• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English
Rydych chi yma:Hafan / Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD

ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Mae’r hysbysiad hwn ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (y “gronfa“). Cafodd ei lunio gan Gyngor Abertawe (yr “Awdurdod Gweinyddu“, neu “ni“) yn ei rôl fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa.Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer aelodau a buddiolwyr (y cyfeirir atynt fel “chi“) Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (y “gronfa“). Fe’i lluniwyd gan Gyngor Abertawe (yr “Awdurdod Gweinyddu“, neu “ni“) yn ei rôl fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall neu bolisi prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol pan rydym yn casglu neu’n prosesu data personol amdanoch fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio’ch data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disodli unrhyw hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallem fod wedi’i gyhoeddi’n flaenorol ac yn ategu unrhyw hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill a gyhoeddwn sy’n benodol i weithgareddau casglu/prosesu data penodol.

Ar gyfer polisi preifatrwydd Cyngor Abertawe, ewch i’r ddolen ganlynol:

Preifatrwydd – Abertawe

Pam rydym yn rhoi’r hysbysiad hwn i chi

Fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa, rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, y gallwn eich adnabod drwy’r wybodaeth honno, (“data personol“) ac rydym yn ei defnyddio i weinyddu’r gronfa ac i dalu buddion ohoni. Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae’n ofynnol i ni roi gwybodaeth benodol i chi am y data personol sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas ag ef a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w ddiogelu. Mae’r hysbysiad hwn wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth honno i chi.

Beth yw’r sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol?

Mae’r Awdurdod Gweinyddu’n cadw data personol amdanoch chi yn ei rôl fel rheolwr ar gyfer ymdrin yn briodol â phob mater sy’n ymwneud â’r gronfa, gan gynnwys sut y caiff ei gweinyddu a’i rheoli. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu’ch data i gysylltu â chi, i gyfrifo, i ddiogelu ac i dalu eich buddion.  Er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian y mae ei angen i ddarparu buddion aelodau a buddiolwyr a sut dylid buddsoddi’r arian hwnnw, ac i reoli rhwymedigaethau a gweinyddu’r gronfa’n gyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch data personol isod.

Fel arfer, y sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol yw bod angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa, gan gynnwys, er enghraifft, ein rhwymedigaethau o dan y rheoliadau dangosfwrdd pensiynau. Fodd bynnag, os nad yw’r sail gyfreithiol honno’n berthnasol, y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol fydd un neu fwy o’r canlynol:

  1. mae angen i ni brosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol yn ein rôl fel corff cyhoeddus; ac
  2. mae angen i ni brosesu eich data personol am resymau cyfreithlon gweinyddu a rheoli’r gronfa a’r rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â hi, cyfrifo, sicrhau a thalu buddion a chyflawni ein rhwymedigaethau ac arfer unrhyw hawliau, dyletswyddau a disgresiynau sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu mewn perthynas â’r gronfa; ac
  3. oherwydd bod angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â’r gronfa (er enghraifft, dan gytundeb y byddwch yn talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i’r gronfa), neu i gymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract.

Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno?

Gall y mathau o ddata personol rydym yn ei gadw a’i brosesu amdanoch gynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Nodi manylion, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhif gweithiwr ac aelodaeth, rhifau aelodaeth gweithwyr ac, os ydych wedi defnyddio dangosfwrdd pensiynau i gael mynediad at wybodaeth am eich pensiynau, rif adnabod pensiynau, y gellir ei ddefnyddio i gadarnhau a nodi eich buddion penodol o dan y gronfa at ddibenion arddangos gwybodaeth drwy ddangosfwrdd.
  • Gwybodaeth a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu cymhwystra ar gyfer buddion, er enghraifft, hyd gwasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am gyflog.
  • Gwybodaeth ariannol sy’n berthnasol i’r broses o gyfrifo neu dalu buddion, er enghraifft, manylion cyfrif banc a threth.
  • Gwybodaeth am eich teulu, eich dibynyddion neu eich amgylchiadau personol, er enghraifft, statws priodasol a gwybodaeth sy’n berthnasol er mwyn dosbarthu a chlustnodi buddion sy’n daladwy ar farwolaeth.
  • Gwybodaeth am eich iechyd, er enghraifft, i asesu cymhwystra ar gyfer buddion sy’n daladwy ar sail afiechyd, neu pan fydd iechyd yn berthnasol i hawliad am fuddion yn dilyn marwolaeth aelod o’r gronfa.
  • Gwybodaeth am gollfarn droseddol os mai canlyniad hyn yw bod arnoch chi arian i’ch cyflogwr neu’r gronfa, a gellir ad-dalu’r cyflogwr neu’r gronfa o’ch buddion.

Rydym yn cael peth o’r data personol hwn yn uniongyrchol gennych chi. Gallwn hefyd gael gafael ar ddata (er enghraifft, gwybodaeth am gyflog) gan eich cyflogwr/wyr cyfredol neu flaenorol neu gwmnïau a’u holynodd hwy mewn busnes, gan aelod o’r gronfa (lle rydych neu gallech fod yn fuddiolwr o’r gronfa o ganlyniad i aelodaeth y person hwnnw ohoni) ac o amrywiaeth o ffynonellau eraill, gan gynnwys cronfeydd data cyhoeddus (megis y Gofrestr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau), dangosfwrdd pensiynau (os ydych yn ei ddefnyddio i gael mynediad at wybodaeth am eich pensiynau), ein hymgynghorwyr a chyrff llywodraeth neu reoliadol, gan gynnwys y rheini yn y rhestr isod o sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw.

Pan fyddwn yn cael gafael ar wybodaeth sy’n ymwneud â “chategorïau arbennig” o ddata arbennig o sensitif, megis gwybodaeth am iechyd, mae dulliau diogelu ychwanegol yn berthnasol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Byddwn yn prosesu eich data personol sy’n berthnasol i un o’r categorïau arbennig gyda’ch caniatâd chi yn unig, oni bai y gallwn brosesu’r data hwn yn gyfreithlon am reswm arall a ganiateir gan y ddeddfwriaeth honno. Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd i’r prosesu yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Gweinyddu. Fodd bynnag, os nad ydych yn rhoi caniatâd, neu os ydych yn ei dynnu’n ôl maes o law, mae’n bosib na fydd yr Awdurdod Gweinyddu yn gallu prosesu’r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau’n seiliedig arni, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch talu eich buddion.

Os ydych wedi darparu gwybodaeth i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu, dibynyddion neu fuddiolwyr posib i’r gronfa, gwnewch yn siŵr bod yr unigolion hynny yn ymwybodol o’r wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad hwn.

Sut byddwn yn defnyddio’ch data personol?

Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ymdrin â phob mater sy’n ymwneud â’r gronfa, gan gynnwys sut caiff ei gweinyddu a’i rheoli. Gall hyn gynnwys prosesu eich data personol at unrhyw un o’r dibenion canlynol, neu bob un ohonynt:

  • Cysylltu â chi.
  • Asesu eich cymhwystra ar gyfer buddion, eu cyfrifo a’u darparu i chi (ac os ydych yn aelod o’r gronfa, eich buddiolwyr yn dilyn eich marwolaeth).
  • Nodi eich opsiynau buddion posib neu wirioneddol a, lle y bo’n berthnasol, rhoi’r opsiynau hynny ar waith.
  • Hwyluso eich mynediad at wybodaeth am eich pensiynau drwy ddangosfwrdd pensiynau.
  • Galluogi ffyrdd eraill o gyflwyno eich buddion, er enghraifft, drwy ddefnyddio nwyddau yswiriant a throsglwyddiadau i drefniadau pensiwn eraill neu gyfuniadau â hwy.
  • At ddibenion modelu ystadegol ac ariannol a chyfeirnodi (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian y mae ei angen i ddarparu buddion aelodau a buddiolwyr a sut dylid buddsoddi’r arian hwnnw).
  • Asesu cais rydych yn ei wneud i drosglwyddo eich buddion allan o’r gronfa gweithredu arno os yw’n briodol
  • Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Gweinyddu’r gronfa.
  • Mynd i’r afael ag ymholiadau gan aelodau a buddiolwyr eraill ac ymateb i unrhyw anghydfodau gwirioneddol neu bosib o ran y gronfa.
  • Mewn perthynas â gwerthiant, cyfuniad neu ad-drefniad neu drosglwyddiad corfforaethol busnes gan y cyflogwyr sy’n rhan o’r gronfa a chwmnïau eu grŵp.
  • Nodi os ydych yn gymwys ar gyfer amddiffyniad tanategol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.swanseapensionfund.org.uk/cy/dyfarniad-mccloud/

Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw

O bryd i’w gilydd, byddwn yn rhannu eich data personol ag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallant ein helpu i ymgymryd â’n dyletswyddau a’n disgresiynau mewn perthynas â’r gronfa. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny yn syml yn prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau; cyfeirir atynt fel prosesyddion. Bydd sefydliadau eraill yn gyfrifol i chi yn uniongyrchol am eu defnydd o ddata personol rydym yn ei rannu â nhw; cyfeirir atynt fel rheolwyr. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eu polisïau diogelu data nhw (a fydd yn berthnasol i’w defnydd o’ch data) ar eu gwefannau. Ceir disgrifiad cryno gan ein darparwr gwasanaethau actiwaraidd/buddion/llywodraethu, Aon Hewitt Limited, o ran sut defnyddir eich data personol er mwyn ein cefnogi i gynnal y cynllun yn Atodiad 1 yr hysbysiad hwn.

Pryd bynnag y bydd un o’n cynghorwyr neu ddarparwyr gwasanaethau yn gweithredu fel rheolwr ar y cyd â ni mewn perthynas â’ch data personol, oherwydd ein bod yn pennu’r dibenion a’r dulliau o’i brosesu ar y cyd, byddwn yn cytuno â hwy sut yr ydym i gyd yn mynd i gyflawni ein rhwymedigaethau priodol a chyfunol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae trefniant o’r fath yn gweithio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. 

Gall y sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw gynnwys y cynghorwyr a’r darparwyr gwasanaethau canlynol:

Prosesyddion Data

  • Gweinyddwr – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
  • Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – Prudential, Aegon ac Utmost Life ar hyn o bryd
  • Cyfrifwyr – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
  • Canolfannau olrhain ar gyfer sgrinio marwolaethau a dod o hyd i aelodau – ATMOS Data Services/Cyngor Abertawe, Mortality Manifest Ltd ar hyn o bryd
  • Darparwr taliadau tramor i drosglwyddo taliadau i aelodau o’r cynllun a chanddynt gyfrifon y tu allan i’r DU – Convera ar hyn o bryd
  • Darparwr/wyr gwasanaethau integredig sy’n hwyluso cysylltiadau â dangosfwrdd pensiynau – Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd.
  • Cwmnïau argraffu – Adare, MPS a DesignPrint ar hyn o bryd
  • Darparwr meddalwedd pensiynau – Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd
  • Darparwyr gwasanaethau TG, creu a dosbarthu dogfennau –  Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd
  • Darparwr tystiolaeth o fywyd ar gyfer pensiynwyr tramor – Crown Agents Bank

Rheolwyr Data

  • Ymgynghorydd Actiwaraidd – AON Hewitt ar hyn o bryd
  • Ymgynghorydd buddiannau’r cynllun – AON Hewitt ar hyn o bryd
  • Ymgynghorydd Buddsoddi – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
  • Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – Prudential, Aegon ac Utmost Life ar hyn o bryd
  • Ymgynghorydd Cyfreithiol – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
  • Actiwari’r Gronfa – AON Hewitt ar hyn o bryd
  • Archwiliwr Statudol – Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd
  • Archwiliwr Allanol – Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd
  • Archwiliwr Mewnol – Cyngor Abertawe ar hyn o bryd
  • Cwmnïau yswiriant mewn cysylltiadau â buddiannau afiechyd – (Dd/B)
  • Cronfa Ddata Yswiriant Gwladol CPLlL – (Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog)
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Adran Actiwari’r Llywodraeth
  • Swyddfa’r Cabinet – at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
  • Llysoedd Cymru a Lloegr – at ddibenion prosesu gorchmynion rhannu pensiwn yn dilyn ysgariad
  • Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Pan fyddwn yn buddsoddi ar ran y gronfa neu’n ceisio darparu buddion i aelodau a buddiolwyr y gronfa mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddefnyddio yswiriant, yna efallai y bydd angen i ni rannu data personol â darparwyr buddsoddiadau, yswirwyr a gweithredwyr cynlluniau pensiwn eraill. 

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn darparu peth o’ch data i’ch cyflogwr a’i is-gwmnïau perthnasol (a phrynwyr posib eu busnesau) ac ymgynghorwyr at ddibenion galluogi’r endidau hynny i ddeall rhwymedigaethau’r cyflogwr mewn perthynas â’r gronfa. Yn gyffredinol, eich cyflogwyr fyddai rheolwr y data personol a rennir ag ef yn yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, pan fydd eich cyflogaeth yn gysylltiedig â darparu gwasanaethau yn amodol ar drefniad contractio allanol, gall yr Awdurdod Gweinyddu ddarparu gwybodaeth am eich buddion pensiwn i’ch cyflogwr ac i gynigwyr posib am y contract hwnnw pan gaiff ei adnewyddu neu pan ddaw i ben.

Yn ôl y fframwaith dangosfwrdd pensiynau mae’n ofynnol i ni rannu data personol o fewn yr ecosystem ddangosfyrddau. Pan fydd aelod yn chwilio am wybodaeth am ei bensiynau ar-lein drwy ddangosfwrdd pensiynau, rydym yn derbyn data personol penodol at ddibenion dod o hyd i bensiwn yr aelod yn y gronfa. Yna, mae angen i ni ddarparu gwybodaeth bensiwn benodol i’r ecosystem ddangosfyrddau fel y gellir ei dangos drwy’r dangosfwrdd berthnasol.

Pan wneir cais neu os ydym yn ystyried ei fod yn rhesymol ofynnol, gallwn hefyd ddarparu eich data i gyrff llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfod a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rheini a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Yna gallant ddefnyddio’r data i ymgymryd â’u swyddogaethau.

Gall y sefydliadau y cyfeiriwyd atynt yn y paragraffau uchod ddefnyddio’r data personol i ymgymryd â’u swyddogaethau mewn perthynas â’r gronfa ynghyd ag ar gyfer modelu ystadegol ac ariannol (megis cyfrifo costau buddion cyfartalog disgwyliedig a chyfraddau marwoldeb) ac at ddibenion cynllunio, gweinyddu busnes a rheoliadol. Gallant hefyd drosglwyddo’r data i drydydd partïon eraill (er enghraifft, gall yswirwyr drosglwyddo data personol i gwmnïau yswiriant eraill at ddibenion ailyswirio), i’r graddau maent yn ystyried bod gofyn rhesymol am yr wybodaeth at ddiben cyfreithlon.

Nid ydym yn defnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata ac ni fyddwn yn rhannu’r data hwn ag unrhyw un at ddibenion marchnata i chi nac unrhyw fuddiolwr.

Trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i’r DU

Mewn rhai achosion, gall y derbynyddion hyn fod y tu allan i’r DU. Mae hyn yn golygu y gall eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU i awdurdodaeth nad yw o bosib yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch â’r hyn sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid rhoi mesurau diogelu ychwanegol ar waith gyda’r bwriad o ddiogelu eich data personol yn unol â chyfreithiau perthnasol.  Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd.

Am faint o amser fyddwn ni’n cadw’ch data personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd ag y bydd ei angen arnom er mwyn cyflawni’r diben(ion) y’i casglwyd ar ei gyfer/eu cyfer, ac wedi hynny am gyhyd ag y credwn y gall fod yn ofynnol i ni ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallwn eu derbyn am ein gwaith o weinyddu’r gronfa; oni bai ein bod yn dewis cadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd eich data personol yn cael ei gadw am:

  • unrhyw gyfnod y mae gennych chi (neu unrhyw fuddiolwr sy’n derbyn buddion ar ôl eich marwolaeth) hawl i fuddion o’r gronfa ac am gyfnod o 100 mlynedd o ddyddiad geni aelod ar ôl i’r buddion hynny beidio â chael eu talu mwyach. Am yr un rheswm, mae’n bosib y bydd angen cadw eich data personol pan fyddwch wedi derbyn trosglwyddiad neu ad-daliad gan y gronfa mewn perthynas â’ch hawl i fuddion. (Bydd angen i ni gadw data personol a gedwir at ddibenion y gronfa am gyfnodau estynedig oherwydd natur tymor hir y rhwymedigaethau pensiwn)

Os ydych yn ceisio cael mynediad at wybodaeth am eich pensiynau drwy ddangosfwrdd pensiynau, yn ôl y rheoliadau dangosfwrdd pensiynau mae’n ofynnol i ni gadw mathau gwahanol o wybodaeth (y mae rhai ohonynt yn cynnwys data personol) am gyfnodau penodol, fel a ddisgrifir mewn mwy o fanylder yma: https://www.pensionsdashboardsprogramme.org.uk/standards/data-retention-schedule

​Eich hawliau

Mae gennych hawl i gael mynediad at y data personol sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu amdanoch a chael copi ohono, yn ogystal â’r hawl i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gywiro eich data personol os oes unrhyw wallau ynddo neu os yw’n hen neu’n anghyflawn.  Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, efallai y bydd gennych hawl hefyd i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gyfyngu ar brosesu eich data personol neu i drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau eithriadol o gyfyngedig, megis lle nad oes angen eich data personol mwyach at y diben y caiff ei brosesu ar ei gyfer) ddileu eich data personol.   Dylech nodi nad oes rheidrwydd arnom i ddileu eich data personol os bydd angen i ni ei brosesu at ddibenion gweinyddu’r gronfa.

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol; er enghraifft, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu’ch data personol sy’n seiliedig ar fudd y cyhoedd neu fuddiannau cyfreithlon a nodir yn yr adran uchod o dan y pennawd “Beth yw’r sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol?” neu pan fydd y prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: www.ico.org.uk neu drwy ffonio’r llinell gymorth (0303 123 1113).

Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, gwynion neu bryderon ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa neu ein Swyddog Diogelu Data fel a nodir isod. Gallwch gyflwyno cwyn diogelu data i ni drwy e-bostio pensiynau@abertawe.gov.uk. Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu weithgareddau prosesu’r Awdurdod Gweinyddu, i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch wneud hyn drwy fynd i’r wefan uchod neu drwy ffonio’r llinell gymorth.

Defnyddir y data personol a gedwir gennym amdanoch i weinyddu eich buddion gan y gronfa ac mae’n bosib y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych at y diben hwn o dro i dro. Os nad ydych yn darparu gwybodaeth o’r fath, neu os ydych yn gofyn i’r data personol rydym eisoes yn ei gadw gael ei ddileu neu ei gyfyngu, gall hyn effeithio ar dalu buddion i chi (neu eich buddiolwyr) dan y gronfa. Mewn rhai achosion, gallai olygu na fydd yr Awdurdod Gweinyddu’n gallu talu eich pensiwn neu y bydd rhaid iddo roi terfyn arno (os yw eisoes yn cael ei dalu).

Diweddariadau

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn hysbysu aelodau a buddiolwyr o’r newidiadau a’r dyddiad y daw’r newidiadau i rym.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa, Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, am ragor o wybodaeth.

Rhif ffôn: 01792 636655

E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk

Cyfeiriad post:

Is-adran Bensiynau
Cyngor Abertawe
Neuadd y Ddinas
ABERTAWE
SA1 4PE

Swyddog Diogelu Data

Gallwch hefyd gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data am ragor o wybodaeth: diogelu.data@abertawe.gov.uk neu os oes gennych gŵyn ynghylch sut rydym wedi ymdrin â’ch data personol.

Atodiad 1

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD “CRYNO” Aon Hewitt Limited

Penodwyd Aon Hewitt Limited (“Aon”) i ddarparu gwasanaethau cynghori a chyfrifo ar gyfer pensiynau sy’n ymwneud â’ch aelodaeth o’r gronfa. Drwy wneud hynny, bydd Aon yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi, megis eich enw a’ch manylion cyswllt, gwybodaeth am eich cyfraniadau pensiwn, oed ymddeol ac, mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, wybodaeth am eich iechyd (lle mae hyn yn effeithio ar eich oed ymddeol) er mwyn gallu darparu’r gwasanaethau hyn. Bydd y dibenion y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol ar eu cyfer yn cynnwys rheoli’r gronfa a’ch aelodaeth ohoni, cyllido (h.y. helpu i sicrhau bod digon o arian yn y gronfa ar gyfer yr aelodau sy’n rhan ohoni), rheoli atebolrwydd (h.y. rhoi cyngor ar y ffyrdd gwahanol y gellid pennu buddiannau a’u tynnu o’r gronfa), dyletswyddau actiwari’r gronfa (sy’n cynnwys asesu unigolion sy’n aelodau o’r cynllun pensiwn ac asesu sut gall cyfansoddiad yr aelodaeth effeithio ar y symiau sy’n daladwy a phryd byddant yn daladwy er mwyn rheoli’r gronfa’n briodol), cydymffurfiad rheoliadol, gwella prosesau a gwasanaethau, a meincnodi.

Gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon fel ymgynghorwyr ariannol a darparwyr buddiannau, yswirwyr, ein cysylltiadau a darparwyr gwasanaethau a chyrff rheoliadol penodol lle mae hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall hyn gynnwys trosglwyddo data o’r tu allan i’r DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd i wledydd sydd â chyfreithiau diogelu data llai cadarn. Gwneir unrhyw drosglwyddiad o’r fath gyda mesurau diogelu priodol ar waith.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnydd Aon o’ch gwybodaeth bersonol yn ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn.  Rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r hysbysiad hwn sydd ar gael ar-lein yn http://www.aon.com/unitedkingdom/products-and-services/human-capital-consulting/aon-hewitt-actuarial-services-privacy-statement.jsp, neu gallwch wneud cais am gopi drwy gysylltu â ni (gan gyfeirio at enw’r gronfa) yn: Swyddog Diogelu Data, Aon Hewitt Limited (Ymddeol a Buddsoddi y DU), Blwch Post 730, Redhill, RH1 9FH

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2026

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Bensiynau
  • Partneriaeth Pensiwn Cymru: Addas i’r Dyfodol – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau a Chyflogwyr y Cynllun Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2026 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg