Mae’r ffeithlen hon yn egluro sut mae eich buddion pensiwn dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth leol (CPLlL) yn cael eu heffeithio gan Famolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant a Rennir (cyfeirir at hyn fel Absenoldeb sy’n Gysylltiedig â Phlant yn y ffeithlen hon).
A fyddaf yn dal i dalu cyfraniadau pensiwn ar y tâl y byddaf yn ei dderbyn yn ystod Absenoldeb sy’n Gysylltiedig â Phlant?
Byddwch, rydych yn dal i dalu cyfraniadau ar unrhyw dâl ‘statudol’ neu ‘gytundebol’ rydych chi’n ei gael yn ystod eich cyfnod o Absenoldeb sy’n Gysylltiedig â Phlant.
A yw bod ar Absenoldeb sy’n Gysylltiedig â Phlant yn effeithio ar fy muddion pensiwn?
Er mwyn deall yr effaith ar eich buddion pensiwn bydd angen i chi ddeall eich hawliau tâl a gadael. Dylech wirio hyn gyda’ch cyflogwr.
Cyfnodau Absenoldeb Cyffredin ac Ychwanegol
Am gyfnodau o Absenoldeb Cyffredin (26 wythnos gyntaf fel arfer) neu unrhyw gyfnod o Absenoldeb Ychwanegol (fel arfer ar ôl wythnos 26 hyd at wythnos 39) mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar Gyflog Pensiynadwy Tybiedig (CPT) a gyfrifir gan eich cyflogwr. Mae’r CPT yma yn seiliedig ar gyfartaledd o’r tâl pensiynadwy rydych yn ei dderbyn yn y 3 mis (neu 12 wythnos os ydych yn cael eich talu yn wythnosol) cyn y cyfnod tâl lle mae eich cyflog yn lleihau.
Trwy ddefnyddio’r ffigwr CPT yma i gyfrifo’ch buddion pensiwn, nid yw’r gostyngiad yn eich tâl go iawn yn effeithio ar eich pensiwn ac rydych yn parhau i gronni pensiwn fel petaech yn gweithio ac yn derbyn tâl.
Cyfnodau o Absenoldeb Di-dâl Ychwanegol
Ar ôl wythnos 39 hyd at wythnos 52 mae’n bosib i chi gymryd absenoldeb ychwanegol, beth bynnag, fydd hyn yn ddi-dâl ac felly ni ddefnyddir CPT ac ni fyddwch yn cronni buddion pensiwn awtomatig ar gyfer y cyfnod yma. Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith bydd gennych yr opsiwn i brynu’r pensiwn rydych wedi’i golli yn ôl yn ystod y cyfnod hwn.
Sut mae prynu pensiwn coll yn ôl?
Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith bydd eich cyflogwr yn darparu’r manylion ‘tâl pensiynadwy coll’ sydd eu hangen arnoch i gyfrifo faint y bydd yn ei gostio i brynu’r pensiwn coll hwn yn ôl. Gallwch brynu pensiwn yn ôl trwy ymrwymo i gontract Cyfraniad Pensiwn Ychwanegol (CPY).
Bydd eich cyflogwr yn darparu’ch ffigwr tâl pensiynadwy coll i chi – bydd ei angen arnoch wrth ddefnyddio’r Cyfrifiannell CPY ar-lein i gyfrifo’r gost prynu’ch pensiwn coll yn ôl:
https://www.lgpsmember.org/more/apc/lost.php
Os ydych yn dewis prynu’r pensiwn coll yn ôl o fewn 30 diwrnod o ddychwelyd i’r gwaith (neu unrhyw gyfnod hirach y mae’ch cyflogwr yn ei ganiatáu), bydd y gost o brynu’r pensiwn yn ôl yn cael ei rhannu rhyngoch chi a’ch cyflogwr; 1/3 i chi a 2/3 i’ch cyflogwr. (I gael rhagor o wybodaeth am eich cyflogwr yn ymestyn y ffenestr 30 diwrnod hon, cysylltwch â’ch cyflogwr).
Mae gennych yr opsiwn i brynu pensiwn coll yn ôl fel cyfandaliad untro (wedi’i ddidynnu o’ch cyflog) neu’n fisol dros isafswm o 12 mis. Os ydych yn dymuno talu’n fisol, mae’n bosib y bydd angen i chi gael archwiliad meddygol gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig (yn gost i chi) i gadarnhau eich bod mewn iechyd gweddol dda.
Os ydych yn penderfynu prynu pensiwn coll yn ôl ar ôl cyfrifo’r gost, argraffwch y Ffurflen Ar-lein a dychwelwch gopi i’ch cyflogwr. Bydd eich cyflogwr yn trefnu bod y cyfraniadau’n cael eu didynnu o’ch cyflog ac yn gyrru copi o’r ffurflen i’ch Cronfa Pensiwn.
Os ydych yn penderfynu peidio â thalu’r pensiwn coll yn ôl, bydd y pensiwn sydd wedi cronni yn ystod y flwyddyn gynllun (1 Ebrill i 31 Mawrth) y mae eich cyfnod o absenoldeb yn berthnasol iddi yn llai o ganlyniad, sy’n golygu bod y pensiwn sy’n daladwy ar eich ymddeoliad yn llai. Efallai y bydd hefyd yn cael effaith ar y dyddiad y gallwch ymddeol a derbyn taliad buddion heb ei leihau cyn eich Oed Pensiwn Arferol (OPA).
Beth os ydw i’n talu cyfraniadau ychwanegol?
Bydd unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) rydych yn eu talu yn parhau i gael eu didynnu o’ch tâl yn ystod eich cyfnod o absenoldeb, ar yr amod eich bod yn derbyn digon o dâl i dalu am eich cyfraniad. Fodd bynnag, os ydych yn talu tuag at CGY ar gyfer yswiriant bywyd ychwanegol, bydd yn rhaid i chi wneud eich trefniadau eich hun i barhau i dalu’r cyfraniadau ychwanegol yn ystod eich absenoldeb i sicrhau nad yw’ch yswiriant yn darfod.
Os ydych chi’n talu Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol (CRhY) neu Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY) tuag at brynu pensiwn ychwanegol, neu os ydych chi’n prynu Blynyddoedd Ychwanegol, rhaid i chi barhau i dalu’r cyfraniadau yn ystod eich cyfnod o absenoldeb, neu bydd eich contract yn dod i ben.
Beth am ddyddiau Cadw mewn cysylltiad (CMC)?
Mae dyddiau Cadw mewn Cysylltiad (CMC) fel arfer ar gael yn ystod cyfnod o absenoldeb sy’n gysylltiedig â phlant. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud hyd at 10 niwrnod o waith a chael eich talu. Mae unrhyw dâl rydych yn ei dderbyn am weithio diwrnod CMC yn cael ei drin yn bensiynadwy. Cysylltwch â’ch cyflogwr am ragor o wybodaeth ar y mater hwn.
Ble allwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Mae’r ffeithlen hon yn rhoi arweiniad cyffredinol yn unig, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe:
Ffôn: 01792 636655
E-bost: pensiynau@abertawe.gov.uk
Ymwadiad
Nid yw’r Gronfa Bensiwn yn gallu darparu unrhyw gyngor ariannol. Ar ôl i chi ddarllen y ffeithlen hon, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor ariannol annibynnol ar gyfer gwneud eich penderfyniad.
Efallai bydd y cyrff yma yn gallu eich helpu:
Unbiased: https://unbiased.co.uk/
MoneyHelper: https://www.moneyhelper.org.uk/en/pensions-and-retirement/taking-your-pension/find-a-retirement-adviser