Os oes gennych o leiaf 2 flynedd o aelodaeth (neu os ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i’r Cynllun) ac mae eich cyflogwr yn dod â’ch cyflogaeth i ben oherwydd salwch, gellir talu’ch buddion pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar unwaith, heb unrhyw ostyngiad ar gyfer taliad cynnar cyn eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA).
Gellir talu buddion salwch ar unrhyw oedran ac efallai y cânt eu cynyddu i roi ystyriaeth i’ch salwch. Bydd y cynydd a all gael ei ddyfarnu yn cael ei ddyfarnu dan drefniant haenog, gan ddibynnu ar ba mor tebygol yw y byddwch yn gallu cael gwaith cyflogedig.
Sut mae salwch yn cael ei asesu?
Rhaid i’ch cyflogwr gael barn gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig Annibynnol (YMCA) cymeradwy sy’n gymwys mewn meddygaeth iechyd galwedigaethol. Yna mae’n rhaid i’ch cyflogwr fod yn fodlon:
- • eich bod yn barhaol analluog i gyflawni’ch swydd; a
- • nid ydych yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig yn syth (cyflogaeth â thâl am ddim llai na 30 awr yr wythnos am ddim llai na 12 mis).
Nodwch fod barhaol analluog yn golygu hyd at eich Oedran Pensiwn Arferol (OPA), sydd ar hyn o bryd yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (OPW) o dan Gynllun 2014 ac a allai felly newid yn y dyfodol.
Beth yw’r broses?
Bydd eich cyflogwr yn cyfeirio eich achos at yr YMCA, a fydd yn rhoi barn yn seiliedig ar y dystiolaeth feddygol a gyflwynwyd gan eich cyflogwr, Meddyg Teulu ac unrhyw Feddyg Ymgynghorol neu Arbenigwr y gallech fod wedi ei weld mewn cysylltiad â’ch salwch.
Efallai y bydd gofyn i chi gael Archwiliad Meddygol gan yr YMCA i asesu’ch cyflwr. Ar ôl yr asesiad, anfonir tystysgrif at eich cyflogwr, a fydd yn nodi barn yr YMCA ynghylch a ydych yn barhaol analluog i ymgymryd â’ch swydd, y tebygolrwydd o ymgymryd ag unrhyw waith cyflogedig, a’r haen debygol o fuddion y gellid ei dyfarnu (os o gwbl).
Beth yw’r gwahanol haenau?
Haen 1
Os yw’r YMCA o’r farn eich bod yn annhebygol o allu ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn eich OPA, y cynnydd i’ch pensiwn fydd swm y pensiwn Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio y byddech wedi cronni o’r diwrnod yn dilyn eich dyddiad ymddeoliad salwch hyd at eich OPA.
Mae’r cynnydd hwn yn seiliedig ar eich Tâl Pensiwn Tybiedig (TPT), sy’n gyfartaledd o’r tâl pensiynadwy y byddech wedi’i ennill yn ystod y 3 mis cyflawn (neu 12 wythnos pe bai’n cael ei dalu’n wythnosol) cyn eich dyddiad gadael.
Haen 2
Os yw’r YMCA o’r farn eich bod yn annhebygol o allu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd ô adael eich swydd, ond mae’n debygol y byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn eich OPA, y cynnydd a ddyfernir fydd 25% o hynny a roddir dan Haen 1 h.y., 25% o swm y pensiwn Cyfartaledd Cyflog Gyrfa Wedi’i Adbrisio y byddech wedi’i gronni o’r diwrnod yn dilyn eich dyddiad ymddeol o salwch i’ch OPA.
Haen 3
Os yw’r YMCA o’r farn eich bod yn debygol o allu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd i’ch swydd neu cyn eich OPA (os yn gynharach), bydd y buddion yr ydych wedi’u cronni hyd at ddyddiad eich ymddeoliad salwch yn daladwy heb unrhyw gynnydd. Yn wahanol i Haen 1 a 2, nid yw’r dyfarniad buddion hwn yn daladwy am eich oes. Bydd pensiwn Haen 3 yn dod i ben yn syth ar ôl dechrau gwaith cyflogedig neu ar ôl uchafswm o 3 blynedd.
A fydd eich achos yn cael ei adolygu?
Ddim o dan Haen 1 neu 2, ond bydd eich cyflogwr yn eich cyfeirio am adolygiad os dyfernir pensiwn Haen 3. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan yr YMCA ar ôl i’ch buddion cael eu dalu am 18 mis, fel y gellir asesu eich cyflwr salwch i weld a yw wedi gwella neu waethygu. Os yw eich salwch wedi gwaethygu, efallai y byddwch yn gymwys i’ch buddion gael eu cynyddu i Haen 2. Os yw eich cyflwr wedi gwella, bydd taliad eich pensiwn yn dod i ben o ddyddiad yr asesiad.
Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth eich cyn-gyflogwr os ydych chi’n ymgymryd ag unrhyw fath o gyflogaeth tra bod eich pensiwn Haen 3 yn cael ei dalu i chi. Yna bydd eich cyn-gyflogwr yn penderfynu a yw’r gyflogaeth hon yn cydymffurfio â rheolau gwaith cyflogedig. Sylwer y bydd unrhyw ordaliad pensiwn yn cael ei adennill gan y Gronfa Bensiwn.
Beth os ydych chi eisoes wedi rhoi’r gorau i dalu i mewn i’r Cynllun?
Os ydych wedi rhoi’r gorau i dalu i mewn i’r CPLlL ac wedi gohirio eich buddion (eu gohirio tan eich OPA), mae gennych yr hawl i ofyn am dalu’r buddion hyn ar sail salwch (beth bynnag yw eich oedran). Dylech gysylltu â’ch cyn-gyflogwr i wneud y cais hwn. Yna caiff eich achos ei asesu yn yr un modd gan YMCA, fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn unrhyw gynnydd i’ch buddion, gan nad oes haenau o fuddion salwch i aelodau gohiriedig.
Hawl Apelio
Os ydych chi’n anfodlon ar y dyfarniad o’r buddion salwch, mae gennych hawl i apelio o dan y Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (GDAM). Dylid apelio yn ysgrifenedig o fewn 6 mis o ddyddiad penderfyniad eich cyflogwr a’i anfon at y person a nodwyd gan eich cyflogwr. Cysylltwch â’ch cyflogwr i gael rhagor o wybodaeth am y broses GDAM.
Sylwer
Os ydych wedi derbyn pensiwn Haen 1 neu 2 o’r CPLlL o’r blaen neu wedi derbyn pensiwn salwch CPLlL cyn 1 Ebrill 2008, gellir capio unrhyw gynnydd neu efallai na fydd yn berthnasol hyd yn oed, os ydych am ymddeol eto am resymau salwch.
Hefyd, os ydych wedi derbyn pensiwn Haen 3 sydd bellach wedi dod i ben oherwydd bod eich cyflwr wedi gwella neu fod y cyfnod 3 blynedd wedi dod i ben, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn dyfarniad Haen 3 arall fel aelod o’r CPLlL, hyd yn oed os ydych chi’n cael eich cyflogi gan gyflogwr gwahanol neu gyda Chronfa Bensiwn arall.
Os ydych chi’n aelod ad-daliad gohiriedig nad oedd gennych ddigon o aelodaeth yn y cynllun i fod yn gymwys am fuddion gohiriedig, nid ydych yn gymwys i dderbyn taliad unrhyw fuddion oherwydd salwch.