyfarnodd y Llys Apêl fod aelodau iau cynlluniau pensiwn barnwrol a diffoddwyr tân wedi bod yn destun gwahaniaethu anghyfreithlon am nad oedd yr amddiffyniadau yn berthnasol iddynt.
Gelwir y dyfarniad hwn yn ddyfarniad McCloud, ar ôl aelod o’r Cynllun Pensiwn Barnwrol a oedd yn ymwneud â’r achos. Oherwydd y dyfarniad, bydd newidiadau i bob Cynllun Pensiwn Gwasanaeth Cyhoeddus a ddarparodd amddiffyniad trosiannol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).
Gelwir y newidiadau hyn yn rhwymedi McCloud a bwriedir iddynt ddileu’r gwahaniaethu ar sail oedran a nodwyd yn achos llys McCloud.
Daeth y newid hwn i rym ar 1 Hydref 2023 sef Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Diwygio) (Rhif 3) 2023 SI2023/972. Mae’r amddiffyniad Tanategu yn berthnasol i bensiwn a gronnwyd yn ystod cyfnod y rhwymedi yn unig, sef rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022. Bydd y tanategu wedi dod i ben yn gynharach os oeddech wedi gadael y cynllun neu gyrraedd oedran ymddeol arferol eich cyflog terfynol (65 oed fel arfer) cyn 31 Mawrth 2022.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud?
Byddwn yn cyfrifo a ydych wedi’ch amddiffyn. Os ydych, pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn, byddwn yn cyfrifo a fydd yn cynyddu oherwydd yr amddiffyniad tanategol. Gelwir un rhyw gynnydd yn ‘swm gwarant terfynol’. Gall eich amddiffyniad gynnwys aelodaeth mewn cynlluniau sector preifat eraill fel y GIG, y Gwasanaeth Sifil, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân neu Athrawon. Bydd angen i chi gadarnhau eich aelodaeth yn y cynlluniau hyn i ni gan eu bod yn cyfrif tuag at wasanaeth ar gyfer rhwymedi McCloud. Mae angen i chi gysylltu â ni dim ond os ydych wedi bod yn aelod o gynlluniau eraill yn y sector cyhoeddus.
Aelodau Actif ac Aelodau Gohiriedig
Os byddwch yn gadael y cynllun pensiwn, byddwn yn cyfrifo swm tanategu dros dro, ond cyfrifir y swm tanategu terfynol (pensiwn ychwanegol) pan fyddwch yn cymryd eich pensiwn.
Mae gennym tan fis Awst 2025 i gynnwys gwybodaeth am amddiffyniad tanategu i’r holl aelodau cymwys yn y Datganiadau Buddion Blynyddol.
Os byddwch yn dod yn aelod gohiriedig neu’n cymryd eich buddion pensiwn cyn y dyddiad hwn, byddwn yn cyfrifo’ch hawl i’r swm tanategu (pensiwn ychwanegol) wrth gyfrifo’ch pensiwn.
Aelodau sy’n Bensiynwyr
Os ydych chi wedi cael eich diogelu ac mae eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol eisoes yn cael ei dalu i chi, byddwn yn gweithio allan a fydd eich pensiwn yn cynyddu. Byddwn yn gwneud hwn cyn gynted â phosib, ond bydd adolygu’r holl bensiynau sy’n cael eu talu’n cymryd peth amser.
Nid oes angen i chi gysylltu â ni. Hoffem eich sicrhau y byddwn yn cysylltu ag unrhyw un a fydd yn gweld cynnydd yn ei bensiwn sy’n cael ei dalu o ganlyniad i rwymedi McCloud. Byddwn yn ysgrifennu atoch os yw’r rheolau newydd yn golygu bod eich pensiwn yn cynyddu yn unig.
Rhagor o wybodaeth Gallwch gael gwybod mwy am y dyfarniad drwy ddarllen taflen ffeithiau McCloud i aelodau neu dudalennau McCloud o wefan aelodau’r CPLlL www.lgpsmember.org/mccloud-remedy/ Gwefan allanol yw hon sydd ar gael yn Saesneg yn unig ac mae offeryn yno i’ch helpu i gyfrifo a yw hyn yn effeithio arnoch, a fideo byr i’ch helpu i ddeall y rhwymedi.