• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe

Search

  • Hafan
    • Cyflwyniad
    • Hunanwasanaeth i Aelodau – Fy Mhensiwn ar-lein
    • Links
    • Ymwadiad
    • Cysylltwch â ni
  • Gweithwyr Presennol
    • Ymuno â’r LGPS
      • Beth fydd y gost?
      • Trosglwyddo Buddion Pensiwn Blaenorol
    • Yn Ystod eich Aelodaeth
      • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY)
      • Absenoldeb o’r gwaith
      • Ysgariad neu Ddiddymu Partneriaeth Sifil
      • Adran 50/50
      • Diogelu Buddion Pensiwn
      • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY)
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael y Cynllun
      • Dewisiadau
      • Rhyddid a Dewis
    • Ymddeoliad
      • Pryd gaf ymddeol?
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudiad
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Salwch
      • Diswyddiad/Effeithlonrwydd
      • Ymddeoliad Hyblyg
      • Aelodau – Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Marwolaeth mewn Swydd
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau Plant
    • Diogelu Buddion Pensiwn
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Aelodau Gohiriedig
    • Aelodaeth cyn 1 Ebrill 2014
    • Gadael ar neu ar ôl 1 Ebrill 2014
    • Trosglwyddo eich buddion
    • Salwch
    • Marw ar ôl Gohirio Budd-daliadau
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Newid Cyfeiriad (Wedi’i ohirio)
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Member guide – A short guide to the Local Government Pension Scheme (LGPS)
    • Canllaw i’ch Ymddeoliad o’r Cynllun Pensiwn Llywodareth Leol (CPLlL)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Pensiynwyr
    • Sut rwy’n ymddeol?
    • Talu Pensiwn
    • Treth Incwm
    • Dyddiadau Taliadau
    • Cynyddu Pensiynnau
      • Cynyddu Pensiynau a’r Cysylltiad â Chynllun y Wladwriaeth
    • Newid Cyfeiriad neu Fanylion Banc
    • Marwolaeth mewn Ymddeoliad
      • Grant Marwolaeth
      • Budd-daliadau Goroeswr
      • Pensiynau plant
    • Olrhain Hawliau Pensiwn Blaenorol
    • Pensiwn y Wladwriaeth
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cynghorwyr
    • Gadael y Cynllun
      • Ad-dalu Cyfraniadau
      • Budd-daliadau Gohiriedig
      • Trosglwyddo eich budd-daliadau
    • Ymaelodi â’r Cynllun
    • Yn Ystod Aelodaeth
    • Ymddeoliad
      • Cyfrifo’ch Budd-daliadau
      • Cymudo
      • Ymddeoliad Arferol
      • Ymddeoliad Cynnar
      • Ymddeoliad Hwyr
      • Ymddeoliad Oherwydd Salwch
    • Budd-daliadau Marwolaeth
      • Marwolaeth Mewn Swydd
      • Marw ar ôl Gohirio Buddion
      • Marwolaeth ar ôl Ymddeol
    • Canllaw i aelodau sy’n gynghorwyr – Canllaw byr i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL) ar gyfer cynghorwyr cymwys yng Nghymru
    • Beth fydd y gost?
    • Trosglwyddo Budd-daliadau Pensiwn Blaenorol
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ffurflenni a Thaflenni
  • Cyflogwyr
    • Dogfennau Gweinyddol
      • Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
      • Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid
    • Cofrestru Awtomatig
    • Cyflwyniadau a Seminarau
    • Rheoliadau LGPS
    • Gweithdrefn Datrys Anghydfodau Mewnol (IDRP)
    • Ardal Ddiogel i Gyflogwyr
      • Arweiniad Cyflogwr
      • Gymdeithas Llywodraeth Leol
      • Ffurflenni Cyflogwyr
  • Buddsoddi a’r Gronfa
    • Dogfennau Polisi
    • Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi
    • Prisiannau Actiwaraidd
    • Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol
    • Dogfennau gweinyddol
    • Pension Fund Data Quality
  • Newyddion
    • Videos – Pensions made simple by the LGPS
  • Cymraeg
    • English

Steph Rutt

27 Medi 2019 By Steph Rutt

Cronfa bensiwn y cyngor yn ennill gwobr am fyw’n wyrdd

Cydnabyddir cronfa bensiwn Cyngor Abertawe fel y cynllun llywodraeth leol gorau yn y DU am fuddsoddiad cynaliadwy.

Dros y blynyddoedd diwethaf, cymerwyd camau allweddol i leihau ôl troed carbon y gronfa drwy dorri swm yr arian a fuddsoddir mewn cwmnïau â dwysedd carbon uchel.

Nawr, mae’r gronfa gwerth £2.1 biliwn y mae rheolwyr Cyngor Abertawe’n ei rheoli ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a nifer o gyflogwyr eraill yn yr ardal, wedi’i chydnabod yng ngwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol sy’n dathlu llwyddiant arbennig cronfeydd pensiwn a darparwyr gwasanaethau.

Abertawe enillodd y wobr am y gronfa â’r Ymagwedd Orau at Fuddsoddi Cynaliadwy yn y DU.

Meddai Clive Lloyd, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiwn y cynllun, “Ystyrir Gwobrau Buddsoddi Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol fel arwydd o ragoriaeth ym maes darpariaeth pensiwn felly mae’n bleser gennyf ddweud bod y gwaith a wneir yn Abertawe’n cael ei gydnabod.

“Ni oedd y cynllun pensiwn llywodraeth leol gyntaf yng Nghymru – ymhlith nifer bach yn y byd – i gomisiynu adolygiad o’n portffolio buddsoddi ecwiti i ganfod graddau ein buddsoddiadau carbon a thanwydd ffosil.

“Ers hynny rydym wedi symud gwerth £0.5 biliwn o asedau i gronfeydd olrhain mynegai carbon isel gan leihau lefel o fuddsoddiadau mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â charbon ymhellach.

“Byddwn yn parhau â’r ymagwedd hon a byddwn yn lleihau ein cyswllt â buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil ymhellach.

“Hoffwn ddiolch i’n pwyllgor y gronfa bensiwn a’n hymgynghorwyr sydd wedi bod yn gweithio’n galed i leihau ôl troed carbon y gronfa er mwyn gwneud hyn yn bosib.”

Filed Under: Featured @cy

16 Awst 2019 By Steph Rutt

Cronfa Bensiwn yn dechrau lleihau ei hôl troed carbon ar ôl trosglwyddo £0.5bn

Mae un o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol mwyaf Cymru wedi dechrau lleihau ei hôl troed carbon trwy leihau cyfanswm yr arian y mae’n ei fuddsoddi mewn cwmnïau gyda dwysedd carbon uchel.

Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Dinas a Sir Abertawe’n rheoli cronfeydd gwerth £2.1bn ar gyfer cynghorau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ogystal â nifer o gyflogwyr eraill yn yr ardal.

Erbyn hyn, mae’r gronfa wedi dechrau lleihau ei lefel o fuddsoddiadau, sydd eisoes yn isel, mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â charbon.

Erbyn diwedd y mis hwn (Gorffennaf 2019) caiff asedau gwerth £0.5bn eu trosglwyddo i gronfa olrhain mynegai carbon isel yn dilyn rhaglen hyfforddiant ymddiriedolwyr, felly mabwysiadwyd Polisi Llywodraethu Cymdeithasol, Amgylcheddol (LlCA) o ganlyniad, a oedd yn canolbwyntio ar leihau ei ôl troed carbon.

Filed Under: Featured @cy

17 Ebrill 2019 By Steph Rutt

Newidiadau i fuddion goroeswyr ar gyfer gwŷr/gwragedd a phartneriaid sifil o’r un rhyw

Mae newid wedi’i wneud i reolau’r cynllun fel bod buddion goroeswr sy’n daladwy i ŵr/gwraig neu bartner sifil o’r un rhyw yn gyfartal â’r rheiny a delir i wraig weddw aelod gwrywaidd. 

Pam mae’r newid wedi’i wneud?

Mae’r newid wedi’i wneud o ganlyniad i ddyfarniad y Goruchaf Lys (Walker yn erbyn Innopsec) a gafodd fod gan ŵr Mr Walker hawl i’r un buddion a’r rheiny a fyddai wedi cael eu talu pe bai Mr Walker wedi gadael gwraig weddw mewn priodas o’r ddau ryw.

Pam mae hyn yn berthnasol i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Mae’r llywodraeth yn credu mai goblygiad y dyfarniad hwn i holl gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yw y dylai partneriaid sifil sy’n goroesi neu wŷr/gwragedd o’r un rhyw sy’n goroesi gael buddion sy’n gyfartal â’r rheiny a fyddai’n cael eu gadael i wraig weddw aelod gwrywaidd. 

Pryd mae’r newid yn dod i rym?

Bydd y newid yn cael ei ôl-ddyddio i’r dyddiad pan gyflwynwyd partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw, sef 5 Rhagfyr 2005 yn achos partneriaethau sifil a 13 Mawrth 2014 yn achos priodasau o’r un rhyw.

Mae hyn yn golygu, os yw aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol wedi marw gan adael partner sifil neu ŵr/gwraig o’r un rhyw sy’n goroesi, y bydd angen adolygu’r pensiwn sy’n cael ei dalu i’r goroeswr a thalu unrhyw symiau ychwanegol, lle bo hynny’n berthnasol. Rydym wrthi’n adolygu effaith y newid hwn a byddwn yn cysylltu â phartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o’r un rhyw yr effeithir arnynt maes o law.

Rhoddir ystyriaeth i’r newid yn awtomatig mewn perthynas â buddion goroeswyr a delir i bartneriaid sifil a gwŷr/gwragedd o’r un rhyw yn y dyfodol.

Filed Under: Featured @cy

  • « Go to Previous Page
  • Page 1
  • Page 2

Footer

Manylion cyswllt

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
Neuadd y Ddinas
Abertawe
SA1 4PE
01792 636655
pensiynau@abertawe.gov.uk

Hysbysiad preifatrwydd

 

Newyddion diweddaraf

  • Wythnos Ymwybyddiaeth o Bensiynau
  • Partneriaeth Pensiwn Cymru: Addas i’r Dyfodol – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau a Chyflogwyr y Cynllun Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Dangosfyrddau Pensiwn
  • Dyfarniad McCloud – Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Aelodau
  • Enillydd Gwobr y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Orau

Mewngofnodwch (gweithwyr yn unig)

Mewngofnodwch i'r safle.

Return to top of page

Copyright © 2025 City and County of Swansea Pension Fund

  • English
  • Cymraeg